Mae Aelod Seneddol, yr oedd ei rybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig ar y pryd wedi arwain at ymadawiad cecrus o Blaid Cymru, yn dweud nad oes ganddo fwriad i siarad ag arweinydd y blaid yng Nghymru, er eu bod nhw’n cynrychioli’r un etholaeth.

Mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn aelod Annibynnol ar ôl ennill pedwar etholiad cyffredinol yn enw Plaid Cymru ers 2010, ac mae’n dweud nad yw e wedi penderfynu a fydd e’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Pe bai’n dewis sefyll, meddai, fyddai e ddim yn rhedeg ymgyrch negyddol yn erbyn Plaid Cymru, y blaid sy’n cael eu harwain gan Adam Price, ac mae’n dweud bod ganddo fe lawer o barch at gynghorwyr Sir Gaerfyrddin.

Mae Jonathan Edwards yn un o 15 o Aelodau Seneddol Annibynnol, ac yn eu plith mae cyn-arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, a’r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Ceidwadol, Matt Hancock.

“Dyw fy ngwerthoedd heb newid,” meddai Jonathan Edwards.

“Dw i i’r chwith o’r canol, yn sosialydd, a dw i’n credu’n gryf mai dim ond trwy ragor o bwerau i Gymru ac annibyniaeth yn y pen draw mae modd datblygu’r achos dros gyfiawnder cymdeithasol a datblygiad economaidd yng Nghymru.

“Yr unig offeryn gwleidyddol ar gyfer annibyniaeth yw Plaid Cymru.

“Mae annibyniaeth yn fwy nag un blaid a gwleidyddiaeth bleidiol.”

Y Blaid Lafur, annibyniaeth a chanu clodydd Sir Gaerfyrddin

Dywed Jonathan Edwards, sy’n hanu o Ddyffryn Aman, ei fod e’n teimlo mai “esblygiad naturiol” y Blaid Lafur fyddai i Lafur Cymru fod yn “lle diogel i annibyniaeth gael ei thrafod”, ond na fyddai hynny o reidrwydd yn golygu eu bod o blaid annibyniaeth.

Dywed fod bod yn Aelod Seneddol Annibynnol yn ei “ryddhau ychydig bach” ar ôl blynyddoedd o fod yn llefarydd ar amryw o bynciau dros y Blaid, gan ei alluogi i flaenoriaethu anghenion ei etholwyr yn fwy.

“Mae gyda ni lawer o broblemau cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl bod ateb oni bai ein bod ni’n adfywio’r ardal yn economaidd.

“Mae llawer o’r lifrau yn San Steffan.

“Mae’n hawdd digalonni, ond dw i’n credu bod yna gyfleoedd.

“Dw i’n credu bod gyda ni gynnig ffantastig yn Sir Gaerfyrddin.”

Dywed fod pobol eisiau gweithio lle mae modd iddyn nhw ddilyn eu diddordebau, ac i’r rheiny sy’n hoff o seiclo a cherdded fod y cyfan ar stepen eu drws yn y sir.

“Mae’n fater o gael yr isadeiledd yn iawn, buddsoddi mewn band llydan ac ati,” meddai wedyn.

“Mae’r filltir sgwâr yn bwysig iawn i’r Cymry.

“Mae llawer o bobol yn mynd i ffwrdd ond eisiau dod yn ôl i fagu eu teulu.

“Mae angen i ni greu’r amgylchfyd fel y gallan nhw wneud hynny.”

Helynt personol

Roedd Jonathan Edwards dan y chwyddwydr fis Mai 2020 ar ôl cael ei arestio yn ei gartref yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd e rybudd gan yr heddlu am ymosod, a dywedodd mewn datganiad fis Mehefin 2020 fod yn flin iawn ganddo ac mai hwn oedd edifeirwch mwya’i fywyd o bell ffordd.

“Fe wnes i gyfaddefiad llawn wrth gael fy arestio,” meddai pan gafodd ei holi gan y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol a fyddai, fel pleidleisiwr, yn disgwyl i’w Aelod Seneddol gamu o’r neilltu yn dilyn y fath ddigwyddiad.

“Roedd edifeirwch ar unwaith.”

Dywedodd mai hon oedd ei drosedd gyntaf, ac na chafodd unrhyw anafiadau eu hachosi, nad oedd yna erlyniad na chosb gan awdurdodau seneddol.

“All dim byd esgusodi’r ffaith fy mod i wedi colli fy nhymer yn fy nghartref,” meddai.

“Roedd yn hollol groes i ‘nghymeriad.

“Yn nhermau’r cyhoedd, mae dau safbwynt yn hyn o beth.

“Mae un yn safbwynt hollol absoliwt nad yw’r un gosb yn ddigonol – y dylid condemnio a dinistrio’r unigolyn.

“Y safbwynt arall dw i’n ei gael wrth fynd o amgylch cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, yw os yw rhywun yn onest am y camgymeriadau maen nhw’n eu gwneud yn eu bywydau ac yn dangos edifeirwch go iawn ac yn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa, yna mae’r unigolyn hwnnw’n haeddu cyfle arall.

“Os na all pobol mewn bywyd cyhoeddus wneud cyfaddefiad gonest a dangos edifeirwch, yna rydych chi mewn sefyllfa lle mae popeth yn cael ei guddio.”

Dywed y gwleidydd 46 oed fod y gefnogaeth mae e wedi’i chael yn lleol yn “ddiwyro” ac y byddai wedi bod yn fater gwahanol iawn pe bai etholwyr wedi bod yn “heidio” i’w gael e i ymddiswyddo o fod yn Aelod Seneddol.

Cwblhaodd e gwrs blwyddyn ar ymwybyddiaeth o drais yn y cartref, ac mae’n dweud bod y sesiynau wythnosol wedi’u cynnal o bell oherwydd cyfnodau clo Covid-19.

“Un o’r pethau mawr ddysgais i oedd, pan fydd problemau allwch chi ddim eu sgubo nhw o dan y carped,” meddai.

“Dw i hefyd wedi dysgu bod angen i fi reoli meddyliau negyddol rhag iddyn nhw fynd allan o reolaeth.

“Roedd y cwrs, i fi, wedi newid fy mywyd.”

Disgyblu a datganiadau pellach

Yn dilyn y rhybudd gan yr heddlu, cafodd Jonathan Edwards ei ddiarddel o Blaid Cymru gan banel disgyblu’r blaid, ac ar yr adeg honno y dechreuodd fod yn Aelod Seneddol Annibynnol, a hynny am flwyddyn.

Wedyn ym mis Gorffennaf 2022, cytunodd y panel y gallai ailymuno â Phlaid Cymru, gan ddweud ei fod e wedi bodloni’r amodau arno pan gafodd ei ddiarddel.

Ond wnaeth e ddim dychwelyd i fod yn Aelod Seneddol Plaid Cymru, gan fod mwyafrif o aelodau pwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid yn argymell na ddylai ddychwelyd.

Ond fe gafodd y chwip yn ôl yn ddiweddarach.

Dwysaodd y sefyllfa fis Awst 2022 pan gyhoeddodd ei wraig, oedd wedi diodde’r ymosodiad, ddatganiad yn dweud ei bod hi wedi ffieiddio ei fod e wedi cael ei dderbyn yn ôl i’r blaid.

Yn y datganiad, dywedodd nad oedd Jonathan Edwards yn derbyn cyfrifoldeb am y digwyddiad a’i fod e wedi ei fychanu, er ei fod e wedi mynd ar gwrs ymwybyddiaeth o drais yn y cartref.

Yn ei sylw cyhoeddus blaenorol, ddwy flynedd cyn hynny, dywedodd fod Jonathan Edwards wedi bod yn ŵr a thad cariadus a gofalgar am y degawd roedden nhw wedi bod gyda’i gilydd, ac o’i rhan hi fod y mater ar ben.

Dywedodd yn ddiweddarach ei bod hi’n difaru’r geiriau hynny, gan ddweud eu bod nhw wedi cael eu hysgrifennu gan swyddog y wasg ei gŵr.

Daeth datganiad arall gan Jonathan Edwards yn dilyn ei datganiad hithau ym mis Awst 2022, pan ddywedodd e na fyddai’n ailymuno â Grŵp Aelodau Plaid Cymru yn San Steffan.

Dywedodd ei fod e a’i wraig yn agos at gwblhau proses o ysgaru, ei fod e’n derbyn cyfrifoldeb llawn am y weithred arweiniodd at ei arestio a’i rybuddio, ac y byddai’n “difaru’r diwrnod hwnnw” am weddill ei oes.

Yn ei ddatganiad hir, dywedodd Jonathan Edwards hefyd ei fod e wedi teimlo fel lladd ei hun ar adegau, gan honni bod ffigurau blaenllaw ym Mhlaid Cymru wedi lansio ymosodiadau gwleidyddol “mileinig a dialgar” arno.

Cyhoeddodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ddatganiad ar Twitter yr un diwrnod, gan ddiolch i wraig Jonathan Edwards am siarad ac am alw ar Jonathan Edwards i adael y Blaid a chamu o’r neilltu fel Aelod Seneddol.

Dywedodd Adam Price fod rhaid i brosesau disgyblu’r blaid newid er mwyn rhoi rôl ganolog i ddioddefwyr trais ar sail rhywedd mewn unrhyw ymchwiliadau.

Goblygiadau’r datganiadau

Wrth siarad yr wythnos hon, dywedodd Jonathan Edwards ei fod e wedi derbyn cyngor nad oedd datganiad ei gyn-wraig wedi newid dim yn nhermau’r achos disgyblu.

Honnodd ei fod e wedi cael gwybod wedyn y byddai’r pwyllgor gwaith cenedlaethol yn “dod o hyd i ffordd” o sicrhau y byddai’n mynd gerbron panel disgyblu eto oni bai ei fod e’n tynnu’n ôl o grŵp seneddol Plaid Cymru.

Honnodd iddo gael gwybod hefyd y byddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ac Adam Price yn gwneud datganiadau, a’i bod hi’n glir o’i ran e nad oedd dyfodol iddo ym Mhlaid Cymru.

“Dywedais na fyddwn i’n ymuno â Grŵp San Steffan,” meddai.

“Ro’n i’n meddwl mai dyna fyddai’r diwedd.

“Yna, fe wnaeth Adam Price ddatganiad.”

Dywed iddo gael “sioc” o ganlyniad i’r datganiad, a’i fod yn teimlo bod y sefyllfa wedi dod yn un wleidyddol.

“Does dim bwriad gyda fi siarad â fe [Adam Price] eto, oherwydd ro’n i’n meddwl bod ei weithredoedd yn hynod sinigaidd,” meddai.

Ymateb Plaid Cymru

“Mae’r broses ddisgyblu dan sylw wedi hen ddod i ben,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

Yn ôl y llefarydd, mae Plaid Cymru bellach yn canolbwyntio’n llwyr ar barhau i gyflwyno polisïau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol trwy’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, gan ddal y Ceidwadwyr yn San Steffan i gyfrif am “esgeuluso Cymru’n ddifrifol”, a chefnogi gweithwyr sector cyhoeddus yn eu hanghydfodau â’r Llywodraeth Lafur.

Wrth dderbyn cais i ymateb i sylwadau ei gyn-wraig nad oedd e wedi cymryd cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd, dywedodd Jonathan Edwards eu bod nhw wedi cael eu gwneud ar ddiwedd proses “anodd iawn, iawn” o ysgaru ddigwyddodd ar ôl cyfnod o fisoedd yn ceisio adfer y briodas.

Mae gan Jonathan Edwards, sydd â dau o blant â’i gyn-wraig, bartner newydd ac mae’n parhau i fod yn Aelod Seneddol Annibynnol ac yn ddiolchgar, meddai, am gefnogaeth y rheiny o’i gwmpas a’i etholaeth.

Dywed ei fod e wedi derbyn oddeutu 1,000 o e-byst bob wythnos, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw gan bobol sy’n cynrychioli grwpiau lobïo.

Mae’r gwaith achosion dderbyniodd e’n amrywiol iawn, meddai.

“Mae llawer o bobol yn ei chael hi’n anodd gydag agweddau amrywiol yn eu bywydau ar hyn o bryd.”