Un o’r prif ddeddfau fydd Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno eleni yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi.

Mae’n cael ei disgrifio fel “y newid mwyaf i gyfraith tai Cymru ers degawdau”.

Ond beth yn union yw Deddf Rhentu Cartrefi Llywodraeth Cymru?

Mae’r Ddeddf Rhentu Cartrefi wedi cyflwyno cyfres o newidiadau i ddeddfau rhentu yng Nghymru ers Rhagfyr 1, gyda newidiadau eraill i ddod i rym ar Fehefin 1.

Bwriad y ddeddf oedd gwella’r modd mae pobol yn rhentu a byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru, ac mae hefyd yn anelu i wneud gosod cartref yn broses haws i landlordiaid.

Mae’r newidiadau mwyaf mae’r ddeddf yn eu cyflwyno yn cynnwys newidiadau i gytundebau tenantiaeth, gofynion newydd ar gyfer cyflwr eiddo rhent, a rheolau newydd ynghylch sut mae landlordiaid a’u tenantiaid yn cyfathrebu.

Dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi bydd pobol sy’n rhentu eiddo yn cael eu galw’n “ddeiliaid cytundeb”.

Y syniad y tu ôl i hyn yw y dylai ei gwneud hi’n gliriach pwy all barhau i fyw mewn eiddo rhent os yw amgylchiadau’n newid – er enghraifft os yw tenant presennol yn marw.

Diwedd cytundebau tenantiaeth

  • Cafodd cytundebau tenantiaeth eu disodli gan ‘gytundebau meddiannaeth’ sy’n golygu, ers Rhagfyr 1, ei bod yn ofynnol i landlordiaid roi papur neu fersiwn electronig o’u cytundeb meddiannaeth i denantiaid newydd o fewn 14 diwrnod. Ar gyfer y tenantiaethau presennol mae gan landlordiaid chwe mis i roi’r cytundeb meddiannaeth i denantiaid.
  • O dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi, rhaid i gytundebau meddiannaeth gynnwys yr holl fanylion allweddol (megis enwau a chyfeiriadau tenantiaid a landlordiaid), prif delerau (megis rheolau’r landlord ynghylch meddiannu’r eiddo), a thelerau ychwanegol (megis cadw anifeiliaid anwes).

Newidiadau i gyfnodau rhybudd landlordiaid

  • O fis Mehefin, bydd angen i unrhyw landlordiaid sydd am gyhoeddi “hysbysiad di-fai” i’w deiliaid cytundeb – sy’n golygu eu bod am i ddeiliad y cytundeb adael ond nid oherwydd eu bod wedi torri amodau eu cytundeb meddiannaeth – roi rhybudd o chwe mis i ddeiliaid y cytundeb adael.
  • Os yw tenant wedi torri eu cytundeb meddiannaeth, bydd yn ofynnol i’r landlord roi rhybudd mis oni bai bod y weithred yn cael ei hystyried yn “ddifrifol”, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol neu beidio talu rhent, ac os felly gall y landlord roi cyfnod rhybudd byrrach.
  • Yn ogystal, fydd landlordiaid ddim yn gallu rhoi rhybudd i denantiaid adael tan chwe mis ar ôl i’w cytundeb ddechrau oni bai eu bod wedi torri eu cytundeb meddiannaeth.

Newidiadau i ofynion safon eiddo

Mae’r Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cyflwyno gofynion newydd ar gyfer pob cartref sy’n cael ei rentu gan landlord. Mae’n rhaid i landlordiaid:

  • gynnal profion diogelwch trydanol rheolaidd;
  • ffitio – a gweithio – larymau carbon monocsid a synwyryddion mwg;
  • sicrhau cyflenwadau dŵr, nwy, a thrydan saff;
  • gadw strwythur a thu allan yr eiddo mewn cyflwr da.