Bu farw bron i 200 o bobol yng Nghymru o ganlyniad i fyw mewn cartrefi llaith ac oer y gaeaf diwethaf, yn ôl ystadegau newydd.
Roedd 800 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru dros dymor y gaeaf 2021/22, yn ôl ffigurau sydd wedi’u cyfrifo gan y Glymblaid Dileu Tlodi Tanwydd.
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae 413 o bobol yng Nghymru wedi marw bob blwyddyn, ar gyfartaledd, yn sgil byw mewn cartrefi oer a llaith.
Dros y penwythnos, roedd munud o dawelwch a gorymdaith angladdol yn Llundain er cof am bobol dros y Deyrnas Unedig sydd wedi marw yn sgil amodau eu cartrefi, gan ymgyrch ‘Cynnes Gaeaf Yma’.
Mae gwreiddiau’r argyfwng biliau ynni yn San Steffan yn bodoli ers degawdau, wedi iddyn nhw fethu â helpu pobol i insiwleiddio eu cartrefi a sicrhau grid ynni adnewyddadwy, meddai Simon Francis o’r Gynghrair Dileu Tlodi Tanwydd.
“Mae’r henoed, yr anabl, y rhai â chyflyrau iechyd a theuluoedd ifanc bellach yn teimlo cost y methiant hwn,” meddai.
“Hyd yn oed yn ystod gaeafau mwyn, rydym yn gweld lefelau enfawr o farwolaethau yn y gaeaf a achosir o ganlyniad i fyw mewn cartrefi llaith, oer, sy’n hollol gywilyddus.
“Mae angen cymorth ariannol ychwanegol ar frys i’r rhai mwyaf agored i niwed dros y gaeaf yma a’r nesaf, a chynnydd sylweddol mewn cynlluniau insiwleiddio ac effeithlonrwydd ynni.”
Dyled yn ddedfryd marwolaeth
Dywed Bethan Sayed o Climate Cymru fod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru gydweithio i sicrhau eu bod nhw’n paratoi o flaen llaw at y gaeaf nesaf, er mwyn osgoi mwy o farwolaethau.
“Mae arnom angen mwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi fel y gall pobol fforddio cadw eu hunain yn gynnes, cynyddu ynni adnewyddadwy cost isel, fel y gall cymunedau elwa’n uniongyrchol ar yr ynni a grëir yn eu hiard gefn eu hunain, a mesurau sy’n mynd i’r afael â dileu tlodi i bawb,” meddai.
“Mae rhan fawr o’r argyfwng wedi’i achosi gan gwmnïau ynni yn gorfodi pobol i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu.
“Mae llawer o bobol yn dibynnu ar ynni i bweru lifftiau grisiau, cadeiriau olwyn, yn ogystal â’r gwres a golau rydym oll yn ddibynnol arno i fyw.
“Os yw mesurydd rhagdalu wedyn yn rhedeg allan o gredyd ac na ellir defnyddio’r offer hwn, mae’n troi dyled ynni yn ddedfryd marwolaeth i lawer.”
Erbyn hyn, mae dros 91,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig wedi arwyddo deiseb yn galw ar gyflenwyr ynni i ddod â’r arfer o osod mesuryddion rhagdalu i ben, ac mae gan Climate Cymru ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i gadw pobol yn gynnes dros y gaeaf.