Mae cyn-brifathrawes Ysgol Abersoch yn awyddus i weld y gofod yn cael ei ddefnyddio er mwyn sefydlu amgueddfa fechan.
Mewn cyfarfod cyhoeddus heno (nos Lun, Ionawr 23), bydd gan drigolion yr ardal gyfle i ddweud eu dweud ar yr hyn yr hoffen nhw ei weld yn digwydd i adeilad yr ysgol, a gaeodd ei drysau yn 2021.
Y gobaith ydy sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gymuned, ac mae Anna Jones, fu’n brifathrawes ar yr ysgol rhwng 1996 a 2003 ac yn llywodraethwr yno, yn ymbilio ar Gyngor Gwynedd i achub eu hanes a’u treftadaeth.
Bydd unrhyw ddefnydd cymunedol posib o’r safle ar gyfer y dyfodol yn ddibynnol ar gymeradwyaeth achos busnes ar gyfer y cynnig gan Gyngor Gwynedd.
“Mae’n siŵr y bydd sawl syniad yn y cyfarfod cyhoeddus,” meddai Anna Jones wrth golwg360.
“Yr unig beth sydd yn fy mhoeni yw a fydd y defnydd newydd o’r ysgol yn un fydd o fudd i’r gymuned.
“Fy hun, hoffwn sefydlu amgueddfa fechan yno gan fod gennym gymaint o adnoddau a hen luniau o’r plwyf yn ein Grŵp Treftadaeth.
“Dim ond am bythefnos y flwyddyn rydym yn gallu eu harddangos gan fod Neuadd Abersoch mor brysur gyda gweithgareddau eraill.
“Byddem yn gallu talu curadur gyda grant, a byddem ninnau fel gwirfoddolwyr yn gallu cefnogi.
“Mae’r ysgol mewn lle delfrydol, drws nesaf i’r maes parcio, fyddai’n hwylus i bobol alw.
“Gellid cynnig paned pe baem yn cael rhyw fan yn yr iard ar adegau prysur.
“Mae cadw hanes yr ardal yn bwysig iawn, yn enwedig mewn pentref fel Abersoch sydd â chymaint o fewnfudwyr.
“Ymbiliaf ar Gyngor Gwynedd i achub ein hanes a’n treftadaeth.”
‘Mewn trafodaethau’
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod Adran Tai ac Eiddo a Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanengan a’r Cynghorydd Sir lleol ynglŷn â’r defnydd o hen safle Ysgol Abersoch ar gyfer y dyfodol.
“Rydym yn ymwybodol bod diddordeb yn lleol o ran llunio cynnig cymunedol a allai gynnig manteision economaidd, cymdeithasol a/neu amgylcheddol i’r ardal,” meddai.
“Mae’r trafodaethau yn y cyfnod rhagarweiniol ar hyn o bryd, ac mae Gwasanaeth Cymorth Cymunedau’r Cyngor ar gael i gefnogi’r Cyngor Cymuned i edrych ar gyfleoedd posib.
“Edrychwn ymlaen at barhau gyda’r trafodaethau ynglŷn â defnydd hen safle Ysgol Abersoch yn y dyfodol yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus yn Abersoch.”