Yn wyneb ffigyrau’r Cyfrifiad, ddangosodd ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, bydd Rali’r Cyfri ‘Byw yn Gymraeg Sir Gar’ ddydd Sadwrn (Ionawr 14) yn galw ar y Llywodraeth i greu Fframwaith Camau Gweithredu i ddiogelu’r iaith yn y sir.
Yn y rali am 2 o gloch ger Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, bydd galw ar y Llywodraeth i greu Fframwaith Camau Gweithredu i ddiogelu’r iaith yn y sir.
Bydd Hefin Jones yn galw am strategaeth ar gyfer amaeth a datblygu gwledig i wrthbwyso’r buddsoddiadau yn y dinas-ranbarthau, a hybu cynaliadwyedd cymunedau gwledig.
Mae’n teimlo nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gwneud digon ar gyfer amaeth a datblygu gwledig, a’u bod yn dibrisio’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud ar sawl lefel.
Oherwydd bod amaeth a chymunedau gwledig ond yn cyfrif am ganran fach iawn o’r boblogaeth, mae Hefin Jones yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn talu mwy o sylw i ddinasoedd poblog er mwyn denu pleidleiswyr.
Mae nifer cynyddol o bobol ifanc yn gadael cymunedau gwledig am resymau economaidd, ac yn aml dydyn nhw ddim yn dod yn ôl.
Gwerth a chyfraniad cymunedau gwledig
Dydy Hefin Jones ddim yn teimlo bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gweld gwerth cyfraniadau amrywiol cymunedau gwledig.
Mae’r buddsoddiadau sydd wedi’u gwneud wedi bod mewn ardaloedd mwy poblog, ac mae Hefin Jones yn teimlo bod angen buddsoddiadau mewn cymunedau gwledig, nid yn unig mewn amaeth ond yn y diwydiannau eraill lle nad oes angen bod yn y dref oherwydd datblygiadau technolegol.
“Y teimlad sydd gennyf i yw nad yw Llywodraeth Cymru fel mae hi nawr, ac fel sydd wedi bod dan reolaeth Llafur… nad oes gan y llywodraeth wybodaeth am werth cymunedau gwledig a’r cyfraniad mae cymunedau gwledig yn ei wneud o ran iaith, o ran diwylliant, heb sôn am yr elfennau economaidd,” meddai wrth golwg360.
“Os edrychi di ble mae’r buddsoddiad wedi bod yn hanesyddol, mae’r buddsoddiad wedi bod yn yr ardaloedd trefol.
“Dim ond yn ddiweddar iawn mae yna ambell elfen o fuddsoddi wedi bod mewn cymunedau gwledig.
“Rwy’n credu, yn yr oes sydd ohoni bellach, mae cymunedau gwledig yn haeddu buddsoddiad, nid yn unig yn y sector amaeth ond mewn diwydiannau eraill.
“Diwydiannau sy’n gysylltiedig ag amaeth – ie, 100% – ond diwydiannau sydd tu hwnt i amaeth hefyd, oherwydd mae’r dechnoleg sydd ar gael yn golygu nad oes rhaid bod yng nghanol y dref neu yng nghanol dinasoedd i gwblhau gwaith ac mae’n bryd, i raddau helaeth, bod y sylw yn troi at fuddsoddi mewn ardaloedd gwledig.”
Strategaeth Llywodraeth Cymru
O ran strategaeth, mae Hefin Jones yn credu bod angen rhoi’r gefnogaeth i ffermwyr gweithredol oherwydd, ers blynyddoedd, mae ffermwyr wedi bod yn cael eu talu ar sail faint o dir mae ganddyn nhw fynediad ato.
Dydy e ddim yn credu bod hyn yn rhoi mynediad hawdd i bobol ifanc i’r byd amaeth.
Yn ogystal â hyn, mae’r mater o blannu coed.
Yn ôl Hefin Jones, mae nifer o’r cwmnïau sy’n plannu coed yng nghefn gwlad Cymru yn dod o Loegr, ac mae Llywodraeth Cymru yn talu grantiau hael iddyn nhw wneud hyn.
Barn Hefin Jones yw y dylai’r plannu coed yma ddigwydd law yn llaw â’r byd ffermio, yn rhannol i’w gwneud hi’n haws i bobol ifanc aros.
“Os ydym yn edrych ar strategaeth, mae angen gwneud yn siŵr bod y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i’r sector amaeth yn cael ei rhoi i ffermwyr gweithredol,” meddai.
“Hynny ydy, pobol sy’n cynhyrchu a chymryd risg amaethyddol; y bobol hynny ddylai fod yn derbyn taliadau cefnogol.
“Rwy’n ymwybodol ein bod ni’n edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi amaeth.
“Ers blynyddoedd, rydym wedi bod yn cael ein talu ar sail faint o dir mae gennym fynediad ato fo; dydy hynny ddim yn annog pobol ifanc i ddod mewn i’r diwydiant.
“Dydy hynny ddim yn gydnaws gyda gwneud yn siŵr bod y ffermydd yn iawn o ran cadwraeth, o ran natur a bioamrywiaeth.
“Yn aml iawn, mae’n daliad am fod yn rhentu tir.
“Mae hynny yn ei dro wedi arwain at amgylchiadau lle nad yw pobol ifanc yn gallu cael mynediad hwylus i mewn i’r diwydiant.
“Dyna ran gyntaf y strategaeth.
“Mae angen gwneud yn siŵr mai ffarmwr gweithredol sy’n derbyn yr arian.
“Rydym yn gwybod yn ddiweddar am ffermydd yn cael eu gwerthu i gael plannu coed, carbon off-setting ac yn y blaen.
“Mae hynny yn strategaeth beryglus.
“Mae Llywodraeth Cymru yn eistedd ar eu dwylo ac maen nhw’n honni bod gynnon nhw darged i’w gyrraedd.
“Beth ti’n gweld yn digwydd yw bod yna gwmnïau o Loegr yn prynu tiroedd cefn gwlad Cymru er mwyn plannu, a Llywodraeth Cymru yn talu grantiau hael iddynt am wneud hynny.
“Mae hynny’n disodli teuluoedd ifainc sydd eisiau byw ar y tir yng Nghymru.
“Mae angen ail edrych ar y strategaeth yna.
“Mae’r undebau amaethyddol wedi ailedrych ar y papurau sy’n dangos bod modd plannu coed.
“Dw i ddim yn diystyru’r angen am blannu coed o gwbl.
“Mae’r undebau amaethyddol wedi cyflwyno papurau strategaethol i’r Llywodraeth le mae hynny’n gallu cael ei wneud mewn ffordd sensitif, law yn llaw â chynhyrchu bwyd, ond eto i gyd mae Llywodraeth Cymru – gan gynnwys Mark Drakeford – yn eistedd ar eu dwylo.”
Pobol ifanc yn gadael
Mae Hefin Jones yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn swyddi a chartrefi, a gwneud amodau gwaith yn well i bobol ifanc sydd yn gadael cefn gwlad Cymru.
Teimla fod y deddfau yn ei gwneud hi’n amhosib i bobol ifanc aros, a bod y bil amaeth yn gyfle i ailedrych ar y pethau hyn.
“Rydym i gyd yn gwybod am bobol ifanc sydd wedi cael eu geni a’u magu mewn ardaloedd gwledig yn gorfod, yn anffodus, gadael cefn gwlad er mwyn: un, cael cartref, ac yn ail, cael swyddi o werth,” meddai.
“Rydym wir eisiau rhoi sylw a rhoi gwerth ar gefn gwlad, pethau sydd o fewn ein cyrraedd ni, pethau y gallwn ni wneud erbyn hynny, wedyn mae angen i’r buddsoddiad yma mewn swyddi, mewn cartrefi i bobol ifanc, fod yn yr ardaloedd gwledig fel bod modd i bobol ifanc gael swyddi da yn eu cynefinoed brodorol ac i gael cartref yna.
“Rwy’n clywed o hyd am bobol yn methu fforddio prynu cartrefi mewn ardaloedd gwledig oherwydd y gystadleuaeth o bant.
“Mae yna ofyn i’r llywodraeth weithredu ar hynny.
“Rydym yn gwybod fod pobol yn gadael cynefinoedd gwledig.
“Mae nifer o bobol ddisglair yn gadael er mwyn cael gyrfa ac i fagu teulu.
“Yn aml iawn, unwaith maen nhw wedi gadael, ddewn nhw ddim ’nôl.
“Yr elfen arall yw amaeth ac mae Llywodraeth Cymru, ers sawl blwyddyn bellach, wedi bod yn lladd ar y sector amaeth wrth gyflwyno deddfau sy’n ei gwneud hi’n amhosib i nifer barhau, wrth felly ymdrin â phroblemau fel diciâu ac mewn methu, mewn gwirionedd, â sicrhau bod yr amodau yn iawn i bobol ifanc ddod mewn i’r diwydiant.
“Cyndyn iawn yw Llywodraeth Cymru, wedi bod, i wneud unrhyw newidiadau.
“Mae rhaid i ni dderbyn bod amaeth yn un o gonglfeini cymunedau gwledig achos bod busnesau fferm yn cefnogi rhwydwaith eang o fusnesau cysylltiedig.
“Mae ymchwil yn dangos bod pob punt sy’n cael ei fuddsoddi mewn amaeth yn rhoi saith punt i’r economi leol.
“Mae Llywodraeth Cymru yn lladd ar amaeth ac yn ôl y ffordd maen nhw’n gweithredu, dydy o ddim yn sicrhau bod yr amodau yn ffafriol i ddod i’r diwydiant.
“Mae’n amlwg eu bod nhw’n dibrisio amaeth a chymunedau gwledig.”
Buddsoddiadau yn yr ardaloedd poblog
Mae Hefin Jones yn credu bod Llywodraeth Cymru yn esgeuluso buddsoddi mewn ardaloedd gwledig oherwydd eu bod nhw’n buddsoddi mewn ardaloedd poblog i ddenu’r pleidleisiau gan y boblogaeth.
Teimla fod yr ardaloedd gwledig yn cael eu dibrisio gan eu bod nhw’n gwneud cyfraniad mewn sawl ffordd.
“Yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru, os edrychi di ar y llefydd mwyaf poblog, y dinasoedd yw’r ardaloedd hynny,” meddai wedyn.
“Bydden i’n tybio bod pleidleisiau’r Llywodraeth yn dod o’r ardaloedd hynny, ac er mwyn cadw trwch pleidleiswyr yn hapus mae’r buddsoddiad yn cael ei dargedu at fannau poblog.
“Mae Caerdydd yn brifddinas ac yn amlwg yn denu buddsoddiad.
“Mae ardaloedd poblog gyda ti yn yr ardaloedd diwydiannol, yn y Cymoedd ac yn y blaen.
“Gan fod trwch y boblogaeth yno, roedd y mannau hynny yn denu buddsoddiad.
“Ar sail hynny, dagrau pethau yw bod cymunedau gwledig wedi cael eu camddeall o ran eu gwerth, o ran y cyfraniad maen nhw’n ei wneud, a’u dibrisio yn yr ystyr yma felly.”
Cefn gwlad a’r iaith Gymraeg
Elfen arall i’r ddadl, meddai Hefin Jones, yw fod ardaloedd gwledig ymhlith cadarnleoedd yr iaith Gymraeg.
Mae’n dweud bod yr iaith Gymraeg yn aml yn iaith gyntaf yn yr ardaloedd hynny, yn aml oherwydd cymunedau a mudiadau gweithgar.
Trwy danseilio cymunedau gwledig, mae Hefin Jones yn credu bod Llywodraeth Cymru yn tanseilio’u targed eu hunain o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Yn draddodiadol, mae cefn gwlad wedi bod yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg,” meddai.
“Pan mae gennym ni ysgolion cymunedau gwledig, teuluoedd cymunedau gwledig, yn cefnogi trefi bach gwledig, yn aml iawn y Gymraeg yw’r iaith gyntaf.
“Galla i fyw fy mywyd o ddydd i ddydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae cymunedau gwledig yn draddodiadol yn Gymraeg eu hiaith oherwydd y bobol sydd yn byw yno, oherwydd yr adnoddau oedd yno, pethau fel Clybiau Ffermwyr Ifanc ac Aelwydydd yr Urdd, felly mae’r iaith wedi bod yn cael ei chadw yn fyw.
“O ddibrisio cymunedau gwledig, o fethu â buddsoddi mewn cymunedau gwledig, wrth sugno’r bywyd allan o gymunedau gwledig, mae Llywodraeth Cymru – pan maen nhw’n siarad am filiwn o siaradwyr – yn tanseilio ymgyrchoedd a’u targed eu hunain.”