Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddangos “gwir arweinyddiaeth”, ar ôl i athrawon a nyrsys ddewis streicio eto yn dilyn anghydfod ynghylch cyflogau.
Dywed y blaid eu bod nhw eisiau gweld y llywodraeth yn cynnig mwy o gyflog i’r gweithwyr hyn gan ddefnyddio arian wrth gefn a chronfeydd sydd heb eu defnyddio.
Bydd aelodau’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gadael eu gwaith am ddeuddeg awr ar Chwefror 6 a 7 pe na bai cytundeb ar y ffordd ymlaen erbyn hynny, ac mae NEU Cymru wedi cyhoeddi y bydd athrawon yn streicio ar Chwefror 1 ac eto ar Fawrth 15 ac 16.
Dywed Heledd Fychan, llefarydd plant a phobol ifanc Plaid Cymru, fod y blaid yn sefyll mewn “solidariaeth lwyr” ag athrawon a staff cynorthwyol, gan ddweud bod y penderfyniad i streicio’n un “dewr”.
Roedd problemau recriwtio a chadw staff ymhell cyn y pandemig Covid-19 a’r argyfwng economaidd presennol, meddai, wrth iddi alw ar y llywodraeth i ddangos eu bod nhw’n gwerthfawrogi athrawon drwy gynnig mwy o gyflog iddyn nhw.
Mae gan Lafur yr arian i’w gynnig i athrawon a nyrsys, meddai.
Daw ei sylwadau wythnos ar ôl i’w phlaid ddweud bod cynnig codiad cyflog o 8% i nyrsys yn bosib pe bai arian wrth gefn a chronfeydd heb eu defnyddio ar gael i’w talu nhw, ac mae’r blaid yn dweud bod hynny’n wir am athrawon hefyd.
Mae’r cynnig presennol yn golygu codiad cyflog o 4.8% ar gyfartaledd i staff y Gwasanaeth Iechyd, ac oddeutu 5% i athrawon.
Er mwyn bodloni’r 8%, byddai angen £176m a £27m ychwanegol o fewn y flwyddyn ariannol bresennol.
‘Sefyll mewn solidariaeth’
“Mae Plaid Cymru’n sefyll mewn solidariaeth lwyr efo’r holl athrawon a staff cynorthwyol sydd wedi cymryd y cam dewr o streicio i fynnu’r setliad tâl tecach maen nhw’n ei haeddu gan eu llywodraeth,” meddai Heledd Fychan.
“Ers blynyddoedd, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi clywed bod un ym mhob tri o athrawon yn gadael y dosbarth yn ystod eu pum mlynedd gyntaf yn y proffesiwn o ganlyniad i lwyth gwaith ac amodau gwaith – ond ychydig iawn maen nhw wedi’i wneud i ddatrys y mater.
“Yn union fel ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, roedd yr argyfwng recriwtio a chadw athrawon yn bod ymhell cyn y pandemig a’r argyfwng costau byw.
“Dyna pam i ni ddweud ym maniffesto diwethaf Plaid Cymru ar gyfer y Senedd y bydden ni’n mynd i’r afael â hyn, nid yn unig drwy wneud arian ar gael i recriwtio rhagor o athrawon, ond drwy wella’r cynnig i’r sawl sydd eisoes yn y proffesiwn.
“Felly os ydy Llywodraeth Cymru o ddifri am gadw athrawon a recriwtio rhai newydd, ac os ydyn ni am wireddu uchelgais y cwricwlwm newydd yn llawn, yn ogystal ag anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth iaith Gymraeg, yna mae angen iddyn nhw ddangos i athrawon eu bod nhw’n eu gwerthfawrogi nhw, ac mae hynny’n dechrau efo tâl tecach.
“Mae gan y Llywodraeth Lafur hon yr arian wrth law i wella’r cynnig tâl i nyrsys ac athrawon drwy gronfeydd sydd heb eu defnyddio ac arian wrth gefn.
“Mae’n hen bryd iddyn nhw ddangos gwir arweinyddiaeth ynghylch anghydfodau tâl y sector cyhoeddus, dechrau trafod go iawn, a gwneud cynnig tâl tecach.”
Nyrsys yn “haeddu parch”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, mae nyrsys yn “haeddu parch”.
“Mae ein nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio’n galed yn haeddu parch gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon am yr holl waith caled maen nhw wedi’i wneud i ofalu amdanom pan oedden ni ei angen fwyaf,” meddai.
“Maen nhw’n cael eu gorweithio, mae ganddyn nhw ddiffyg adnoddau ac maen nhw’n cael eu tan-dalu’n ddifrifol.
“A rŵan maen nhw’n cael eu hamharchu.
“Mae gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon yr arian a’r gallu i wella’r cynnig, trwy gronfeydd sydd heb eu defnyddio ac arian wrth gefn.
“Yr hyn nad oes ganddyn nhw ydy’r ewyllys i dalu ein nyrsys yr hyn maen nhw’n ei haeddu – parch a chyflog teg.”
‘Siomedig iawn’
Dywed Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “siomedig iawn” ynghylch y sefyllfa.
“Dw i’n siomedig iawn o weld y bydd athrawon nawr yn streicio, ynghyd â nyrsys a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus, o ganlyniad uniongyrchol i fethiant y Llywodraeth Lafur i gefnogi ein hysgolion yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn derbyn £1.20 am bob £1 sy’n cael ei wario yn Lloegr ar addysg, ac yn gwneud y dewis gwleidyddol i wastraffu cannoedd o filoedd ar brosiectau porthi balchder, felly mae arian ar gael i fynd i’r afael â’r materion hirdymor hyn ac i osgoi’r streiciau.
“Mae addysg wedi’i datganoli yng Nghymru, mae’r lifrau yn nwylo Llafur.
“Mae angen i’r Gweinidog Iechyd fynd at y bwrdd ac amlinellu sut mae’n bwriadu cefnogi ein hathrawon sy’n gweithio’n galed, yn well.”
Mae disgwyl i NEU Cymru gynnal streiciau ychwanegol ar Chwefror 14, 15 ac 16.