Mae Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) wedi rhoi croeso gofalus i adroddiadau na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwrw ymlaen â chynlluniau i breifateiddio Channel 4.
Daw hyn ar ôl i Michelle Donelan, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, gynghori yn erbyn gwerthu Channel 4.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog sydd wedi’i gyhoeddi gan y podlediad News Agents, dywed Michelle Donelan fod “gwell ffyrdd o sicrhau cynaliadwyedd Channel 4” na phreifateiddio.
Mae’n beirniadu ei rhagflaenydd, Nadine Dorries, oedd yn bwriadu gwerthu’r sianel.
Roedd cynllun Nadine Dorries i werthu’r darlledwr am oddeutu £1.5bn wedi wynebu gwrthwynebiad gan weithredwyr Channel 4 ac aelodau eraill o’r diwydiant teledu.
Dywed Michelle Donelan nad “dilyn trywydd gwerthiant ar hyn o bryd yw’r penderfyniad cywir”.
Fodd bynnag, dydy’r Ysgrifennydd Diwylliant ddim wedi cadarnhau’r tro pedol.
“Nid ydym yn gwneud sylwadau ar ddyfalu,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
“Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi bod yn glir ein bod yn edrych eto ar y cwestiwn o werthu Channel 4.
“Byddwn yn cyhoeddi mwy am ein cynlluniau maes o law.”
Croeso gofalus
“Er nad yw’r newyddion yma wedi’i gadarnhau yn swyddogol eto, byddai TAC yn croesawu pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu peidio preifateiddio Channel 4 gan ein bod wedi ymgyrchu’n galed yn erbyn y cam hwn,” meddai Dyfrig Davies, cadeirydd TAC, wrth ymateb.
“Byddem hefyd yn croesawu ymrwymiadau Channel 4 i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau a hefyd y cynnydd i’w wariant ar hyfforddiant.
“Fodd bynnag, pe bai, fel yr adroddwyd, model cyhoeddwyr-darlledwr Channel 4 yn cael ei lacio, byddai hyn yn peri pryder i’r sector gynhyrchu annibynnol, gan y byddai’n lleihau’r cyfle iddo wneud rhaglenni i’r darlledwr.
“Gallai hyn greu ansicrwydd economaidd i rai cwmnïau yn y sector, yn enwedig cwmnïau llai.
“Byddwn yn ceisio trafodaethau gyda Channel 4 a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn yn y gobaith y gellir ystyried hyn ymhellach cyn iddo fynd i ddeddfwriaeth.”
“Gwerth sylweddol”
Yn y cyfamser, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden: “Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth sylweddol model gwasanaeth cyhoeddus unigryw Channel 4 a chylch gwaith fel cyhoeddwr a darlledwr.
“Dyna pam wnes i’n safbwynt yn glir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig – y dylai Channel 4 barhau i fod mewn perchnogaeth gyhoeddus.
“Rwyf felly’n croesawu’n fawr dro pedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae angen i ni nawr weld camau pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod gan y Deyrnas Unedig system ddarlledu sy’n gwasanaethu pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn iawn.”