Mae’r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn am rew ac eira dros rannau helaeth o Gymru.

Daw hyn wedi i nifer fawr o ysgolion orfod cau fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 18) yn sgil y tywydd garw.

Mae disgwyl i gawodydd gaeafol barhau drwy gydol y dydd, ac i 2-5cm o eira gwympo mewn rhai ardaloedd, o bosib.

Bydd y rhybudd yn aros mewn grym o 12yp heddiw tan 12yp fory (dydd Iau, Ionawr 19).

Mae disgwyl i lonydd gael eu heffeithio, ac mae’n bosib y bydd teithiau ar ffyrdd a rheilffyrdd yn cymryd mwy o amser nag arfer.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio pobol i gymryd gofal ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu trin.