Mae Dyfrig Thomas, cyn-Faer Llanelli a’r dyn agorodd siop Gymraeg gynta’r dref, wedi marw’n 81 oed.

Bu farw’r cyn-gynghorydd sir a thref ar Ddydd Calan (Ionawr 1).

Agorodd siop lyfrau Cymraeg gyntaf Llanelli, ‘Siop y Werin’, ar Stryd y Farchnad a threuliodd flynyddoedd hefyd yn rhedeg Siop Tŷ Tawe yn Abertawe.

Roedd yn gyn-lywodraethwr ysgolion Coedcae a Lakefield, ac yn aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Parch mawr iddo”

“Fe wasanaethodd Dyfrig ei gymunedau yn rhagorol,” meddai Cyngor Tref Llanelli wrth dalu teyrnged iddo.

“Roedd parch mawr iddo gan ei gyfeillion a staff y Cyngor ac roedd bob amser ar gael i Gynghorwyr profiadol a rhai oedd newydd eu hethol ar gyfer darparu cyngor, arweiniad a chyfeillgarwch ar draws y siambr.

“Roedd gan Dyfrig Radd Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth ac am amser maith roedd yn ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder cymdeithasol a thros Gymru.

“O ganlyniad i’w ymrwymiad a’i angerdd dros yr iaith Gymraeg ei diwylliant a’i threftadaeth agorodd siop lyfrau Cymraeg cyntaf Llanelli.”

‘Cymro twymgalon a chroesawgar’

“Newydd trist iawn gen i ein bod wedi colli Dyfrig Thomas, y Cymro twymgalon a chroesawgar o Lanelli,” meddai Ffred Ffransis.

“Mae meddwl am Dyfrig yn f’atgoffa o oes a fu. Oes pan oedd canol trefi’n llawn o fwrlwm bywyd, a Dyfrig yn arloesi wrth agor Siop y Werin, ac mor falch iddo fedru agor ffynnon o Gymreictod yn y dre’ oedd mor agos i’w galon.

“Bob amser yn cael croeso cynnes wrth ymweld â nwyddau Cadwyn.

“A dw i’n cofio’n bellach na hynny.

“Tu allan i dref y Rhyl, Dyfrig oedd y person cyntaf a’m croesawodd gyda’r un wên i gyfarfod cenedlaethol Plaid Cymru.

“Ysgol Haf Ieuenctid y Blaid yn Nolgellau yn haf 1967 – chydig cyn Steddfod y Bala.

“Cofio enwebu Dafydd El fel cadeirydd ieuenctid y Blaid yno a’i gychwyn ar ei aelodaeth o Bwyllgor Canol Plaid Cymru.

“Tybed faint o bobol gyrhaeddodd gyfarfodydd yn nerfus ond cael eu croesawu gan Dyfrig?

“Diolch Dyfrig am dy groeso bob tro, a diolch am dy fywyd.”

Siop y Werin – “canolbwynt bywyd Cymraeg Llanelli am flynyddoedd lawer”

Yn ôl Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Siop y Werin oedd “canolbwynt bywyd Cymraeg Llanelli am flynyddoedd lawer”.

“Dyfrig oedd un o bileri Cymreictod y dref gan fod hyrwyddo’r iaith a buddiannau Cymru mor agos iawn at ei galon,” meddai.

“Bu’n un o brif sylfaenwyr y Fenter Iaith yn y dref nôl ar ddechrau’r 90au, yn ymgyrchydd di-baid dros addysg Gymraeg ac yn un o hoelion wyth Plaid Cymru yn yr ardal.

“Bu’n Gynghorydd Tref a Sir ar ran y Blaid am flynyddoedd ac enillodd barch gan bob plaid wleidyddol am ei bersonoliaeth hynaws a’i degwch tuag at bobol.

“Bydd coffa da amdano a gwerthfawrogiad mawr o’i ymdrechion di-flino i hyrwyddo achos Cymru a’r iaith Gymraeg yn nhre’r Sosban dros gyfnod hir o amser.”