Mae YesCymru’n dweud mai “annibyniaeth yw’r unig ffordd o warchod hawliau gweithwyr yng Nghymru”.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau y gallai Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, gyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan ddydd Gwener (Ionawr 6) i wahardd streicio.

Byddai’r ddeddfwriaeth yn rhoi’r hawl i gyflogwyr ddwyn achos yn erbyn undebau ac i ddiswyddo gweithwyr pe baen nhw’n gwrthod derbyn amodau.

Mae lle i gredu y byddai’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chwe phrif faes, sef y Gwasanaeth Iechyd, ysgolion, rheilffyrdd, ffiniau, tân a niwclear.

Mae YesCymru’n dweud bod y mesurau’n “awdurdodaidd” ac y byddan nhw’n “poeni gweithwyr ledled Cymru”.

“Maen nhw eisoes wedi gweld eu pecynnau cyflog yn crebachu mewn termau real ers dros ddegawd,” meddai Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr y mudiad annibyniaeth.

“Byddai llywodraeth synhwyrol a thosturiol yn ceisio codi safonau byw gweithwyr yn ystod argyfwng costau byw difrifol, nid eu cosbi nhw am feiddio sefyll i fyny drostyn nhw eu hunain a mynnu cytundeb teg a rhesymol.

“Pe bai’n cael ei gyflwyno, bydd yr hawl i streicio’n darfod i bob pwrpas. Bydd yn bodoli mewn enw yn unig.

“Does dim ots gan San Steffan am bobol Cymru – mae’n parhau i ddod yn gliriach eto fyth mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o warchod hawliau gweithwyr yng Nghymru.”