Y newyddion mawr yr wythnos hon oedd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi pa geisiadau am gyllid o’r gronfa Codi’r Gwastad oedd wedi bod yn llwyddiannus.
Bwriad y gronfa yw disodli’r arian oedd yn arfer dod yn uniongyrchol o Ewrop cyn yr arbrawf gwallgof maen nhw’n ei alw’n Brexit.
A hithau yn £4.8bn, mae cyfanswm maint y gronfa yn fwy na’r rhan fwyaf o gronfeydd tebyg eraill megis y gronfa trefi neu gronfa adnewyddu cymunedol.
Fodd bynnag, dydi’r arian dan sylw ddim ond yn gyfystyr â thua 0.2% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) eleni, ac mae’n llawer llai na’r toriad o fwy na £10bn i bŵer gwario llywodraeth leol ers 2010.
Mae hyd yn oed y cymariaethau hyn i ffigurau blynyddol yn gorbwysleisio maint y gronfa yn sylweddol oherwydd y bydd yn cael ei wario dros sawl blwyddyn.
Doedd y cyhoeddiad dydd Iau (Ionawr 19) ddim ond yn cwmpasu £2bn o’r cyfanswm, ac o’r gyfran gyntaf o’r cyllid gafodd ei ddyrannu y llynedd, dim ond £243m sydd wedi’i wario wrth i brosiectau gymryd amser i ddechrau.
Cymru ar ei cholled?
Fodd bynnag, cael eu siomi wnaeth rhannau sylweddol o’r Deyrnas Unedig – yn enwedig rhai sydd ddim yn seddi Ceidwadol – a doedd hi ddim gwahanol yma yng Nghymru.
Fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf gyflwyno cais am arian i ddod â swyddi i Gwm Cynon. Cafodd y cais am £17.8m ei wrthod.
Ni fydd Sir y Fflint chwaith yn derbyn unrhyw arian o’r gronfa Codi’r Gwastad. Cafodd cais gwerth £36m i ‘hybu adfywio’ ei wrthod.
Cafodd cais Wrecsam am £18.5m ar gyfer prosiect Porth Wrecsam ei wrthod hefyd.
Yn ne Cymru, cafodd cais gwerth £20m i barhau gyda chynlluniau adfywio lleol yn Y Barri ei wrthod.
Cafodd y cais i ariannu datblygiadau trafnidiaeth yn Ogwr hefyd ei wrthod.
Roedd cais Casnewydd am £20m yn canolbwyntio ar helpu i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd gwaith yn yr ardal, ond cafodd ei wrthod.
Yn wir, ni chafodd Ceredigion, Sir Benfro, Powys a Sir Gâr yr un geiniog o arian Codi’r Gwastad.
Rŵan, does dim modd gwadu y bydd yr ardaloedd hynny sydd wedi derbyn cyllid yn manteisio arni.
Mae’n debyg y bydd yr arian gafodd ei ddyrannu ar gyfer canolfan ymwelwyr newydd yng Nghaergybi yn cael ei groesawu gan drigolion y fam ynys.
Bydd £208m ar gael hefyd i ailddatblygu’r Pafiliwn ym Mhorthcawl, yn ogystal ag uwchraddio adeiladau treftadaeth yn Rhuthun a chefnogi Cam 1 o ‘Crossrail Caerdydd’.
Ond ar y cyfan, bychan fydd effaith y prosiectau hyn o ystyried y darlun ehangach.
Ac o gofio addewid Llywodraeth y Deyrnas Unedig na fyddai Cymru yn colli allan yn ariannol yn sgil Brexit, mae’n anodd iawn peidio dod i’r casgliad ein bod ni, unwaith eto, ar ein colled.