Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar sicrhau bod gweithwyr yn gallu bwydo’u teuluoedd yn hytrach nag ymosod ar eu hawliau, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Daw sylwadau Shavanah Taj wrth ymateb i ymdrechion Llywodraeth San Steffan i gyflwyno bil fyddai’n cyfyngu ar hawliau gweithwyr i streicio.

Dan ddarn newydd o ddeddfwriaeth, gafodd ei gyflwyno yn San Steffan ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 10), gallai gweithwyr yn y sector gyhoeddus gael eu gorfodi i weithio yn ystod streiciau i gynnal lefelau staff.

Mae’r bil yn golygu y gallai gweithwyr gael eu diswyddo os nad ydyn nhw’n cydymffurfio, fel yr eglura Shavanah Taj.

“Mae’r hawl i streicio wastad wedi bod yn hawl dynol, yn hawl Prydeinig,” meddai wrth golwg360.

“Yr hyn rydyn ni’n ei weld ar y funud gyda bil y Ceidwadwyr, mae hynny’n golygu’n benodol y gall gweithwyr gael eu diswyddo am ddefnyddio eu hawl i streicio ar ôl pleidlais ddemocrataidd a chyfreithlon.

“Gallai gael ei ymestyn yn rhy hawdd i unrhyw weithiwr mewn unrhyw swydd unwaith y daw’n gyfraith.

“Mae cyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun yn dweud y gall y mesurau hyn olygu bod dadleuon yn para am gyfnod hirach.

“Ynghyd â hynny, mae ganddo’r potensial i wenwyno a chreu problemau gwirioneddol mewn perthnasau diwydiannol fel hyn. Gall hynny fod yn ddrwg iawn, nid yn unig i staff, ond i’r cyhoedd sy’n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus hefyd.

“Maen nhw’n clapio gweithwyr un diwrnod, a nawr maen nhw’n edrych i’w diswyddo nhw yn y pendraw.”

‘Gwthio i’r pen’

Mae TUC wedi dechrau her gyfreithiol yn erbyn y ddeddfwriaeth, a byddan nhw’n cynnal diwrnod cyffredinol o streicio ar Chwefror 1 i wrthwynebu.

“Dydy hi ddim syndod bod morâl mor isel ar y funud, mae yna gymaint o weithwyr allweddol yn ystyried gadael eu swyddi,” meddai wedyn.

“Maen nhw wedi cael eu gwthio i’r pen ar ôl blynyddoedd o doriadau i gyflog a chyllid i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’r gweithwyr hyn yn caru eu gwaith ac maen nhw eisiau rhoi gofal anhygoel i gleifion, ond pan fo gennych chi lywodraeth fel hyn sydd eisiau ymosod ar weithwyr cyffredin gweithgar…

“Mae gweithwyr yn streicio gan eu bod nhw’n poeni am wasanaethau cyhoeddus.

“Y streiciau rydyn ni wedi’u gweld heddiw, y gweithwyr ambiwlans a’r athrawon yn yr Alban, gellid osgoi’r holl bethau hyn pe bai’r llywodraeth yn barod i eistedd gyda’r undebau a dod i gytundeb.”

‘Symptom nid achos’

Symptom o broblem yw streiciau, nid yr hyn sy’n eu hachosi, meddai Shavanah Taj.

“Rydyn ni’n gwybod fod tâl gwirioneddol yn gostwng yn sydyn gyda chwyddiant mewn digidau dwbwl, 10% ac yn cynyddu.

“Mae nifer o weithwyr wedi colli miloedd ar filoedd o werth eu cyflogau blynyddol, yn enwedig yn y sector cyhoeddus lle mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi rhewi cyflog flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y degawd diwethaf.

“Rydyn ni’n gwybod fod parafeddygon yn gwneud £6,000 yn llai y flwyddyn mewn termau real nag yr oedden nhw yn 2010.

“Mae bron i draean o athrawon wnaeth gymhwyso yn y degawd diwethaf wedi gadael y maes.

“Mae gennym ni gannoedd ar filoedd o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Rydyn ni wedi cael 12 mlynedd o doriadau cyflog dan Lywodraeth Dorïaidd, ac maen nhw wedi methu â chodi cyflogau ar draws yr economi.

“Pe bai cyflogau real wedi cadw i fyny â’r cyfartaledd mewn gwledydd eraill sy’n rhan o’r OECD (Organisation for Economic Co-operation and Development), byddai’r gweithiwr cyffredin yn ennill o leiaf £4,000 yn fwy y flwyddyn.”

“Ffordd wahanol” yng Nghymru

Bydd undebau iechyd yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru fory (dydd Iau, Ionawr 12) er mwyn trafod cytundeb posib, ac mae Shavanah Taj yn dweud bod y berthynas rhwng undebau a’r llywodraeth yn iachach yng Nghymru nag ar lefel y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig taliad untro i weithwyr iechyd er mwyn ceisio dod â’r streiciau i ben, ond dydy hynny ddim am gyffwrdd â materion eraill fel yr argyfwng staffio, yn ôl Shavanah Taj.

“Mae pobol yn gadael y gweithlu oherwydd cyflog wedi dod yn broblem wirioneddol,” meddai.

“Oherwydd nad oes yna ddigon o staff i wneud y gwaith, mae’r bobol hynny sydd yno o dan bwysau eithriadol.

“Mae pobol ofn ac yn poeni am bethau’n mynd o’i le dan eu gofal nhw. Mae yna lot o bryder, lot o bwysau, mae iechyd a llesiant meddwl pobol wedi torri’n llwyr.

“Mae meddygon ac arbenigwyr wedi dweud ein bod ni wedi rhoi plaster dros hyn am gyfnod mor hir nawr, ac roedd hi’n anochel bod pethau’n mynd i ddal i fyny â ni.

“Yn Nghymru, mae gennym ni ffordd wahanol o wneud pethau. Does gennym ni ddim llywodraeth sy’n wrth-berthnasau diwydiannol ac yn wrth-undebaeth.

“Yng Nghymru, mae’r llywodraeth yn dweud bod pob un gweithiwr yn y sector cyhoeddus yn werthfawr, a’u bod nhw i gyd yn haeddu codiad cyflog teg, a’u bod nhw eisiau gwneud hynny ond, oherwydd y ffordd maen nhw’n cael eu hariannu ac oherwydd y cyfyngiadau sydd arnom ni, dim ond hyn a hyn fedrwn ni wneud.

“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig lawer i’w ateb, mae’r rhain yn benderfyniadau gwleidyddol, roedd cyni’n benderfyniad gwleidyddol ac rydyn ni’n gweld effaith hynny nawr.

“Yn hytrach nag ymosod ar hawliau gweithwyr i alw am well amodau, dylai gweinidogion wneud y gwaith maen nhw wedi cael eu hethol i’w wneud a chreu cynllun sylweddol i helpu teuluoedd i ddod drwy’r cyfnod hwn, a chynyddu cyflogau pobol.

“Dw i wastad yn dweud nad oes yna neb yn cymryd y penderfyniad i streicio yn ysgafn, dyna’r amddiffyniad diwethaf yn erbyn rheolwyr sy’n gwrthod negydu pan fydd amodau byw gweithwyr yn y fantol.

“Felly’n hytrach na throi cefn ar drafodaethau a bwrw ymlaen â’r darn hurt hwn o ddeddfwriaeth, fydd yn gwneud pethau’n waeth i nifer o weithwyr dros yr economi, mae angen canolbwyntio ar godi cyflogau dros yr economi gan ddechrau gyda chytundeb ar gyfer y rheilffyrdd a chodiad cyflog teg i’n gweithwyr yn y sector gyhoeddus.”