Mae bron i 1,500 o weithwyr ambiwlans yng Nghymru wedi cyhoeddi pedwar diwrnod arall o streiciau.

Yn ôl undeb GMB, mae hi fel pe bai “dwylo oer, marw” yn Downing Street yn atal cytundeb cyflogau, ac felly maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o streiciau fydd yn cael eu cynnal ar Chwefror 6 ac 20, ac wedyn ar Fawrth 6 ac 20.

Ymhlith y rhai fydd yn streicio mae parafeddygon, cynorthwywyr gofal brys, a staff sy’n ateb galwadau brys.

Yn ôl Rachel Harrison, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb GMB, mae staff “yn grac” ac mae hi “ar ben” arnyn nhw.

“Mae ein neges i’r Llywodraeth [yn San Steffan] yn glir – siaradwch am gyflogau nawr,” meddai, gan gyhuddo gwleidyddion o “chwarae â bywydau” pobol drwy eu “gemau gwleidyddol” a “chodi ofn”.

“Yr unig ffordd o ddatrys yr anghydfod yma yw cynnig cyflog go iawn,” meddai.

“Ond mae hi’n ymddangos bod y dwylo oer, marw yn Rhif 10 a Rhif 11 Downing Street yn atal hyn rhag digwydd.

“Yn wyneb diffyg gweithgarwch y llywodraeth, does gennym ni ddim dewis ar ôl ond gweithredu’n ddiwydiannol.

“Mae gweithwyr ambiwlans y GMB yn benderfynol. Dydyn nhw ddim am ildio.

“Mater i’r Llywodraeth hon yw bod yn ddifrifol ynghylch cyflogau.

“Rydym yn aros.”

Ambiwlans

Gweithwyr ambiwlans yn treulio shifftiau cyfan tu allan i ysbytai gydag un claf yn “aml iawn”

Gohebydd Golwg360

“Mwyafrif yr adegau, rydym yn gorfod ymddiheuro i gleifion a’u teuluoedd gan eu bod nhw wedi gorfod disgwyl mor hir amdanom ni,” medd un parafeddyg