Mae’r holl docynnau ar gyfer cynhadledd sydd i’w chynnal ddiwedd y mis i drafod annibyniaeth i Gymru wedi’u gwerthu.
Roedd yna 200 o docynnau ar werth ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar Ionawr 28, sydd wedi ei threfnu gan y grŵp polisi Melin Dafod.
Bydd y trafodaethau yn cynnwys areithiau gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru; Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru; a’r cynghorydd Llafur Rachel Garrick.
Ymhlith y siaradwyr eraill yn yr Uwchgynhadledd mae Sam Coates o Undod, y mudiad adain chwith sydd o blaid annibyniaeth; Gwern Evans, Prif Weithredwr YesCymru; Joseph Gnagbo; Luke Fletcher, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd; a Mirain Owen o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
‘Annibyniaeth i Gymru o fewn ein cyrraedd’
“Mae annibyniaeth i Gymru o fewn ein cyrraedd, ond mae angen cynllun arnon ni i ddefnyddio pwerau annibyniaeth i gyd-greu cymdeithas deg, werdd a flaengar,” meddai Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod.
“Os ydyn ni’n cael y cynllun yn iawn, gallwn ni fod yn enghraifft i weddill y byd.”
“Cyfle euraidd”
“Mae’r uwchgynhadledd hon yn gyffrous, gyda mudiadau blaengar Cymru o blaid annibyniaeth sy’n arwain yr achos dros genedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus yn dod ynghyd,” meddai Adam Price.
“Mae’n bleser cael gwahoddiad i annerch yr uwchgynhadledd ac rwy’n edrych ymlaen at rannu syniadau newydd gyda phobl sy’n rhannu’r weledigaeth honno.
“Gyda San Steffan yn tanseilio democratiaeth Cymru drwy’r amser, mae hwn yn gyfle euraidd i wahodd hyd yn oed mwy o bobl i ymuno â ni ar y daith o fod yn chwilfrydig i hyderus am annibyniaeth.”