Mae gwaharddiad San Steffan ar Fesur Rhywedd yr Alban yn “ymosodiad ar ddemocratiaeth”, yn ôl Prif Weithredwr mudiad annibyniaeth YesCymru.
Gwnaeth Gwern Gwynfil y sylwadau heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 17), ar ôl i weinidogion Llywodraeth San Steffan gadarnhau eu bod yn rhoi feto ar ddeddfwriaeth yr Alban, yn groes i’r gefnogaeth drawsbleidiol a gafodd yn Holyrood, gan gynnwys gan ddau Geidwadwr.
“Beth bynnag yw eich barn am y gyfraith hon, dyma ymosodiad ar ddemocratiaeth yn yr Alban sy’n tanseilio datganoli,” meddai.
“Dim ond annibyniaeth all amddiffyn ein hawliau i lunio ein cyfraith ein hunain,” meddai wrth ddadlau mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o ymgorffori democratiaeth yng Nghymru a’r Alban.
“Mae’r symudiad yma gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn gosod cynsail peryglus.
“Beth bynnag yw eich barn ar y gyfraith yma ei hun, mae hwn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth yn yr Alban sy’n tanseilio datganoli.
“Dim ond annibyniaeth all warchod ein hawl i wneud ein cyfraith ein hunain yma yng Nghymru.
“Rhaid i ni ei gwneud hi’n glir i bawb, tan ein bod yn sicrhau ein nod o annibyniaeth, y bydd gan San Steffan y pŵer i waredu unrhyw benderfyniadau a wneir yma yng Nghymru.
“Does dim ots a ydyn nhw’n gwneud hynny i sgorio pwyntiau gwleidyddol, am resymau diwylliannol neu i atal Cymru rhag ehangu ei chyrhaeddiad economaidd; mae’r ffaith y gallant, yn golygu y byddant, ac yn gwneud hynny unrhyw amser fydd Cymru’n eu digio neu yn mynd yn groes i’w credoau nhw.
“Annibyniaeth yw ein hunig lwybr allan o’r berthynas batriarchaidd, ymelwol, gormesol ac wrth-ddemocrataidd hon.”
‘Hanfodol parchu penderfyniadau’
“Beth bynnag eich barn bersonol ar unrhyw gyfraith, mae’n hanfodol i ddemocratiaeth i barchu penderfyniadau cynrychiolwyr etholedig,” meddai Gwern Gwynfil wedyn.
“Gallwn, a dylem, brotestio’n uchel ac yn weithredol lle’r ydym yn anghytuno, ond mae gosod gwaharddiad drwy diktat imperialaidd yn annerbyniol ac yn sarhad i bleidleiswyr.
“Yn yr achos yma yn yr Alban ond fe all ddigwydd i ni yng Nghymru ar unrhyw adeg, dros unrhyw fater.”