Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn galw o’r newydd ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghymru.

Daw’r alwad yn dilyn ffigurau diweddar, ar ran y Glymblaid Dileu Tlodi Plant, sy’n dangos bod gan ranbarth gwledig canolbarth a gorllewin Cymru un o’r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y wlad.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi’u cyhoeddi fel rhan o brosiect ymchwil gan Brifysgol Loughborough, mae dros draean o blant yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys yn byw mewn tlodi.

Yn Sir Benfro mae’r ffigwr ar ei uchaf, gyda 35.5% o blant yn byw mewn tlodi.

Wrth herio Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i ymrwymo i ddatblygu strategaeth â ffocws ar fynd i’r afael â thlodi gwledig, tynnodd Cefin Campbell sylw hefyd at heriau ehangach o fewn cymunedau gwledig sydd wedi sefydlu “cylch dieflig o dlodi gwledig” dros gyfnod o flynyddoedd a chenedlaethau lawer.

‘Cuddio gwir raddfa tlodi yng nghefn gwlad’

“Mae gwir raddfa tlodi yng nghefn gwlad Cymru yn aml yn cael ei guddio gan gyfoeth cymharol rhai ardaloedd gwledig,” meddai Cefin Campbell.

“Mae ein cymunedau cefn gwlad yn wynebu nifer o ffactorau unigryw sydd wedi cyfrannu tuag at gylch dieflig o dlodi parhaol sydd wedi hen ymwreiddio yn ein hardaloedd gwledig.

“Mae’r heriau yn cynnwys mynediad gwael i drafnidiaeth gyhoeddus, darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus anghyson, diffyg tai fforddiadwy, ac incwm cymharol isel a phrisiau uchel.

“Yn anffodus, mae’r argyfwng costau byw dros y misoedd diwethaf wedi gwaethygu’r ffactorau hyn, ac wedi taflu nifer o aelwydydd i mewn i galedi ariannol ac ansicrwydd pellach.”

Ymchwil

Daeth ymchwil flaenorol gan Sefydliad Joseph Rowntree i’r casgliad bod y mwyafrif o aelwydydd gwledig fel arfer yn gwario 10-20% yn fwy ar nwyddau a gwasanaethau bob dydd o gymharu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy trefol.

Cafodd y fath duedd ei hatgyfnerthu ymhellach mewn ymchwil gan yr elusen Sustrans, oedd yn nodi bod tlodi trafnidiaeth ar ei fwyaf nodedig ymysg ardaloedd o’r Gymru wledig – gydag aelwydydd yn gwario mwy na 10% o’u hincwm ar gostau rhedeg car.

Cafodd anghyfartaleddau ariannol o’r fath eu tanlinellu gan ymchwil gan Sefydliad Bevan, gafodd ei chyhoeddi’r llynedd, oedd wedi dod i’r casgliad bod cyflog gweithiwr arferol yn Sir Benfro £346 y mis yn is na’r ffigwr cyfartalog cyffelyb ar gyfer y Deyrnas Unedig.

“Mae’r caledi sy’n wynebu cymunedau gwledig Cymru yn agoriad llygad – ac mae’n ddigon posibl y bydd diffyg gweithredu i fynd i’r afael â’r fath dlodi yn ein cymunedau cefn gwlad yn dod yn waddol i ddegawdau o reolaeth Llafur Cymru yng Nghymru,” meddai Cefin Campbell.

“Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i’r afael â’r ffactorau unigryw hyn sy’n cyfrannu at y fath dlodi gwledig, a gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau strategaeth a gweledigaeth i rymuso a chynorthwyo’r cymunedau yma.”

Ymateb y Prif Weinidog

“Dwi’n cydnabod bod yna ffactorau sy’n unigryw i bobol sy’n byw yng nghefn gwlad, a gallaf gytuno gyda beth ddywedodd yr Aelod,” meddai Mark Drakeford wrth ateb Cefin Campbell.

“Ambell waith, mae’n anodd gweld tlodi mewn rhai cymunedau gwledig.

“Wrth gwrs, mae pob rhan o Gymru yn wynebu sialens ar hyn o bryd – pa un a’ch bod chi’n byw yn y Cymoedd, bod chi’n byw yng nghanol Caerdydd.

“Mae sialensau unigryw i’w cael ym mhob man.

“Gallaf ddweud wrth yr Aelod y bydd cynllun yn dod lan.

“Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio ar hyn o bryd ar bethau ymarferol y gallwn ni eu wneud i helpu, yn enwedig ym maes tlodi plant.”

Hefin Jones ar fferm yn pwyso ar y glwyd

Rali ‘Byw yn Gymraeg’ yn galw am strategaeth ar gyfer amaeth a datblygu gwledig

Lowri Larsen

Bydd Rali’r Cyfri ‘Byw yn Gymraeg Sir Gar’ yn cael ei chynnal am 2 o gloch ger Neuadd y Sir, Caerfyrddin ddydd Sadwrn (Ionawr 14)