Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddatblygu strategaeth sefydlog a thymor hir i fynd i’r afael â’r heriau economaidd sy’n wynebu Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn ôl Vaughan Gething.
Dyma apêl Ysgrifennydd Economi Cymru cyn cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fusnes a Diwydiant eleni.
Mae’r Grŵp yn tynnu ynghyd Weinidogion Llywodraethau Cymru, y Deyrnas Unedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 17) yn dilyn y cyfarfod, bydd Vaughan Gething yn adrodd yn ôl yn y Senedd.
Bydd yn galw am ffocws cryf ar dwf cynaliadwy sy’n datgloi cyfleoedd i Gymru ac yn rhoi terfyn ar gyfnod o ganoli economaidd niweidiol.
Mentrau newydd
Dros y misoedd nesaf, bydd Gweinidog yr Economi’n lansio nifer o fentrau eraill i gefnogi economi Cymru, gan gynnwys:
- Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net newydd, fydd yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau a gweithwyr i fynd i’r afael a’r sgiliau fydd yn gyrru economi carbon isel
- Strategaeth Arloesi newydd gyda’r bwriad o ennill mwy o fuddsoddiad mewn Cymru fwy arloesol
- Cynllun Benthyciadau Gwyrdd newydd i Fusnesau sef benthyciadau rhad gyda chymorth ymgynghorydd i helpu busnesau i leihau eu costau ynni am byth.
- Cynllun Gweithredu wedi’i adfywio ar gyfer y sector Gweithgynhyrchu, fydd yn amlinellu ein huchelgais ar gyfer y sector gweithgynhyrchu gyda golwg rhyngwladol gan gynnal swyddi da mewn cymunedau lleol.
Bydd hefyd yn amlinellu’r gwaith sydd wedi ei wneud wrth gydweithio’n llwyddiannus â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Borthladdoedd Rhydd, a dyfodol Polisi Ffiniau.
Buddsoddi mewn “economi Gymreig gryfach”
Ond mae heriau a phryderon mewn nifer o feysydd mae Vaughan Gething yn teimlo sydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu ar fyrder arnyn nhw, gan gynnwys masnachu allyriadau carbon, y clwstwr lled-ddargludyddion a Chronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig.
“Mae economi’r Deyrnas Unedig bellach mewn sefyllfa waeth nag unrhyw genedl G7 arall ac mae canoli economaidd yn rhan o’r broblem,” meddai ar drothwy’r cyfarfod.
“Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr yn rhagweld y bydd diweithdra yng Nghymru’n codi rhwng 20,000 a 40,000 dros y 18 mis nesaf.
“Mae disgwyl i chwyddiant aros o gwmpas y 10% dros hanner cynta’r flwyddyn, ac mae cynhyrchiant yn wan.
“Llwyddodd ‘cyllideb fach’ drychinebus Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau’r hydref i waethygu effeithiau’r cynnydd mewn biliau a chwyddiant ynni gan selio drwg y gellid fod wedi’i osgoi, ar adeg na ellid fod wedi’i dychmygu ei gwaeth.
“Mae cyhoeddiad Liberty Steel yr wythnos ddiwethaf yn profi ei bod yn hanfodol ac nid yn fater o ddewis, bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu.
“Er lles Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddatblygu strategaeth gyfrifol ac ystyrlon i sicrhau adfywiad a thwf cynaliadwy yr economi.
“Mae’r gwersi’n glir – mae gan ymgysylltu da y pŵer i sicrhau canlyniadau economaidd cryfach.
“Mae’n bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fuddsoddi mewn partneriaeth i ddatblygu economi Gymreig gryfach, o fewn economi tecach a mwy diogel ar gyfer y Deyrnas Unedig.”