Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yw arolwg bywyd gwyllt yr ardd mwyaf y byd, ac mae’n rhoi cipolwg o sut mae adar yr ardd yn ymdopi yn y Deyrnas Unedig.

Yn 2022, roedd dros 36,269 o bobol wedi cymryd rhan ym mhob cwr o Gymru, gan gyfri dros 712,641 o adar.

Gan fod adar nawr yn wynebu cynifer o heriau o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd a natur, mae pob cyfrif yn bwysig.

Mae arolwg bywyd gwyllt yr ardd mwyaf y byd yn ei ôl wrth i filoedd o bobol wylio a chyfrif adar yng ngerddi Cymru dros y penwythnos olaf ym mis Ionawr ar gyfer digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB.

Eleni, mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar Ionawr 27, 28 a 29, ac mae gofyn i bobol dreulio awr yn gwylio ac yn cofnodi’r adar yn eu gardd, ar eu balconi neu yn euarc lleol, ac anfon eu canlyniadau i’r RSPB.

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn 44 oed eleni.

Gan ddechrau yn 1979, mae wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd, sy’n helpu i roi cipolwg gwerthfawr i’r RSPB o sut mae adar yr ardd yn ymdopi yn y Deyrnas Unedig.

Dros y cyfnod hwnnw, mae 172m o adar wedi cael eu cyfrif, ac mae bron i 11m o oriau wedi cael eu treulio yn gwylio adar yr ardd.

‘Cyfrannu at y darlun blynyddol’

“Drwy gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd, rydych chi’n cyfrannu at ein darlun blynyddol o sut mae ein hadar yn ymdopi ar hyd a lled Cymru,” meddai Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.

“Dim ond wrth inni ddeall sut mae ein bywyd gwyllt yn ymdopi y gallwn ni ei amddiffyn. Gwyddom fod byd natur mewn argyfwng ond gyda’n gilydd gallwn gymryd camau i ddatrys y problemau hyn.

“Ymunwch â ni ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd 2023 a gyda’n gilydd, gadewch i ni weithredu i warchod a diogelu ein hadar a’n bywyd gwyllt am genedlaethau i ddod.

“Mae awr o’ch amser yn golygu cymaint i’r natur sydd ar garreg eich drws.”

Aderyn y to sy’n dal ar frig rhestr Gwylio Adar yr Ardd gan mai dyma’r aderyn sy’n cael ei weld amlaf mewn gerddi yng Nghymru.

Y Ddrudwen sydd yn yr ail safle a’r Titw Tomos las yn y trydydd safle.

Dros bedwar degawd mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd wedi bod yn tynnu sylw at adar yr ardd sy’n gwneud yn dda a’r rheini nad ydynt yn gwneud cystal ledled y Deyrnas Unedig.

Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf i dynnu sylw’r RSPB at y gostyngiad yn niferoedd y fronfraith, sy’n 81% rhyfeddol yn is nag adeg cynnal Gwylio Adar yr Ardd am y tro cyntaf yn 1979.

Roedd y rhywogaeth hon yn gyfforddus yn y 10 uchaf yn 1979, ond erbyn 2009 roedd ei niferoedd ar draws y Deyrnas Unedig lai na hanner y nifer gafodd eu cofnodi yn 1979.

Sut i gymryd rhan

I gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd 2023, gwyliwch yr adar yn eich gardd, ar eich balconi neu mewn man gwyrdd lleol am awr ar ryw adeg dros y tri diwrnod.

Dim ond y rheini sy’n glanio y dylech eu cyfrif, nid y rheini sy’n hedfan drosodd.

Cofnodwch y nifer fwyaf welwch chi o bob rhywogaeth o adar ar unrhyw un adeg – nid y cyfanswm welwch chi yn ystod yr awr.

Mae hi’n bosibl cofrestru nawr – i gael eich canllaw Gwylio Adar yr Ardd am ddim, sy’n cynnwys siart adnabod adar, awgrymiadau gwylio adar, taleb ar gyfer siop yr RSPB, a chyngor ar sut mae denu bywyd gwyllt i’ch gardd, ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch.

Bydd y digwyddiad sy’n cyd-redeg â hwn – Gwylio Adar yr Ysgol RSPB – yn cael ei gynnal yn ystod hanner cyntaf tymor y gwanwyn, rhwng Ionawr 6 a Chwefror 20.

Yn 2021, roedd dathliadau i nodi 20 mlynedd ers dechrau cysylltu plant â byd natur ar dir ysgolion.

Ers ei lansio, mae dros filiwn o blant ysgol ac athrawon wedi cymryd rhan.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.rspb.org.uk/schoolswatch