Cafodd 109,000 o apwyntiadau deintyddol ychwanegol eu darparu eleni, yn ôl data diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Mae newidiadau’r llywodraeth i gytundebau deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n cael eu cynnig i ddeintyddfeydd ers mis Ebrill y llynedd, yn cynnwys gofyniad i ddeintyddfeydd y Gwasanaeth Iechyd weld cleifion newydd.

Mae’r llywodraeth yn disgwyl y bydd tua 112,000 o apwyntiadau i gleifion newydd yn bosibl yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Fodd bynnag, mae Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol Cymru, yn rhybuddio bod methu apwyntiadau yn effeithio ar y bobol sydd angen triniaeth ddeintyddol fwyaf, ac mae’n gofyn i gleifion osgoi methu apwyntiadau lle bo modd, neu roi gwybod i’w deintyddfa ymlaen llaw pan nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol.

Yn ôl Awdurdod Gwasanaethau Busnes y Gwasanaeth Iechyd, cafodd 9.4% o’r holl apwyntiadau oedd wedi’u trefnu gan y Gwasanaeth Iechyd y llynedd eu colli oherwydd nad oedd cleifion yn bresennol, sy’n cyfateb i 3.5 awr o amser clinigol bob wythnos ar gyfer pob deintyddfa.

£2m ychwanegol

“Rydym am i bawb yng Nghymru allu cael mynediad at ofal deintyddol y GIG, os ydyn nhw am gael hynny,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wrth ymateb.

“O eleni ymlaen, rydym yn darparu £2m ychwanegol y flwyddyn i helpu i wella mynediad at wasanaethau deintyddol ledled Cymru.

“Rwy’n falch ein bod eisoes wedi llwyddo i fynd heibio’r nod o 100,000 apwyntiad ychwanegol eleni, sy’n dangos bod ein diwygiadau, a wnaed mewn partneriaeth â’r diwydiant, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol clir i gleifion.”

Methu apwyntiadau yn ‘broblem go iawn’

“Rydym wedi gwneud cynnydd mawr ers ein diwygiadau i gontractau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Andrew Dickenson.

“Mae 78% o bractisau deintyddol bellach wedi cofrestru ar gyfer amrywiad y contract, sy’n dwyn ffrwyth o ran apwyntiadau newydd i gleifion.

“Ond mae methu apwyntiadau yn parhau i fod yn broblem go iawn, ac mae cyfanswm yr amser clinigol sy’n cael ei golli yn cyfateb i 20 deintydd llawn amser y flwyddyn.

“Mae’n ddealladwy bod pethau’n codi, sy’n golygu nad yw pobol yn gallu cadw apwyntiadau bob tro.

“Ond fy neges allweddol yw – “canslo, nid colli” apwyntiadau – cysylltwch â’ch deintyddfa cyn gynted ag y byddwch chi’n gwybod na allwch chi fynychu.

“Oherwydd hynny gall deintyddfeydd wneud amser i weld cleifion eraill, gan alluogi hyd yn oed mwy o bobol i gael mynediad cyflymach at driniaeth ddeintyddol.”