Mae cefnogi iechyd a lles emosiynol pobol sy’n byw â salwch corfforol hirdymor wedi cael ei “ddiystyru i raddau helaeth”, yn ôl sefydlydd un elusen.

Pwrpas elusen Mentro i Freuddwydio ydy ymestyn y gefnogaeth i iechyd a lles emosiynol cleifion, a byddan nhw’n cynnal gŵyl rithiol fis nesaf er mwyn rhoi cyfle i bobol sydd â salwch cronig fwynhau noson o gerddoriaeth a dawns fyw.

Y darlledwyr Sian Lloyd a Jason Harrold fydd yn cyflwyno Lleswyl 2023, gŵyl a gafodd ei sefydlu i godi ymwybyddiaeth o’r angen i feithrin iechyd emosiynol cleifion yn ystod cyfnodau anodd.

Yn ôl yr amcangyfrifon, mae bron i hanner holl oedolion Cymru, tua 1.2 miliwn o bobol, yn byw ag afiechyd corfforol hirdymor.

O’r rheiny, mae bywydau mwy na’u hanner wedi’u cyfyngu i ryw raddau neu’n ddifrifol gan eu salwch.

‘Ynysigrwydd cymdeithasol’

Yn ôl sefydlydd yr elusen, Barbara Chidgey, mae gan Mentro i Freudwyddio rôl “o bwys sylweddol wrth gefnogi’r syniad o ‘fyw’n dda â salwch'”.

“Mae Lleswyl yn ymwneud â helpu pobol sy’n byw â salwch corfforol i gael eu cynnwys mewn digwyddiadau torfol cymdeithasol,” eglura.

“Mae salwch hirdymor wir yn arwain at fwy a mwy o ynysigrwydd cymdeithasol.

“Rydyn ni’n annog pobol i ddod at ei gilydd ar Chwefror 17 pan gynhelir yr ŵyl, gwahodd pobol rydych chi’n eu hadnabod sy’n byw â salwch cronig a rhannu noson hwyliog yng nghwmni eich gilydd gyda bwyd, cerddoriaeth, a hapusrwydd.”

Bydd yr ŵyl yn rhoi cyfle i bobol sydd methu mynychu gwyliau a digwyddiadau wyneb yn wyneb oherwydd salwch, anableddau neu anfantais ariannol fwynhau perfformiadau o’u cartrefi, yr ysbyty neu gartrefi gofal.

Mae Sinfonia Cymru, Cymuned Dawnsio ‘Ballroom’ Cymru, Ify Iwoby, Côr Canser Tenovous a Afro Cluster ymysg y perfformwyr.

Her feddyliol

Mae Neil Hopper, sy’n llawfeddyg fasgwlaidd o Abertawe, yn un o noddwyr yr elusen. Collodd ei ddwy goes uwchben y pengliniau ar ôl dal sepsis yn 2019.

“Roedd colli fy nghoesau yn ofnadwy, ond nid dyna’r rhan waethaf o’r hyn ddigwyddodd i fi,” meddai.

“Newidiodd fy amgylchiadau personol, yn sydyn newidiodd fy lle mewn cymdeithas, newidiodd y ffordd roeddwn i’n rhyngweithio â phobol, roedd rhaid cael fy mhen o gwmpas bod yn anabl.

“Hyn i gyd oedd y pethau yr oeddwn yn ffeindio’n anodd delio efo, heb law am y newidiadau corffol a chael coesau plastig yn lle coesau go iawn.

“Mae wedi bod yn daith anodd a dyna’r rhan nad yw pobol yn meddwl amdani weithiau, y pethau meddyliol.”