Bydd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn rhoi’r gorau i’w rôl ym mis Ebrill, wedi cyfnod o 12 mlynedd yn arwain y corff.
Cafodd David Anderson ei eni yng ngogledd Iwerddon, ei fagu yn Lloegr, ac astudiodd Hanes Iwerddon ym Mhrifysgol Caeredin.
Wedi dechrau ei yrfa’n athro hanes mewn ysgol wladol, symudodd i weithio fel addysgwr mewn amgueddfeydd yn Lloegr, cyn ymuno ag Amgueddfa Cymru’n Gyfarwyddwr Cyffredinol yn 2010.
Bu’n goruchwylio ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a enillodd wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019, yn ogystal â datblygu rhaglenni a gwaith ymchwil newydd ar rôl gymunedol amgueddfeydd yn y gymdeithas.
Ei weledigaeth hefyd yw sail Strategaeth 2030 newydd yr Amgueddfa gafodd ei chyhoeddi y llynedd yn amlinellu sut y bydd y corff yn ymgysylltu â chymunedau a’u cefnogi i greu “Cymru well”.
Ailsefydlodd raglen arddangosfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac ymhlith yr uchafbwyntiau roedd arddangosfa KIZUNA yn 2018 gyda chasgliadau o Amgueddfeydd Cenedlaethol Japan yn serennu, ac arddangosfa Bywyd Richard Burton yn 2021.
Fe hefyd greodd yr Adran Ymchwil, a datblygu partneriaethau rhyngwladol â sefydliadau sy’n rhannu gwerthoedd democrataidd Amgueddfa Cymru yng Ngogledd a De America, y gwledydd Celtaidd a chenhedloedd eraill yn Ewrop.
O fis Ebrill, bydd yn Gymrawd Emeritws yn Amgueddfa Cymru, ac yn Athro Gwadd yng Nghanolfan Lywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
‘Diolch’
“Fy neuddeg mlynedd yn Gyfarwyddwyr Cyffredinol yn Amgueddfa Cymru fu’r mwyaf gwerth chweil o fy ngyrfa broffesiynol,” meddai.
“Rwyf wedi bod yn hynod ffodus i weithio gyda chynifer o staff creadigol, ymroddedig ac ysbrydoledig yn yr Amgueddfa, y mae eu hymroddiad i’r sefydliad yn amlwg i bawb sy’n ymweld â’n hamgueddfeydd.
“Mawr yw fy niolch hefyd i’r Ymddiriedolwyr hynny sydd wedi rhoi o’u hamser a’u harbenigedd yn anhunanol a heb ystyriaeth i’w budd personol i’n Bwrdd, er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn parhau yn sefydliad cenedlaethol cadarn ac annibynnol.
“Ein Strategaeth 2030 newydd, sy’n seiliedig ar waith ymgynghori â bron i 1,000 o bobl ar draws Cymru, ac a lywiwyd gan ein gwaith yn y pandemig, yw ein datganiad o ymroddiad i’r genedl.
“Yn hynny o beth, rydym yn ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynrychioli holl gymunedau Cymru, trwy ein staff, arddangosfeydd ac orielau; i gynnig cyfleoedd i bawb ddysgu a bod yn greadigol; ac i ofalu am fyd natur ac amgylchedd Cymru.
“Ar draws Cymru, bydd ein hamgueddfeydd yn llefydd fydd yn cynnig croeso, noddfa a lles i bawb.
“Byddwn yn defnyddio ein technolegau digidol i ddatblygu ein gwasanaethau mewn partneriaeth â’r rheini sydd ddim yn gallu ymweld â ni wyneb yn wyneb.
“Byddwn yn adeiladu ar ein rhwydweithiau rhyngwladol i gysylltu Cymru â’r byd.
“Edrychaf ymlaen yn fawr at gefnogi’r Amgueddfa, sefydliad cenedlaethol tra hoff a drysorir, i wireddu’r uchelgeisiau hyn dros y blynyddoedd nesaf.”
‘Creu sylfeini cadarn’
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i David Anderson am ei gyfraniad sylweddol i Amgueddfa Cymru yn ystod ei ddeuddeg mlynedd yn yr Amgueddfa,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
“Mae wedi goruchwylio gweddnewid Sain Ffagan yn amgueddfa hanes cenedlaethol i Gymru yn ogystal â datblygu rhaglenni a gwaith ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar ehangu rôl amgueddfeydd mewn cymdeithas.
“Mae hefyd wedi cyfrannu at roi cyfeiriad strategol clir i Amgueddfa Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesaf, gyda strategaeth 2030 a’i chwe addewid yn creu sylfeini cadarn i’r Amgueddfa wasanaethu cymunedau Cymru a datblygu ei rôl ar y llwyfan rhyngwladol.
“Ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, dyma ddiolch yn fawr i David am ei wasanaeth ymroddedig. Mae Amgueddfa Cymru heddiw yn sefydliad tra gwahanol i’r un yr ymunodd David ag ef ddeuddeg mlynedd yn ôl.
“Dan ei arweiniad, daeth yr amgueddfa yn ddarparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru a bydd ei angerdd amlwg dros ddemocratiaeth ddiwylliannol yn sylfaen gadarn i Gymru am nifer o flynyddoedd i ddod.
“Bellach, ystyrir Amgueddfa Cymru yn arweinydd meddwl yn y maes hwn, diolch i berthynas wych David ag arweinwyr rhyngwladol yn y maes.
“Edrychwn ymlaen at weld gwaddol David yn datblygu ymhellach gan barhau i ysbrydoli a bod o fudd i bobol Cymru.”