Mae erlynwyr yng Ngoruchaf Lys Sbaen wedi cyflwyno cyhuddiadau o anhrefn gyhoeddus a chamddefnyddio arian cyhoeddus yn erbyn cyn-arweinydd Catalwnia a dau arall.

Mae Carles Puigdemont a’r cyn-weinidogion Toni Comín a Clara Ponsatí yn cael eu herlyn am eu rhan yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn 2017, sy’n cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Daeth cyfreithiau newydd i rym yr wythnos ddiwethaf, oedd yn dileu annog gwrthryfel fel trosedd ac yn ei newid i drosedd yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus, sy’n gallu arwain at y cosbau llymaf.

Mae modd cael dedfryd o garchar am hyd at chwe mis am gamddefnyddio arian, a hyd at bum mlynedd yn yr achosion mwyaf difrifol.

Mae troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn gallu arwain at garchar o dair i bum mlynedd.

Mae erlynwyr yn dadlau y dylid cyhuddo’r gwleidyddion o anufudd-dod, camddefnyddio arian cyhoeddus a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Mae’r llys eisoes wedi amlinellu mewn dogfennau yr hyn ddigwyddodd, gan gynnwys gweithredoedd wnaeth amharu ar draffig, torri i mewn i adeiladau ac effeithio ar waith y farnwriaeth, bygythiadau, a thrais yn erbyn pobol ac eiddo.

Dadl erlynwyr yw y dylid cosbi Carles Puigdemont a’i weinidog gan fod unigolion eraill wedi’u cael yn euog o annog gwrthryfel – gan gynnwys Oriol Junqueras, Raül Romeva, Josep Rull, Jordi Turull, Carme Forcadell, Jordi Sànchez a Jordi Cuixart.

Yn achos Lluís Puig, cyn-weinidog adawodd Sbaen yn 2017, mae erlynwyr yn gofyn ei fod e’n cael ei gyhuddo o anufudd-dod a chamddefnyddio arian cyhoeddus, a bod Marta Rovira yn cael ei chyhuddo o anufudd-dod.