Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Cymru, wedi cyhoeddi bod cronfa o £5m i gael ei sefydlu i gefnogi colegau addysg bellach.

Bydd y gronfa’n buddsoddi mewn prosiectau i gefnogi dysgwyr mewn meysydd megis datblygu sgiliau, lles, gwytnwch a’r gallu i addasu, gan helpu colegau addysg bellach i gydweithio ar yr un pryd.

Yn ôl Jeremy Miles, bydd yn galluogi myfyrwyr i “ystyried ffyrdd newydd creadigol o weithio”.

Mae hefyd wedi dyrannu cyllid pellach i golegau addysg bellach i helpu gyda chostau cynyddol.

Caiff dros £2.5m ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr sy’n dilyn rhaglenni galwedigaethol drwy helpu colegau i dalu costau uwch deunyddiau traul fel coed a dur, sy’n hanfodol i gyrsiau galwedigaethol megis adeiladu.

Bydd y Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n cefnogi dysgwyr sy’n wynebu caledi ariannol, hefyd yn cael hwb o £1.345m.

‘Edrych ar ffyrdd newydd o weithio’

“Mae’r argyfwng costau byw yn her sylweddol i golegau, felly mae angen inni edrych ar ffyrdd newydd o weithio,” meddai Jeremy Miles.

“Bydd y Gronfa Arloesi yn caniatáu i ddarparwyr addysg bellach ystyried ffyrdd newydd creadigol o weithio a chydweithio ag eraill yn y sector er budd dysgwyr.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld cysyniadau newydd, a dw i’n gwybod y bydd darparwyr yn ymateb i’r her.

“Ddylai costau byw fyth rwystro pobl rhag cael addysg felly mae’n bleser gen i gynnyddu’r cyllid i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, a fydd yn gallu helpu mwy o ddysgwyr.

“Mae hyn yn gallu helpu gyda chostau fel prydau bwyd, gofal plant a theithio i sicrhau bod dysgwyr gyda incwm isel yn gallu parhau i ddysgu.”