Mae’r rhaglen waith er mwyn ailagor Pont Menai wedi dechrau heddiw (dydd Iau, Ionawr 5), a’r gobaith yw y bydd yn cael ei chwblhau o fewn pedair wythnos.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, fu’n cydweithio â UK Highways A55 a’r cwmnïau peirianyddol Spencer Group a COWI i ddatblygu’r rhaglen, bydd cwblhau’r gwaith o fewn y cyfnod hwnnw’n ddibynnol ar dywydd braf.

Cafodd y bont ei chau’n annisgwyl fis Hydref y llynedd, o ganlyniad i broblemau strwythurol oedd yn peri perygl i’r cyhoedd.

Bydd y gwaith yn dechrau ar ochr orllewinol y bont, ac yna’r ochr ddwyreiniol.

Tra bydd y gwaith ar y gweill, bydd cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru i leihau’r effaith ar fusnesau lleol, a bydd parcio am ddim ym Mhorthaethwy drwy gydol y mis.

Mae camau ar y gweill hefyd i helpu teithwyr sy’n dioddef yn sgil colli gwasanaethau bws o ganlyniad i’r gwaith.

‘Diolchgar’

“Dw i’n falch ein bod ni, ar y cyd â’n partneriaid, wedi gallu bwrw ymlaen yn gyflym gyda’r gwaith hynod bwysig a chymhleth hwn ar Bont Menai,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.

“Yn y cyfamser, mae’r pecyn cymorth i leddfu’r pwysau trafnidiaeth ar bobol sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i Ynys Mon yn parhau yn ei le a dw i’n ddiolchgar i drigolion yr ardal am eu hamynedd wrth i’r gwaith ar y bont barhau.”

Mae UK Highways A55 yn “cydnabod” fod cau Pont Menai “wedi tarfu ar y gymuned leol ac wedi gwneud amgylchiadau’n anodd”, meddai llefarydd.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd pawb wrth inni fynd ati i ddatblygu ateb brys er mwyn datrys y broblem ddigynsail hon.

“Rydyn ni am ddiolch i bawb am eu gwaith caled wrth ddod o hyd i’r ateb hwn mor gyflym, yn enwedig i drigolion Ynys Môn a’r Gogledd am eu cadernid.

“Daeth nifer o heriau peirianegol cymhleth i’n rhan wrth inni fynd ati i geisio dod o hyd i ateb i’r broblem unigryw hon.

“Fe wnaethom weithio’n hynod o agos gyda Highways UK, Llywodraeth Cymru, a thîm ehangach peirianwyr y prosiect er mwyn deall y problemau a’r cyfyngiadau’n llawn, ac er mwyn inni fedru datblygu ateb sy’n ddiogel ac yn gadarn i ddefnyddwyr y bont, ac i’r strwythur ei hun, gan wneud hynny cyn gynted â phosibl.”

‘Llawer rhy araf wrth ymateb’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r newyddion, ond yn dweud bod y gwaith yn llawer rhy araf yn dechrau.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar ei bod hi wedi cymryd chwe wythnos cyn i Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ymweld â’r safle.

“Tra fy mod i’n croesawu’r ffaith fod y gwaith ar Bont Menai wedi dechrau o’r diwedd, mae’n ffaith o hyd fod gweinidogion Llafur wedi gadael i’r bont fynd yn adfail a’u bod nhw wedi bod yn rhy araf o lawer wrth ymateb o’r dechrau,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.

“Mae’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi talu dros £300m hyd yn hyn ar gyfer rhan Ynys Môn o’r A55 – er ei fod wedi costio bron hanner hynny i’w adeiladu a’i gynnal a chadw.

“Bydd yr oedi sy’n cael ei achosi gan y cau hwn yn parhau i gael effaith enfawr ar bobol a busnesau ledled gogledd Cymru gydag anghyfleustra i fywydau beunyddiol a cholli refeniw.

“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd fod yn fwy rhagweithiol gydag isadeiledd Cymru, rhoi’r gorau i’w rhewi wrth adeiladu ffyrdd, sy’n warthus, a pheidio â gadael i’n ffyrdd a’n pontydd fynd i’r fath adfail.”