Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi beirniadu un o weinidogion San Steffan am “sarhau” ffermwyr drwy ddweud ei bod hi’n well i bobol fwyta cig oen o ben draw’r byd na chig oen o wledydd Prydain.

Mae’r Arglwydd Johnson wedi canmol cig oen Seland Newydd, gan ddweud bod ei fwyta’n well i’r amgylchedd na bwyta cig oen o’r Deyrnas Unedig.

Mae modd cynhyrchu cig oen sy’n cael ei allforio i Seland Newydd i safon is na chig oen o’r wlad hon, gan ddefnyddio dulliau sydd yn “annerbyniol”, meddai Jane Dodds.

Mae hi’n dweud bod sylwadau’r Arglwydd Johnson yn “sarhad i ffermwyr cig oen Cymreig ledled canolbarth a gorllewin Cymru”.

Mae’n dweud y byddai ei phlaid, pe baen nhw mewn grym, yn sicrhau bod safonau ffermio’n cael eu gwarchod fel rhan o gytundebau masnach, a bod difaterwch y Ceidwadwyr tuag at gymunedau ffermio’n arwain at ffermwyr yn troi cefn ar y blaid a throi eu sylw tuag at y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl pôl gan gylchgrawn Farmer’s Weekly, mae’r gefnogaeth ymhlith ffermwyr i’r Ceidwadwyr wedi gostwng gan 30% dros y ddwy flynedd ddiwethaf i 42%, tra bod twf o 9% yn y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol, o 14% i 23%.

‘Halen ar y briw’

Yn ôl Jane Dodds, mae’r sylwadau diweddaraf gan yr Arglwydd Johnson yn “halen ar y briw” ar ôl i’r Ceidwadwyr siomi ffermwyr gyda’u “cytundebau masnach Seland Newydd ac Awstralia anghyfartal iawn”.

“Mae’r gweinidog sydd i fod i gynrychioli pobol Prydain yn argymell cig oen Seland Newydd dros ein cig oen ni,” meddai.

“Mae sylwadau fel y rhain yn enghraifft arall o’r Ceidwadwyr yn methu deall na chefnogi ffermwyr.

“Maen nhw ond yn ceisio tanseilio ein ffermwyr ni drwy fethu nodi’r safonau lles is ar gyfer anifeiliaid dramor.

“Dydy hi ddim yn syndod o ystyried y difaterwch llwyr tuag at ein cymunedau ffermio gan y Ceidwadwyr fod mwy a mwy o ffermwyr yn troi cefn arnyn nhw er budd i’r Democratiaid Rhyddfrydol.”