Mae meddyg fu’n annerch rali fawr Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos yn dweud bod gallu cynnig gwasanaethau iechyd yn Gymraeg, neu yn newis iaith y claf, yn hanfodol ar gyfer cyfathrebu effeithiol.
Daw sylwadau Dr Llinos Roberts wrth siarad â golwg360 wrth iddi ddweud “nad ydym yn cael y gwasanaeth gorau gallwn ni os nad ydym yn cael y gwasanaeth trwy ein mamiaith”.
Daw’n wreiddiol o Fangor, ond mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin ac yn gweithio fel meddyg yng Nghwm Gwendraeth.
Cafodd ‘Rali’r Cyfri’ ei chynnal wedi i Gyfrifiad 2021 ddangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
Yn 2011, roedd yna 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn y sir, ond erbyn 2021 roedd y nifer wedi gostwng i 72,838.
O ran y ganran, mae’r nifer sy’n medru’r iaith wedi cwympo o 43.9% i 39.9%
Roedd Rali’r Cyfri ‘Byw yn Gymraeg Sir Gar’ ddydd Sadwrn (Ionawr 14) yn galw ar y Llywodraeth i greu Fframwaith Camau Gweithredu i ddiogelu’r iaith yn y sir.
‘Newidiadau positif’
Er bod camau i’r cyfeiriad iawn yn cael eu cymryd, teimla Dr Llinos Roberts fod llawer mwy y gellid ei wneud i’r Gymraeg fod yn iaith flaenllaw yn y Gwasanaeth Iechyd.
“Beth sydd yn bosib yw ein bod ni yn gweld coleg meddygol ym Mangor rŵan, ac mae hynny’n gam positif,” meddai.
“Rydym yn gweld mwy o fyfyriwr yng Nghaerdydd ac yn Abertawe o Gymru, felly mae’r rhain yn gamau positif.
“Dydw i ddim eisiau cnocio’r pethau positif sydd wedi digwydd, neu roi dŵr oer arnyn nhw, ond teimlo ydw i fod mwy y gellir ei wneud dros Gymru gyfan.”
Gyda chyfathrebu yn allweddol i drin cleifion, teimla fod rhaid medru iaith ddewisol y claf os yw meddygon am gynnig gofal iechyd o safon, ac mae ganddi dystiolaeth i gefnogi hyn.
Mewn rhai achosion, meddai, dydy rhai pobol ddim ond yn gallu siarad Cymraeg.
“Prif rinweddau neu brif sgiliau unrhyw ddoctor i gynnig gofal iechyd i unrhyw glaf yw ein bod ni’n gallu cyfathrebu’n effeithiol,” meddai.
“Mae hynny’n mynd am unrhyw un sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd, o ofalwyr i nyrsys.
“Mae’n rhaid bo ni’n gallu cyfathrebu’n effeithiol.
“Os dydan ni ddim yn cyfathrebu yn effeithiol, mae hynny gyfystyr â’n bod ni ddim yn rhoi’r gofal gorau.
“Mae yna ymchwil ar hyd y byd yn dangos, os nad ydyn nhw’n cynnig gwasanaeth iechyd yn newis iaith y cleifion, yna mae’n peri risg i iechyd y claf.
‘Risg i iechyd’
“Os nad ydym yn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg i’r bobol sy’n dymuno hynny, yna nid ydym yn cynnig y gwasanaeth iechyd gorau,” meddai Dr Llinos Roberts wedyn.
“Mae yna risg i iechyd.
“Rydym ni fel pobol sy’n gweithio o fewn y sector yn gweld pobol yn teimlo’n sâl a bregus.
“Pan mae rhywun yn teimlo fel hyn, yn aml mae rhywun yn teimlo’n llawer mwy cyffyrddus yn siarad yn ei iaith gyntaf.
“Felly maen nhw’n ymlacio yn well, ac rydym ni fel pobol sy’n gweithio o fewn y sector iechyd yn cael y gorau ac mae’r berthynas yna’n un agosach.
“Rydym yn gallu ffurfio perthynas agosach efo nhw.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y cleifion yn fwy tebygol o rannu mwy gyda ni, bod yn fwy onest, ymlacio mwy a chael profiad positif o fynd i weld y meddyg neu nyrs yn y sector iechyd.
“Mae’n gallu bod yn brofiad ofnus i bobol ddod i weld meddyg er bod ni’n meddwl bod ni’n bobol gyfeillgar iawn dim pawb sy’n teimlo bod nhw’n gallu ymlacio yn y feddygfa.
“Mae hwn yn berthnasol i bawb sy’n teimlo bod nhw’n gallu ymlacio mwy yn siarad un iaith fwy na llall.
“Mae’n berthnasol iawn i rai cleifion fel plant efallai sydd dim ond yn gallu siarad Cymraeg, efallai pobol hyn ble mae sgiliau iaith nhw wedi newid lle maen nhw’n mynd llawer mwy hyderus neu lai hyderus yn un o’r ieithoedd.
“Rydym yn gweld nifer o achosion ble mae pobol yn byw gyda chyflyrau fel dementia lle maen nhw’n colli’r gallu i siarad yn effeithiol mewn un iaith ac efallai yn colli’r Saesneg.
“Hyd yn oed i rywun fel fi a dwi’n ystyried fy hun yn gwbl ddwyieithog.
“Rwy’n siarad Cymraeg a Saesneg yn gwbl hyderus ond pam dwi’n teimlo’n sâl, pam dwi’n teimlo’n ddihyder neu yn fregus rwy’n mynegi fy hun yn llawer cliriach drwy’r Gymraeg.
“Rwy’n meddwl bod hynny yn gwbl wir i unrhyw un sy’n ddwyieithog.”
Fframwaith cenedlaethol
Yn ôl Dr Llinos Roberts, mae newidiadau wedi cael ei gwneud yn ieithyddol mewn rhai rhannau o Gymru, ond mae angen fframwaith cenedlaethol.
Mae’n credu bod angen i’r holl weithwyr iechyd feddu ar sgiliau siarad Cymraeg.
Teimla fod angen i bobol hyfforddi mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ac mewn ardaloedd lle mae prinder meddygon, er mwyn iddyn nhw aros yng Nghymru ac yn ei bröydd a defnyddio’r Gymraeg.
“Rwy’n teimlo y gellir rhoi llawer mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaeth Cymraeg,” meddai wedyn.
“Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn.
“Rwy’n sylweddoli bod ambell gam cadarnhaol yn cael ei wneud mewn ambell ardal o gwmpas Cymru.
“Beth sydd angen ydy fframwaith cenedlaethol wedi cael ei arwain gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod y camau yma’n cael eu cymryd ar draws Cymru yn adnabod siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithdy yn barod.
“Mae angen sicrhau bod nhw’n gallu cynnig gwasanaethau Cymraeg i gleifion, uwchsgilio staff sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd sydd ddim yn siarad Cymraeg a dangos ei fod yn bositif y gallan nhw gynnig Gwasanaeth Iechyd gwell i gleifion sy’n dewis siarad Cymraeg, o allu siarad Cymraeg.
“Hefyd rydym edrych ar hyfforddi, edrych ar ein colegau, ein prifysgolion, cyrsiau o fewn Cymru a gweld sut allwn ni gynyddu nifer y disgyblion sy’n siarad Cymraeg, a myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg o fewn y cyrsiau yma.
“Mae yna nifer fawr o ddisgyblion sy’n dymuno astudio meddygaeth a ddim yn cael lle i astudio meddygaeth yng Nghymru, ac maen nhw’n astudio meddygaeth ac maen nhw’n mynd dros y ffin i astudio.
“Unwaith mae rhywun wedi’u colli nhw o Gymru, yn aml iawn mae’n anodd iawn iddyn nhw ddod ’nôl i Gymru i weithio, ond ddim yn amhosib wrth gwrs.
“Byddai lawer mwy effeithiol os bydden ni’n gallu cadw disgyblion yng Nghymru i hyfforddi.
“Maen nhw fwy tebygol o fynd ’nôl wedyn i’w hardaloedd gwreiddiol lle maen nhw wedi cael eu magu er mwyn gweithio.”
‘Creisis enfawr’
Dywed Dr Llinos Roberts fod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu “creisis enfawr” o ran recriwtio meddygon yng Nghymru, “yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Sir Benfro, Powys a Phen Llŷn.
“Os ydych yn gallu hyfforddi myfyrwyr o’r ardaloedd yma, mae llawer mwy o siawns y byddan nhw yn mynd yn ôl i’r ardaloedd lle gawson eu magu er mwyn gweithio yno a chyfrannu i’r Gwasanaeth Iechyd o fewn eu cymuned,” meddai.
Dywed nad yw’r buddsoddiad presennol yn y Gwasanaeth Iechyd yn ddigonol, a’i bod hi’n edrych ar adeg fel bod gwasanaethau Cymraeg ar gael ond nad yw hynny bob amser yn wir.
“Gall llawer iawn mwy o fuddsoddiad gael ei wneud i sicrhau Gwasanaeth Iechyd trwy’r Gymraeg,” meddai.
“Gyda’r Gwasanaeth Iechyd, mae rhyw elfen o ticio bocsys, bod y gwasanaethau yn gwneud beth maen nhw’n gorfod gwneud er mwyn edrych fel eu bod nhw’n cynnig gwasanaeth dwyieithog.
“Hynny ydy, efallai yn cyfieithu ffurflenni neu wefannau, ond os yw rhywun yn crafu’r arwyneb ychydig byddan nhw’n gweld bod y gwasanaethau yma wirioneddol yn rhoi’r gwasanaeth trwy’r Saesneg.
“Beth rwy’n teimlo’n gryf yn ei gylch ydy y dylen ni fod yn cael cynnig Gwasanaeth Iechyd Cymraeg rhagweithiol.
“Beth mae hynny’n golygu yw ein bod ni ddim yn gorfod gofyn am y gwasanaeth, bod o ar gael i ni heb ein bod ni’n gorfod mynd i ymbilio a bod o’n rywbeth dydyn ni ddim yn chwilio amdano, bod o’n rywbeth sy’n cael ei gynnig i bawb.
“Dydyn ni fel Cymry ddim yn rhai sy’n hoffi cwyno, ac rydym mor falch o’r Gwasanaeth Iechyd yn gyffredinol a dydy rhywun ddim yn hoffi gweld bai arno fo.
“Rwy’n teimlo nad ydym yn cael y gwasanaeth gorau gallwn ni os nad ydym yn cael y gwasanaeth trwy ein mamiaith.”
Y rali yn “alwad”
Ar ôl y Cyfrifiad diwethaf, daeth galwad i’r Cyngor Sir wneud gwelliannau, ac fe wnaethon nhw rai newidiadau.
Eto, oherwydd siom y Cyfrifiad, roedd teimlad ar y cyfan fod angen galw ar y Llywodraeth i wneud rhywbeth mwy.
Mewn undeb mae nerth, medden nhw, ac roedd pobol yn sefyll gyda’i gilydd yn y rali.
“Cawsom rali ar ôl canlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011, pan oeddem ni’n galw ar y Cyngor Sir i weithredu,” meddai Dr Llinos Roberts.
“Yn dilyn hynny, mae’r Cyngor Sir wedi gwneud newidiadau cadarnhaol, un o’r pethau yw eu bod nhw wedi creu fforwm sirol er mwyn gosod nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.
“Yn dilyn y Cyfrifiad diwethaf, cawsom ni sioc a siom enfawr o weld dirywiad pellach yn nifer siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin, a’r teimlad cyffredinol oedd nad oedd y Llywodraeth wedi gwneud digon dros y degawd diwethaf er mwyn hybu’r iaith Gymraeg dros Gymru gyfan.
“Mae gennym ddiddordeb yn lle rydym yn byw yn Sir Gaerfyrddin.
“Galwad oedd hon ar y Llywodraeth i alw am fframwaith cenedlaethol ar gyfer y saith ardal lle rydym yn galw am ymgyrchoedd a newidiadau positif.
“Felly teimlo oedden ni ein bod ni wedi cael ein siomi gan ganlyniadau’r Cyfrifiad, yn lleisio ein barn ni am hynny, i ddangos i’r Llywodraeth ein bod ni’n barod iawn i ymgyrchu ac i wthio.
“Mae rali yn ffordd o ddod â ni at ein gilydd.
“Er ein bod ni wedi cythruddo ac yn poeni am y sefyllfa, roedd gweld cymaint o bobol efo’i gilydd efo’r un alwad a’r un angerdd mor gadarnhaol hefyd.
“Ges i, yn sicr, y wefr o weld cymaint o bobol wedi dod allan yn y gwynt a’r glaw i alw am hyn.
“Roeddwn yn teimlo ei fod yn bwysig ein bod ni’n gwneud yr alwad i’r Llywodraeth i weithredu.”