Mae Cyngor Sir Powys yn annog pobol i leisio’u barn am gamlas Trefaldwyn, fel rhan o arolwg cyn i waith adfer mawr ddechrau.
Mae sawl arolwg ar y gweill fel rhan o’r prosiect, ac maen nhw’n cael eu cynnal gan Glandŵr Cymru (Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru) a Chyngor Sir Powys, ar ôl i’r ddau sefydliad lwyddo i ddenu bron i £14m o gyllid o Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yr arolygon fydd yn cael eu cynnal yw arolwg cymunedol o’r gamlas ar gyfer trigolion lleol, ymwelwyr â’r gamlas, a defnyddwyr Y Lanfa, y bythynnod a’r cyffiniau.
Y dyddiad cau i dderbyn ymateb gan y cyhoedd yw Ionawr 31.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu’r Ymddiriedolaeth a’r Cyngor i ddeall beth mae pobol yn ei feddwl ar hyn o bryd am Gamlas Trefaldwyn a’r Lanfa, pa mor aml maen nhw’n ymweld â nhw, a phwrpas eu hymweliadau.
Bydd yr Ymddiriedolaeth a’r Cyngor yn cynnal arolygon eraill wrth i’r prosiect fynd rhagddo, ac ar ddiwedd y prosiect.
Buddion economaidd, diwylliannol, lles a hamdden
“Bydd Prosiect Adfer Camlas Trefaldwyn yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at adfer Camlas Trefaldwyn yn ehangach, a mesul cam,” meddai’r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus.
“Pan fydd hynny wedi’i gwblhau’n llawn, bydd yn darparu buddion economaidd, diwylliannol, lles a hamdden hirdymor i gymunedau lleol.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn gofyn am farn y gymuned leol ac ymwelwyr â Chamlas Trefaldwyn a’r Lanfa er mwyn deall eu syniadau cyfredol, pa mor aml y maent yn ymweld â nhw a beth yw dideb eu hymweliad.
“Byddwn yn annog trigolion lleol Camlas Trefaldwyn ac ymwelwyr â hi i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddatgan eu barn drwy gwblhau’r arolwg hwn.”
Yn ôl Jason Leach, pennaeth darparu rhaglenni allanol Glandŵr Cymru, (the Canal & River Trust in Wales), bydd y cam nesaf yn y broses o adfer Camlas Trefaldwyn “yn dod â llawer o fanteision i’r gymuned”.
Ond mae’n cydnabod hefyd ei bod hi’n “bwysig ein bod yn deall sut mae pobol leol yn defnyddio’r gamlas a pham maen nhw’n dod i ymweld â hi”.
“Gwyddom fod treulio amser ger y dŵr yn llesol i’n hiechyd meddwl a chorfforol, felly mae’n wych bod y cam nesaf hwn o’r prosiect adfer hwn yn mynd yn ei flaen,” meddai.
“Mae ein camlesi wedi cael eu hailddyfeisio yn lle i bobl dreulio eu hamser hamdden, dod yn heini, mwynhau’r awyr agored, a theimlo’n iachach, felly dewch am ymweliad.”