Dylai Comisiynydd newydd y Gymraeg flaenoriaethu pobol a bod yn fwy cadarn gyda chyrff sy’n torri Safonau Iaith, meddai Cymdeithas yr Iaith.
Wrth i Efa Gruffudd Jones ddechrau ar ei gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg, mae’r mudiad wedi galw arni i ddatgan a fydd hawl pobol Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg a derbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn flaenoriaeth iddi.
Mewn llythyr ati, mae Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio bod perygl bod y cyhoedd yn colli ffydd yn y broses gwyno am fod ymchwiliadau yn aml yn hir a chymhleth.
Maen nhw hefyd yn pryderu nad ydy cwynion bob amser yn cael eu datrys mewn “modd amserol a boddhaol”.
‘Gadael bwlch’
Dywedodd Siân Howys, llefarydd ar ran Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, eu bod nhw’n credu y dylai’r Comisiynydd fod wedi arfer y grymoedd sydd ar gael i orfodi cyrff i gydymffurfio â’r Safonau yn y gorffennol.
“Mae hynny wedi golygu bod pobol yn parhau i gael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg,” meddai.
“Mewn maes arall, heblaw’r Gymraeg, petai rheoliadau’n cael eu torri byddai canlyniadau a goblygiadau. Ond mae Safonau’r Gymraeg yn cael eu trin fel rhywbeth i anelu atynt, yn hytrach na lleiafswm.
“Nid yn unig bod hyn yn broblem pan na fydd Safonau yn cael eu gweithredu ond mae’n golygu bod nifer o sefydliadau yn cynnig darpariaeth lai nag sy’n bosibl mewn gwirionedd, ac yn gadael bwlch rhwng disgwyliadau siaradwyr Cymraeg a’r hyn sy’n cael ei sicrhau gan y Safonau.
“Mae cyfle gyda’r Comisiynydd newydd, i fod yn glir o’r dechrau mai pobol fydd y flaenoriaeth – drwy osod mwy o Safonau ar fwy o gyrff, a bod yn fwy cadarn pan fydd cyrff yn torri’r Safonau hynny.”
Ynghyd â hynny, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am roi Safonau Iaith mewn meysydd eraill sydd wedi’u haddo gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, cwmnïau dŵr a chymdeithasau tai.
Maen nhw hefyd yn galw am ehangu Mesur y Gymraeg i gynnwys cwmnïau’r sector breifat.
“Bydd cwmnïau preifat yn dal i ddiystyru’r Gymraeg nes bod rheidrwydd arnyn nhw i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, felly mae angen cynnwys cyrff y sector breifat o dan Fesur y Gymraeg,” ychwanega yn y llythyr.
‘Adolygu gweithdrefnau’n gyson’
Mewn ymateb dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: “Rwy’n ddiolchgar yn gyntaf i’r Gymdeithas am gysylltu ac am godi’r materion pwysig hyn.
“Rwy’n ymwybodol fod ein swyddogion yn cyfarfod yn gyson gyda’r Gymdeithas, a byddaf innau yn cyfarfod â nhw yn fuan.
“Rydym yn adolygu ein gweithdrefnau yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn addas ac yn ymarferol ar gyfer unrhywun sydd yn cysylltu â ni ond edrychaf ymlaen at drafod ymhellach â’r Gymdeithas maes o law.”