Heb Dyfrig Thomas, mae’n bosib na fyddai Canolfan Gymraeg Tŷ Tawe wedi llwyddo.
Cafodd adeilad Tŷ Tawe ei brynu ym mis Tachwedd, 1986, gyda sefydlu siop Gymraeg yn un nod.
Erbyn mis Mawrth 1987, daeth Dyfrig, a oedd yn berchennog Siop y Werin, Llanelli, i’r adwy, ac ar 16 Mai 1987 daeth torf o 200 i agoriad y siop.
Meddai Dyfrig ar y pryd, “Chwyna i ddim os bydd pob dydd Sadwrn fel hyn.”
Roedd incwm o rent o siop yn allweddol i lwyddiant Tŷ Tawe yn y dyddiau cynnar, a daliodd Dyfrig ati am ugain mlynedd, tan i Non Vaughan Williams a’i chwaer Siwan Rees gymryd ati ym mis Tachwedd 2006.
Mae’n amlwg mai o gariad at y Gymraeg y gweithredodd Dyfrig, gan nad oedd elw bras i’w wneud o redeg y siop.
Byddwn yn cofio Dyfrig am ei gymorth parod i bawb a ddôi i’r siop, ei ymrwymiad i’r iaith, ei gymwynas a’i sgwrs, a’i wybodaeth am bopeth Cymraeg yn helaeth.
Rhoddodd bresenoldeb dyddiol i’r Gymraeg yng nghanol Abertawe.
Byddwn yn cofio hefyd gyda gwên y blychau llawn ar lawr y siop, a Dyfrig a’i gyfrifiadur yn amlwg yn meddu ar fwy o system nag y byddai’r siopwr yn ei thybio.
Roedd Dyfrig yn gymwynaswr mawr i’r Gymraeg, yn weithredwr dyfal a hael, a’i bwyslais bob amser ar yr ymarferol.
Roedd yn un a roddodd fywyd newydd i’r iaith mewn ardaloedd heriol.
Hynod drist yw meddwl na welwn mohono eto.