Mae Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi y bydd grŵp o arbenigwyr yn cydweithio i gynghori Llywodraeth Cymru ar gamau i wahardd therapi trosi yng Nghymru ar gyfer pob person LHDTC+.

Mae’r gweithgor yn dod â chynrychiolwyr o gymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a chynrychiolwyr plant a phobol ifanc at ei gilydd, ochr yn ochr â phobol LHDTC+ i gynghori ar elfennau allweddol o’r gwaith.

Gydag uchelgais cadarn i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i bobol LHDTC+ yn Ewrop, llofnododd Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ‘Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ gyda’r Gynghrair Gwahardd Therapi Trosi y llynedd.

Bydd sefydliadau sy’n llofnodi’r Memorandwm ac sy’n gweithio ym meysydd darparu neu gomisiynu iechyd meddwl neu iechyd seicolegol – fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – yn ymrwymo i sicrhau nad ydyn nhw’n comisiynu therapi nac yn darparu arferion trosi yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu cyngor cyfreithiol i sefydlu’r union bwerau sydd gan Gymru eisoes er mwyn ceisio cael datganoli unrhyw bwerau ychwanegol sydd eu hangen i wahardd arferion trosi yn gyfangwbl.

‘Cymru ddim yn eithriad’

Mae’r aelodau’n cynnwys Jayne Ozanne, ddioddefodd bron i ugain mlynedd o arferion trosi wnaeth ei harwain i orfod mynd i’r ysbyty ddwywaith.

Nawr, mae hi’n gweithio i sicrhau bod pobol LHDTC+ yn cael eu cynnwys yn llawn, yn enwedig pobol LHDTC+ sydd â ffydd, a hi yw sylfaenydd a chadeirydd Cynghrair Gwahardd Therapi Trosi’r Deyrnas Unedig, sy’n ymgyrchu dros wahardd yr arfer yn llwyr.

Wrth gael ei gwahodd i ymuno â’r gweithgor, dywed fod “hyn yn digwydd mewn llawer o eglwysi a grwpiau crefyddol ar draws y byd”.

“Dyw Cymru ddim yn eithriad,” meddai.

“Mae’n ffiaidd, yn niweidiol ac yn gamdriniol.

“Yn anffodus, mae’n drawma sy’n aros gyda chi am oes gan ei fod yn mynd at wraidd pwy ydych chi a sut rydych chi’n caru.

“Mae cynnwys pobol draws ac anneuaidd mewn gwaharddiad yn hanfodol gan fod lefel y cam-drin corfforol a cham-drin geiriol yn erbyn y gymuned draws ac anneuaidd mor ddifrifol.

“Mae’n arbennig o bwysig ein bod yn gweithio i ddiogelu pobol ifanc ar draws y gymuned LHDTC+ oherwydd bod y canlyniadau meddyliol mor erchyll.

“Os ydych chi’n dioddef trawma yn gymharol ifanc oherwydd rhywbeth mor sylfaenol â’ch hunaniaeth graidd, yna gall hynny fynd ymlaen i effeithio ar eich rhagolygon o ran addysg ac o ran gyrfa, eich ymdeimlad o hyder a’ch gallu i garu a chael eich caru, sy’n golygu bod perthnasoedd cadarnhaol gydol oes yn aml yn cael eu heffeithio’n ddifrifol.”

‘Arfer ffiaidd’

Aelod arall o’r grŵp arbenigol newydd yw un sydd â thros 25 mlynedd o brofiad mewn rolau arwain uchel eu proffil.

“Fel rhywun brofodd therapi trosi LHDT yn ddyn ifanc, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw gwahardd yr arfer ffiaidd hwn,” meddai Ian Green, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins.

“Nid yw bod yn lesbiad, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol yn rywbeth sydd angen ei newid na’i wella.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o weithgor Llywodraeth Cymru ar arferion trosi, gan chwarae rôl weithredol yn y gwaith o helpu i sicrhau bod yr arfer yng Nghymru yn cael ei wahardd.”

Gwybodaeth y gweithgor yn ‘amhrisiadwy’

“Dangosodd data’r Cyfrifiad yn ddiweddar fod pobol LHDTC+ yn preswylio ac yn cyfrannu ym mhob rhan o Gymru, sy’n pwysleisio ymhellach ein hymrwymiad i sicrhau bod pob cornel o’n gwlad yn lle diogel i fyw yn agored ac yn driw i’ch hunan,” meddai Hannah Blythyn.

“Mae arferion trosi yn ffiaidd, ac rydym wedi ymrwymo i’w gwahardd i helpu i ddiogelu pawb yn ein cymunedau LHDTC+.

“Mae aelodau o’n gweithgor yn dod â chyfoeth o brofiad, ac, mewn rhai achosion, profiad uniongyrchol o’r gofid llwyr a’r niwed difrifol y gall arferion trosi eu peri.

“Bydd gwybodaeth yr holl aelodau ar y cyd yn amhrisiadwy wrth i ni weithio i wahardd yr arfer gwirioneddol ddieflig hwn.”