Mae gweithwyr ambiwlans yn treulio shifftiau cyfan yn aros tu allan i ysbytai gydag un claf yn “aml iawn”, yn ôl parafeddyg yn y gogledd.

Wrth ymateb i’r rhan fwyaf o alwadau, mae’n rhaid iddyn nhw ymddiheuro wrth y claf a’r teulu am eu bod nhw wedi gorfod disgwyl mor hir, meddai.

Streicio yw’r unig opsiwn erbyn hyn, meddai’r parafeddyg sydd ddim yn dymuno cael ei enwi, gan fod angen gwell cyflog ar draws y Gwasanaeth Iechyd a gofal.

Mae diffyg apwyntiadau meddygon cartref, deintydd, a gofal cymdeithasol, ynghyd â chau ysbytai lleol a chwtogi nifer y gwelyau cymunedol, wedi cyfrannu at y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, meddai.

Bydd aelodau undeb Unite sy’n gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn streicio am 24 awr ddydd Iau (Ionawr 19) a dydd Llun (Ionawr 23).

Diffyg llwybrau iechyd

“Pan gychwynnais i gyda’r gwasanaeth, mwyafrif o’r amser dim ond galwadau argyfwng oedd wirioneddol angen parafeddyg roedden ni’n ymateb iddyn nhw,” eglura’r parafeddyg, fydd yn streicio’r wythnos hon, wrth golwg360.

“Nawr rydym yn ymateb i bopeth gan fod y cyhoedd methu cael apwyntiad gyda’r meddyg cartref, deintydd a’r gwasanaethau cymdeithasol.

“Dydy pob claf ddim angen mynd i mewn i’r Ysbyty Cyffredinol, ond dydy’r llwybrau iechyd ddim ar gael o hyd, er enghraifft yn sgil cau dau ysbyty lleol ac agor un newydd gyda llai o welyau.

“Mae hyn wedi cyfrannu at orfod trafeilio milltiroedd o gwmpas gogledd a chanolbarth Cymru, ambell adeg dydy gyrru rhwng 200 a 300 o filltiroedd ddim yn anarferol mewn shifft.

“Mae’r amodau yn eithaf anodd ar y funud, yn enwedig gan ein bod ni’n gorfod disgwyl tu allan i ysbytai am mor hir gydag un claf; yn aml iawn shifft gyfan ac yn gorfod cymryd drosodd gan griw arall sydd wedi disgwyl tu allan ac yn darfod eu shifft yn hwyr.

“Mae hyn yn rhwystro ni rhag ymateb i gleifion eraill sydd wirioneddol angen ni yn y gymuned.

“Mae’r amodau hyn wedi gwaethygu ers Covid, gan bod cleifion methu cael gafael ar feddygon cartref ac felly yn galw am ambiwlans yn ei lle.

“Hefyd does yna ddim llawer o lwybrau gofal ac iechyd tu allan i oriau cyffredin, hynny yw dydd Llun i ddydd Gwener o 9 tan 5, sydd yn rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans.”

‘Unig opsiwn’

Tra bo parafeddygon gyda chleifion, maen nhw’n parhau i gael y gofal gorau posib, meddai, ond mae’r cleifion yn y gymuned yn colli allan gan fod yr amseroedd aros mor hir.

Dydy’r gweithiwr ddim yn gweld dewis arall ond gweithredu.

“Yn anffodus, streic yw’r unig opsiwn rŵan, mae angen gwell cyflog i gael denu mwy o bobol i’r gwasanaeth ambiwlans, ysbytai, gofalwyr iechyd cymdeithasol a gofalwyr cartrefi henoed, ond yn bwysicach i’w cadw nhw yn y swyddi.

“Fel sy’n hysbys, mae gweithwyr archfarchnadoedd a McDonald’s yn cael mwy o gyflog yr awr.”