Mae’n “bwysig cadw at yr amserlen” ar gyfer ailagor Pont Menai, yn ôl Rhun ap Iorwerth.

Mae disgwyl i’r bont ailagor ymhen pedair wythnos, yn ôl Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Cafodd y bont ei chau’n annisgwyl fis Hydref y llynedd, o ganlyniad i broblemau strwythurol oedd yn peri perygl i’r cyhoedd.

Tra bod y gwaith ar y gweill, bydd cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru i leihau’r effaith ar fusnesau lleol, a bydd parcio am ddim ym Mhorthaethwy drwy gydol y mis.

Mae camau ar y gweill hefyd i helpu teithwyr sy’n dioddef yn sgil colli gwasanaethau bws o ganlyniad i’r gwaith.

Yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 11), holodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn, “A wnaiff y gweinidog roi diweddariad ar y gwaith i ailagor Pont y Borth?”

Atebodd Lee Waters drwy ddweud, “Cychwynnodd y rhaglen o waith brys ar gyfer ailagor Pont Menai ar Ionawr 5.

“Mae disgwyl i’r rhaglen gael ei chwblhau o fewn pedair wythnos, yn amodol ar y tywydd.

“Bydd y terfyn pwysau o saith tunnell a hanner yn parhau mewn grym pan fydd y bont yn ailagor.”

‘Cadw at yr amserlen’

“Mae’n bwysig i gadw at yr amserlen yna,” meddai Rhun ap Iorwerth drachefn.

“Mi allwn ni i gyd gytuno, gobeithio, fod profiad y misoedd diwethaf wedi profi mor fregus ydy’r isadeiledd o ran croesiadau’r Fenai.

“Mae cau Pont y Borth a’r tagfeydd wedyn ar y Britannia wedi creu anghyfleustra mawr, wedi effeithio ar fusnes yn drwm iawn, nid yn unig yn ardal y Fenai ond ar draws yr ynys.

“Ac mi wnaf i dynnu sylw’r Dirprwy Weinidog at y ffaith bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi yn y dyddiau diwethaf yn gofyn am ragor o help i fusnes, rhywbeth rydw i wedi ei alw amdano fo, a dwi’n hapus iawn i’w hategu eto.

“Ond, yn wyneb mor fregus ydy’r croesiad, mae’n amlwg bod rhaid adeiladu croesiad mwy gwydn.

“Yr ateb ydy deuoli croesiad Britannia neu godi trydedd pont.

“Fe gytunwyd i wneud hynny yn 2016, a dwi’n sylweddoli wrth gwrs bod eisiau gwneud yn siŵr o’r angen am ddatblygiadau ffyrdd newydd cyn bwrw ymlaen, ond mae’r angen yna wedi cael ei brofi rŵan.

“Gaf i ofyn i’r Gweinidog i wneud penderfyniad buan i fwrw ymlaen er mwyn sicrhau’r gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol?”

Y rhaglen waith i ailagor Pont Menai wedi dechrau

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau o fewn pedair wythnos, ond bydd yn ddibynnol ar dywydd braf