Mae grŵp cerdded cymunedol yn Arfon yn cynnig y cyfle i bobol sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl rannu eu profiadau â’i gilydd, ac yn tynnu sylw at fuddiannau mynd allan i gerdded yn yr awyr agored.

Yn ôl Janice Lamerick, sy’n trefnu teithiau cerdded yn y gymuned, dydy rhai o’r bobol mae hi’n eu cefnogi ddim yn mentro y tu hwnt i’r drws ffrynt ac mae llawer ohonyn nhw’n cael eu cyfeirio at y grŵp gan weithwyr cymdeithasol a nyrsys sydd wedi bod yn gofalu amdanyn nhw.

Diolch i’r grŵp cerdded, mae tîm iechyd meddwl cymunedol Arfon yn hwyluso cyfarfodydd wythnosol wrth i aelodau’r grŵp gyfarfod bob dydd Mercher rhwng 10yb a 4yp.

Maen nhw’n cerdded o leiaf ddeng milltir fel arfer, ond gall amrywio yn ôl anghenion y cerddwyr.

Maen nhw’n cael eu tywys gan Janice Lamerick, sy’n gymwys i ddringo mynyddoedd o gadw at lwybrau penodol.

Buddion

Yn ôl Janice Lamerick, mae cerdded yn fuddiol iawn ac yn ddihangfa i’r sawl sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl.

I’r sawl sydd methu gadael y tŷ, gall y llefydd maen nhw’n mynd i gerdded fod yn ddifyr, gan fod hen hanes i rai o’r llefydd hynny.

Nid yn unig mae cerdded yn dda i’r corff a’r meddwl, meddai, ond mae’r grŵp yn rywle i gymdeithasu hefyd.

“Mae cerdded yn gadael allan hormonau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda,” meddai Janice Lamerick wrth golwg360.

“Oherwydd ein bod yn grŵp reit fach, rydym yn siarad a dod yn ffrindiau.

“Mae pobol yn siarad am beth sy’n mynd ymlaen.

“Oherwydd fy mod yn weithiwr cefnogol, os oes rhywbeth yn eu poeni, gallan nhw ddweud wrthaf fi a gallaf ffeindio rhywun sy’n addas i helpu.

“Dydy rhai o’r bobol rwy’n eu cefnogi methu hyd yn oed mynd allan trwy’r drws ffrynt.

“Bydda i’n mynd yna a phigo nhw fyny o’u drws ffrynt, a mynd â nhw allan.

“Maen nhw wedyn yn cael y buddion o gerdded.

“Maen nhw’n cael gweld llefydd hardd, gan fod Cymru yn wych i fynd i gerdded.

“Maen nhw’n cael mynd i lefydd fysen nhw byth yn mynd.

“Beth fyddaf hefyd yn gwneud yw trio ffeindio hanes y llefydd rydym yn cerdded, rhywbeth sydd efo hanes, fel yr hen Fabinogi neu rywbeth efo llechi neu beth bynnag.

“Bydda i’n trio ffeindio pethau diddorol am y llefydd rydym yn mynd i gerdded i ni gael siarad am y peth.

“Maen nhw’n cael llwyth o fudd allan o’r cerdded.

“Mae’n gorfforol ac yn feddyliol.

“Yn lle bo nhw’n poeni am beth sy’n mynd ymlaen efo’u hiechyd meddwl, maen nhw’n dod allan efo ni a mwya’ sydyn dydyn nhw ddim yn meddwl am hynna.

“Am yr ychydig oriau yna maen nhw allan, maen nhw’n anghofio am eu hiechyd meddwl.

“Mae’n braf gweld nhw’n altro a mwynhau bod allan.”

Cydweithio

I wneud i’r teithiau cerdded weithio, mae cydweithio rhwng gwahanol staff yn hanfodol.

Yn y dechrau, roedd y grŵp mewn partneriaeth â’r Bartneriaeth Awyr Agored, oedd wedi rhoi benthyg bws mini i’r grŵp gael mynd â hyd at saith person am dro.

“Gwaith tîm sydd gennym,” meddai Janice Lamerick wedyn.

“Mae gweithwyr cymdeithasol, y nyrsys ac fy mos yn ofnadwy o gefnogol.

“Rwy’n dweud, ‘Dw i eisiau mynd i fan hyn’ ac maen nhw’n dweud, ‘Gwna fo’.

“Mae yna lawer o gefnogaeth gan y gwaith.”

Dydy’r bws ddim ar gael bellach, ac mae’r grŵp yn chwilio am gyllideb er mwyn parhau i gwrdd i gerdded.

Ond sut ddechreuodd y bartneriaeth?

“Cysylltodd y Bartneriaeth Awyr Agored efo un o’r gweithwyr cymdeithasol yma,” meddai.

“Roedden nhw eisiau ein hyfforddi i ni gael dechrau mynd â phobol allan sy’n dioddef efo’u hiechyd meddwl.

“Roedd y grŵp yn cwrdd cyn y bartneriaeth efo’r Bartneriaeth Awyr Agored, ond rŵan rwy’ wedi cael cymhwyster ynddo.

“Mae’n gyfyngedig rŵan fod y bws ddim gennym, ond rydym dal yn cwrdd i fynd am dro.”