Mae trigolion Abersoch yn awyddus i sicrhau bod safle’r hen ysgol, oedd wedi cau yn 2021, yn cael ei gadw ar gyfer defnydd y gymuned.

Bydd Cyngor Cymuned Llanengan yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun nesaf (Ionawr 23) i drafod y posibilrwydd o ddatblygu cynllun ar gyfer cadw’r ysgol ar gyfer y gymuned.

Yn ôl un cynghorydd cymuned, maen nhw’n ceisio osgoi sefyllfa lle byddai Cyngor Gwynedd yn gwerthu’r adeilad ac y byddai’r safle’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu tai.

“Oherwydd lle mae’r ysgol ynghanol Abersoch, byddai’n dda ei chadw ar gyfer y gymuned, ac mi fyddai’n bosib cadw’r cae chwarae ar gyfer y plant lleol hefyd oherwydd ei fod yn ganolog iawn,” meddai William Williams, sy’n cynrychioli ward Abersoch ar Gyngor Cymuned Llanengan, wrth golwg360.

“Byddai hi’n bechod colli’r rhan hwnnw o’r pentref.

“Mae gennym ni’r neuadd bentref a’r maes parcio gerllaw, a gallai’r ysgol ddod yn rhan o’r un safle, i gael eu rheoli gan y pwyllgor neu bwy bynnag fyddai’n ei redeg.

“Dw i’n meddwl bod Cyngor [Gwynedd] yn meddwl gwerthu os nad ydy’r gymuned yn gallu ei chymryd, ac os ydyn nhw’n ei gwerthu byddai hynny yn golled i Abersoch oherwydd byddai’n dod yn ail gartrefi neu beth bynnag.

“Rydyn ni’n trio osgoi hynny, ac rydyn ni wir eisiau ei chadw yn y gymuned a sicrhau bod pobol leol yn ei defnyddio neu ei throi’n rhywbeth y gallai gael ei defnyddio ac o fudd i’r gymuned.”

Caeodd Ysgol Gynradd Abersoch ei drysau am y tro olaf ym mis Rhagfyr 2021, ar ôl i Gabinet Cyngor Gwynedd bleidleisio’n unfrydol i gau’r ysgol gan nodi bod niferoedd disgyblion yn gostwng a bod y costau o’i chynnal yn uchel.

“Y broblem yw bod gennym ni neuadd bentref yn barod, ac mae honno’n cael ei defnyddio ar gyfer nifer o brosiectau cymunedol ac ati,” meddai William Williams wedyn, gan ddweud ei fod yn awyddus i glywed beth fydd barn y cyhoedd yn y cyfarfod.

“Rydyn ni wedi meddwl am ei droi’n unedau llety sengl ar gyfer pobol ifanc leol er mwyn iddyn nhw gael dechrau byw ar eu pennau eu hunain, a chael ryw fath o fflatiau yno,” meddai.

‘Rhywbeth i’r pentref’

Mae Comisiwn Henebion Brenhinol Cymru wedi bod yn arolygu’r ysgol yr wythnos hon hefyd, a dywed y Cynghorydd Sir John Brynmor Hughes ei fod yn awyddus i weld yr adeilad yn cael ei warchod gan ei fod yn adeilad hanesyddol.

“Mae’n rhaid bod o’n adeilad reit bwysig iddyn nhw ddod yma i wneud hynny,” meddai’r Cynghorydd annibynnol, sy’n cynrychioli Ward Abersoch a Llanengan ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“Dw i’n byw dros ffordd, mae hi’n ddistaw yma heb y plant ynddi.

“Dw i’n gwybod am dri chynllun. Rydyn ni eisiau rhywbeth i’r pentref, mae un [cynllun] iddo fod fel meithrinfa – rhywbeth sydd ei angen yma.

“Cynllun arall yw ei droi’n glwb gofal i’r henoed, lle galw i’r henoed, lle iddyn nhw ddod am sgwrs, a gofal dydd, sy’n brin yn yr ardal.

“Mae hi fyny i bobol y pentref, dw i ddim yn eistedd ar y ffens ond fydd rhaid i fi fynd efo be’ mae pobol Abersoch a Llanengan ei angen.”

Ychwanega ei fod eisiau clywed mwy gan y bobol sydd â chynlluniau busnes ar gyfer y safle yn y cyfarfod, ond does dim prinder cynlluniau, meddai.

Bydd y Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Abersoch nos Lun, Ionawr 23 am 6:30yh, ac mae Cyngor Cymuned Llanengan yn awyddus iawn i bobol rannu eu syniadau am ddyfodol yr adeilad.

‘Cefnogi’r Cyngor Cymuned’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod Adran Tai ac Eiddo a Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanengan a’r Cynghorydd Sir lleol ynglŷn â defnydd o hen safle Ysgol Abersoch ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn ymwybodol bod diddordeb yn lleol o ran llunio cynnig cymunedol a allai gynnig manteision economaidd, cymdeithasol a/neu amgylcheddol i’r ardal,” meddai.

“Mae’r trafodaethau yn y cyfnod rhagarweiniol ar hyn o bryd, ac mae Gwasanaeth Cymorth Cymunedau’r Cyngor ar gael i gefnogi’r Cyngor Cymuned i edrych ar gyfleoedd posib.

“Edrychwn ymlaen at barhau gyda’r trafodaethau ynglŷn â defnydd hen safle Ysgol Abersoch yn y dyfodol yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus yn Abersoch.”

Ychwanegodd y bydd unrhyw ddefnydd cymunedol posib o’r safle ar gyfer y dyfodol yn ddibynnol ar gymeradwyaeth achos busnes ar gyfer y cynnig gan y Cyngor.

Ysgol Abersoch

Ysgol Gynradd Abersoch wedi cau ei drysau am y tro olaf

Bydd yr ysgol yn cau’n swyddogol ar 31 Rhagfyr, ar ôl i gabinet Cyngor Gwynedd bleidleisio’n unfrydol o blaid hynny