Mae busnes gemwaith a llestri T. J Davies a’i Fab yn Aberystwyth yn paratoi i gau ei drysau, ar ôl bod yn gwasanaethu’r dref ers 75 mlynedd, ac mae’r teulu’n dweud eu bod nhw’n ddyledus i’w staff.
Mae merch perchennog y siop yn dweud “bydd yr wythnosau nesaf yma yn anodd i ni”, ond ei fod hefyd yn “gyfnod cyffrous”.
Rhan o’r rheswm pam fod y siop yn cau yw oherwydd marwolaeth sydyn John Davies, y perchennog, oedd hefyd yn berfformiwr jazz brwd ac yn dad i’r telynor Rhodri Davies a’r feiolinydd Angharad Davies.
Mae hon yn siop deuluol annibynnol sydd wedi gwasanaethu cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda John Davies yn ffigwr pwysig yn y gymuned leol.
Cafodd y siop ei sefydlu gan Titus John Davies, tad John Davies, yn 1948.
Yn wreiddiol o Bencader, cafodd Titus John Davies ei hyfforddi i fod yn optegydd a gemydd gan Cecil Jones yn Llandysul ac yna yn Aberystwyth.
Cyfnod anodd ond cyffrous
Mae yna deimladau cymysg wrth weld cwsmeriaid yn prynu nwyddau yn y sêl ddechreuodd yno ar Ragfyr 8.
Yn ychwanegol, cafodd prisiau’r gemwaith i gyd eu torri yn eu hanner ar Ionawr 7.
“Bydd yr wythnosau nesaf yma yn anodd i ni gyd wrth gwrs, ond ar y llaw arall mae’n gyfnod cyffrous gan fod cymaint o’r pethau prydferth sydd yma wedi cael eu dewis gan Mam a Dad ar hyd y blynyddoedd, a dyma sydd wedi’i gwneud yn siop annibynnol mor unigryw,” meddai Angharad Davies, merch John Davies, wrth golwg360.
“Er ei bod yn drist gweld y silffoedd yn gwagio mae’n galonogol meddwl bod popeth yn cael ei brynu gan gwsmeriaid ffyddlon a phobol sydd â chysylltiad cryf â’r siop.
“Oherwydd yr ymateb positif o’n cwsmeriaid ffyddlon, mae’r sêl yn symud yn gyflymach na’r disgwyl felly byddwn yn annog pawb i ddod lan i Aberystwyth yn fuan iawn os oes ganddynt ddiddordeb!”
Cwsmeriaid amrywiol
Mae’r siop wedi denu amrywiaeth o gwsmeriaid o bedwar ban byd, ac un lle y bydden nhw’n dod o hyd i gwsmeriaid oedd yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Dros y blynyddoedd mae’r siop wedi denu cwsmeriaid o bob rhan o Gymru,” meddai Angharad Davies wedyn.
“Roedd y busnes yn denu pob math o bobol, gan gynnwys enwogion a phobol o bob cwr o’r byd.
“Bu mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol gyda stondin yn y Neuadd Arddangos am dros 15 o flynyddoedd yn rhan bwysig iawn i Dad, ac yn gyfle i gwrdd â chwsmeriaid newydd a chysylltu gyda busnesau annibynnol eraill Cymru.”
Calon y gymuned
Yn ymroddedig i’w waith, roedd John Davies a’i fusnes yng nghalon y gymuned.
Roedd yn ddawnus mewn sawl maes, yn enwedig yn y byd cerddorol, ac roedd gwneud gwaith elusennol yn bwysig iddo hefyd.
“Roedd cymuned Aberystwyth yn meddwl popeth i John,” meddai ei wraig Ann.
“Roedd dwy ochr i’w bersonoliaeth.
“Roedd yn emydd ymroddedig a fwynhaodd gwmni ei gwsmeriaid ac yn mynd y filltir ychwanegol i’w helpu.
“Byddai hefyd wrth ei fodd yn tyfu rhosod yn yr ardd er mwyn gosod blodau ffres yn y siop bob dydd.
“Roedd hefyd yn drwmpedwr dawnus ac yn gerddor a chwaraeodd gyda’r band tref leol, Aber Jazz, Philomusica, Gilbert a Sullivan, a bu’n arwain y band Arian Iau am flynyddoedd.
“Canodd hefyd mewn pedwarawd gyda Mary Morris, ac Iona a Tom Jones.
“Cysegrodd ei fywyd i waith elusennol ac roedd yn un o sylfaenwyr Clwb y Llewod ac yn siaradwr cyhoeddus medrus.”
Staff o’r gymuned leol
Nid yn unig roedd yn fusnes teuluol, ond roedd yn cyflogi staff o’r gymuned leol hefyd.
Mae nifer o’r staff wedi mynd yn eu blaenau i greu gyrfaoedd disglair iddyn nhw eu hunain.
“Roedd Dad yn y siop gemwaith a Mam yn y siop lestri, a dros 100 o bobl wedi gweithio yn T.J. Davies ar hyd y blynyddoedd – rhai llawn amser, eraill fel swydd dydd Sadwrn,” medd Rhodri Davies, mab John.
“Mae rhai o’r staff wedi mynd ymlaen i wneud pob math o bethau – cyfreithwyr, nyrsys, doctoriaid, athrawon, cyfrifwyr, ysgrifennu sgriptiau Pobol y Cwm, cynhyrchydd ffilm a theledu, heddlu a gweithio i’r Cenhedloedd Unedig.”
Mae’r teulu’n dweud eu bod yn ddyledus iawn i’w staff tymor hir ffyddlon am eu holl gefnogaeth a’u teyrngarwch, yn enwedig yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf ers iddyn nhw golli John Davies.