Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi wfftio galwadau gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i Gymru gael cyfran o’r arian sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer prosiect rheilffordd HS2.

Mewn cyfweliad â rhaglen Y Byd yn ei Le, dywedodd David TC Davies na ddylai Cymru dderbyn unrhyw arian o’r prosiect gwerth £96bn.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr, sy’n golygu na fydd Cymru’n elwa yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon yn sgil arian rheilffordd ychwanegol o ganlyniad i’r prosiect.

Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd, pe bai’r rheilffyrdd wedi cael ei ddatganoli, byddai Cymru wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol o £514m yn ei seilwaith rheilffyrdd rhwng 2011-12 a 2019-20, o ganlyniad i fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn HS2.

Y llynedd fe alwodd y pwyllgor trawsbleidiol Materion Cymreig am gyfeirio at y cynllun rheilffyrdd fel prosiect ‘Lloegr yn unig’, gan ddweud eu bod “yn awgrymu y byddai ailddosbarthu o’r fath yn helpu sicrhau bod teithwyr rheilffordd Cymru yn cael yr un fantais yn sgil buddsoddiad yn HS2 â’r rhai yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon”.

Dadlau o fewn y blaid Geidwadol

Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol y llynedd, dywedodd Andrew RT Davies y dylai Cymru gael “ei chyfran deg o wariant HS2”.

Ond yn ôl David TC Davies, bydd Cymru yn elwa digon ar y prosiect fel y mae hi.

“Fe fydd amser y daith yn cael ei thorri rhwng gogledd Cymru a Llundain, a bydd y gyllideb drafnidiaeth yn codi beth bynnag,” meddai.

“Hefyd, mae nifer o gwmnïau yng Nghymru yn rhan o’r gadwyn gyflenwi sydd yn darparu ar gyfer y prosiect.”