Mae Coleg Cambria wedi lansio cymhwyster hyblyg, rhad ac am ddim i ddarpar swyddogion heddlu.

Bydd safle Glannau Dyfrdwy y coleg yn cyflwyno cwrs Lefel 3 mewn Mynediad i Blismona o fis Medi.

I ddod yn swyddog heddlu yn y Deyrnas Unedig, mae angen bod dros 18 oed a chwblhau Prentisiaeth Gradd Cwnstabl Heddlu neu fod wedi cwblhau gradd mewn unrhyw bwnc.

Dywed Gemma Ible, Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Mynediad ac Addysg Uwch yng Ngholeg Cambria, fod y rhaglen yn gam tuag at yrfa yn y maes cyfiawnder troseddol i unrhyw un sy’n 19 oed neu’n hŷn nad ydyn nhw mewn addysg ac yn edrych am dudalen lân.

“Mae darpar ymgeiswyr wedi dangos diddordeb ac rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol yn barod oherwydd bydd hyn yn sail gadarn a fydd yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i swydd yn yr heddlu, naill ai yng Nghymru neu dros y ffin yn Lloegr,” meddai.

“Byddwn ni’n datblygu eu sgiliau academaidd a’u gwybodaeth gefndirol er mwyn iddyn nhw allu symud ymlaen i astudio gradd mewn plismona neu bwnc cysylltiedig yn y brifysgol erbyn diwedd y flwyddyn.

“Mae’r diploma yma yn newydd i Gymru, a ni ydi’r coleg cyntaf yn y rhanbarth yma i’w gyflwyno o fis Medi felly mae’n gyfle arbennig i unrhyw un sydd eisiau gweithio yn y sector.”

Y cwrs

Mae’r cwrs wedi’i ariannu’n llawn, a bydd cael ei gyflwyno dros bedwar diwrnod yr wythnos.

Caiff y cwrs ei achredu gan Agored Cymru, ac mae modiwlau gorfodol yn cynnwys Astudiaethau Sgiliau Craidd, Troseddeg a Phwerau’r Heddlu, Rhifedd, Sgiliau Academaidd, a Chyflwyniad i Blismona Modern.

“Byddwn ni’n pontio’r bwlch wrth gynorthwyo’r bobl sydd â’r gallu ac empathi i ddod yn swyddogion heddlu arbennig ond does ganddyn nhw ddim y cefndir academaidd,” meddai Gemma Ible.