Mae Plaid Cymru yn galw ar Mark Drakeford i gymryd rhan uniongyrchol yn y trafodaethau gwasanaeth cyhoeddus gyda’r undebau.

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw ar Mark Drakeford i ddechrau trafodaethau “gwirioneddol” gyda’r Undebau, yn dilyn sylwadau’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles ar raglen Politics Wales y BBC ddoe (dydd Sul, Ionawr 22) am streiciau athrawon ac ysgolion yn cau o ganlyniad.

Gydag athrawon bellach yn ymuno â’r llu o weithluoedd eraill sy’n mynd ar streic, mae Plaid Cymru yn dadlau bod angen gosod bargen newydd a thecach i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus er mwyn mynd i’r afael ag annhegwch proses cyrff adolygu cyflogau a welwn ar hyn o bryd.

‘Undod gyda phawb sy’n streicio’

“Beth sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud nawr yw dangos arweiniad ar anghydfodau cyflog yn y sector cyhoeddus,” meddai Adam Price.

“Gyda’r trafodaethau’n stond, mae’n bryd i’r Prif Weinidog ymyrryd yn bersonol, gan arwain trafodaethau’n uniongyrchol drwy fwrdd crwn brys ar gyflogau gyda’r holl undebau, gan nodi bargen newydd a thecach i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus sy’n mynd i’r afael ag annhegwch sylfaenol prosesau presennol y cyrff adolygu cyflogau a gall hynny fod yn sail ar gyfer diwedd yr anghydfodau.

“Heb gynnydd, bydd y sefyllfa ddiderfyn hon yn parhau.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i sefyll mewn undod gyda phawb sy’n streicio yma yng Nghymru am gyflog tecach a gwell amodau gwaith.”

Ymateb i gau ysgolion

Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i’r posibilrwydd y gallai ysgolion orfod cau eu drysau yn ystod y streiciau.

“Mae’r Llywodraeth Lafur yn gyson wedi cwyno am ddiffyg arian, ond wedi gwastraffu cannoedd o filiynau o bunnoedd ar brosiectau gwagedd, megis £100m ar ragor o wleidyddion yn y Senedd,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y blaid.

“Mae’r streiciau hyn yng Nghymru a’r anghyfleustra mae disgyblion yn ei wynebu yn ganlyniad uniongyrchol i gamreolaeth Llafur, ffaith mae gweinidogion Llafur yn syml iawn yn gwrthod ei chydnabod.

“Gadewch i ni beidio ag anghofio, o dan Lafur, fod disgyblion Cymru wedi cael eu hamddifadu o £1,000 o’u cymharu â’u cyfoedion yn Lloegr.

“Mae disgyblion yng Nghymru wedi wynebu digon o anghyfleustra dros gyfnod y pandemig, ac rydym bellach yn gweld y canlyniadau.

“Dydy’r anghyfleustra hwn yn syml ddim er lles ein plant a’n pobol ifanc.

“Mae gan weinidogion Llafur y grym i fynd i’r afael â materion sy’n wynebu athrawon yng Nghymru, ond yn syml yn dewis peidio, gan edrych i roi’r bai ar unrhyw un ond nhw eu hunain yn lle hynny.”