Mae Craig ab Iago yn dweud bod sefyllfa tai gwag y sir yn “ddychrynllyd, trist, torcalonnus”, ond fod gan y Cyngor sawl cynllun i ddatrys y broblem.
Mae 1,200 i 1,300 o dai gwag yng Ngwynedd, yn ôl yr Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo ar Gyngor Gwynedd.
Mae gan Gyngor Gwynedd gynllun, sef Grant Cartrefi Gwag Prynwyr Tro Cyntaf, i adnewyddu tai gwag i safon byw derbyniol ac maen nhw wedi helpu i ddod â bron i 100 o dai ar y farchnad neu i’w rhentu, ers sefydlu’r cynllun flwyddyn a hanner yn ôl.
Daw’r arian o ddefnyddio cyllid o bremiwm ail gartrefi treth y cyngor a chronfeydd adfywio Llywodraeth Cymru.
Rhaid bod eiddo wedi bod yn wag am ddeuddeg mis neu fwy, a bydd angen i ymgeiswyr fod â chysylltiad gyda’r ardal leol.
Pwrpas y cynllun yw sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol gartref i fyw ynddo.
Yn ogystal, anfonodd Cyngor Gwynedd lythyr at 1,000 o berchnogion tai gwag i weld a oedden nhw eisiau cymorth i ddod â nhw’n ôl ar y farchnad, ac mae 90 person wedi ateb.
“Mae pethau gwleidyddol a gweithredol gallwn ni wneud,” meddai Craig ab Iago wrth golwg360.
“Mae’r pethau rydym yn eu gwneud yn wleidyddol, sef cael tai gwag ac ail dai yn y newyddion bob munud, cael y wasg i siarad amdano fo a chael gwell dealltwriaeth o’r broblem.
“Yna’r pethau gweithredol, fel y premiwm treth, rydym yn codi 100% o bremiwm treth os wyt ti efo tŷ gwag.
“Rydym am i bobol sylweddoli bod tai gwag yn broblem yn y sir, a’n bod ni yn cynnig help yn lle cosbi.”
‘Problem fawr’
Mae yna broblemau gyda thai ar sawl lefel yng Ngwynedd, yn ôl Craig ab Iago, gyda llawer o bobol gwir angen cartref addas i fyw ynddo.
Ond mae mwy o dai gwag na phobol sydd angen cartref.
Mae’r gwahanol ffactorau sy’n rhan o’r broblem i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd, yn ôl Craig ab Iago.
“Mae yna yn bendant broblem fawr [o ran] tai gwag,” meddai wedyn.
“Rydym efo dros 3,000 o bobol ar restrau aros, rydym efo pobol ar restr Tai Teg, rydym efo digartrefedd sydd wedi mynd allan o reolaeth.
“Mae o yn broblem gan nad oes gennym ddigon o dai i bobol sy’n byw yma’n barod.
“Mae’n ddychrynllyd, trist, torcalonnus.
“Rydym efo pobol sydd angen tai, a thai gwag.
“Rydym efo’r ganran uchaf o dai gwag yng Nghymru.
“Os ydych yn edrych ar ein problem tai, y peth ydy, rydym yn tueddu i edrych ar ail dai, tai gwag a digartrefedd, a meddwl bod problem.
“Mae yna gyswllt rhwng pob un.
“Er enghraifft, os bysen ni’n gallu dod â 1,300 o dai gwag ’nôl i ddefnydd, byddem yn gallu datrys ein problem digartrefedd ni.
“Mae digartrefedd yn digwydd oherwydd bod pobol yn rhentu eu tai nhw allan fel Air B&B’s, neu fod pobol yn prynu’n tai ni fel tai gwyliau.
“Mae yna gysylltiad rhyngddo fo i gyd.”
Tai fforddiadwy
Yn ôl Craig ap Iago, pe bai tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yna fyddai problemau niferus y sefyllfa dai ddim mor fawr.
Er ei fod yn credu bod angen adeiladu mwy o dai, mae’n credu ei bod yn hollbwysig gwneud defnydd o’r tai sydd ar gael eisoes.
“Yr ateb yw mwy o dai fforddiadwy,” meddai.
“Os bysan ni’n gallu adeiladu mwy o dai fforddiadwy, creu mwy o dai fforddiadwy, digon ohonyn nhw, bysan ni’n datrys y broblem yma.
“Fysa digartrefedd ddim yn issue mor fawr.
“Fyddai ail dai ddim yn broblem mor fawr.
“Fysa Air B&B’s ddim yn broblem mor fawr.
“Does dim tai fforddiadwy yng Ngwynedd ar y funud.
“Dydy 70% o bobol yng Ngwynedd methu prynu dim un tŷ.
“Rydym angen mwy o dai newydd yn y llefydd iawn, y mathau o dai rydym eu hangen yw’r mathau o dai mae pobol eisiau.
“Tra rydym yn gwneud hynny, rydym angen peidio anghofio am y stoc tai sydd gennym yn barod.
“Mae’r tai sydd wedi’u hadeiladu yn barod efo ôl troed carbon, oherwydd rydym wedi adeiladu’r tŷ yna.
“Wrth adeiladu tŷ, rydym yn ychwanegu at yr ôl troed carbon.
“O ailwneud tŷ, dydy o ddim yn ychwanegu gymaint o garbon deuocsid i’r osôn carbon.
“Mae llawer o dai gwag yng nghanol trefi a phentrefi, a rhai ohonyn nhw yn ddel iawn.
“Pam ddim gwneud beth rydym yn gallu?”
Pam fod tai yn wag?
Yn ôl Craig ap Iago, dydy’r broblem tai gwag ddim yn syml, ac mae rhesymau niferus am y sefyllfa.
Dydy Craig ap Iago ddim yn credu bod y bobol sy’n berchen ar dai gwag yn bobol ddrwg, ond fod y broblem lawer mwy cymhleth.
“Rydym yn ceisio bod yn hyblyg a datrys y materion yna,” meddai wedyn.
“Mae’r busnes tai gwag yn gallu bod yn gymhleth, a ddim yn ddu a gwyn.
“Mae angen i ni fod yn hyblyg.
“Os ydyn ni’n ffeindio tŷ gwag ac eisiau dod â fo’n ôl i ddefnydd, mae’n gallu cymryd blynyddoedd i chdi ffeindio pobol sy’n fodlon gwneud gwaith ar y tŷ, neu os ti’n ei wneud o dy hun mae am gymryd amser.
“Os wyt ti efo rheswm dilys pam fod y tŷ yn wag ac mae o’n dŷ cyntaf, mae cynllun ar gael i helpu ble nad yw’r bobol yn gorfod talu’r premiwm treth am y flwyddyn gyntaf.
“Mae llawer o bobol sy’n berchen tai gwag ac ail dai yn bobol leol, pobol sydd wedi etifeddu tai ac efallai bod cysylltiad emosiynol at y tŷ a dydyn nhw ddim eisiau gwerthu’r tŷ.
“Mae rhai pobol yn rhentu allan yn breifat oherwydd eu bod nhw eisiau cadw’r tŷ yn eu teulu oherwydd bod nhw ddim eisiau gwerthu’r tŷ i rywun sydd ddim yn lleol.
“Mae rhentu lleol yn dangos yr awydd lleol i edrych ar ôl pobol leol yn fy marn i.
“Dydy pawb sydd efo ail dai ddim i gyd yn monsters, mae rhai eisiau helpu pobol leol i aros yn eu cymunedau.
“Er enghraifft, os wyt ti’n etifeddu tŷ ac mae llawer iawn o waith arno ond dwyt ti ddim efo’r pres i wneud y gwaith a ti ddim yn ymwybodol bod y Cyngor yn gallu helpu chdi, ti’n cadw fo yn y gobaith bo ti’n mynd i gael y pres, neu rwyt ti am wneud y gwaith dy hun ac mae’n cymryd blynyddoedd, ac rydych yn gorfod talu premiwm treth arno fo.
“Mae rhesymau eraill pam fod pobol yn cadw tŷ gwag, oherwydd bo nhw ddim yn poeni a bo nhw efo digon o arian.
“Does dim un rheswm pam fod tai yn wag.”
Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd
Er bod pwerau Cyngor Gwynedd i ddatrys y broblem yn gyfyngedig, mae dogfen ar gael ar wefan y Cyngor a siop-un-stop ar y ffordd i “sicrhau bod gan bobol Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd”.
Mae’r wybodaeth yn y ddogfen ac yn y siop-un-stop yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd angen cymorth efo materion tai, yn ôl Craig ab Iago.
“Rwy’n falch iawn o’r cynllun gweithredu tai oherwydd bod o’n arloesol,” meddai.
“Does dim dogfen arall fel yna yng Nghymru.
“Os wyt ti efo unrhyw issue efo tŷ neu gartref, ac yn byw yng Ngwynedd, rwyt ti’n gallu edrych ar y cynllun.
“Mae yna hefyd siop-un-stop ar y ffordd.
“Bysa trigolion yng Ngwynedd yn gallu mynd ar y wefan yna neu fynd i weld y siop a gweld bob dim.
“Oni bai bo chdi’r math o berson sy’n gallu mynd i ffenest siop Dafydd Hardy a phrynu tŷ, fyddi di angen help a bydd y siop-un-stop yma yn helpu chdi i egluro beth sydd ar gael a phwyntio chdi yn y cyfeiriad iawn.
“Bydd rhywun yna sy’n empathetig ac yn gwrando ar dy broblemau a datrys y problemau.
“Efo’r cynllun gweithredu tai a’r siop-un-stop, unrhyw beth wyt ti angen help efo tai – tai cymdeithasol, tai i’w prynu a thai i’w rhentu – ti’n mynd i fan’na a gweld y ffordd ymlaen.”