Fe wnaeth byrddau iechyd Cymru wario dros £260m ar staff locwm y llynedd er mwyn llenwi bylchau yn y gweithlu.
Roedd gwariant Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar asiantaethau 36% yn uwch yn 2022 na’r flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd o £191.5m.
Mae’r costau, sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar ôl i’r Aelod Seneddol Ceidwadol Samuel Kurtz ofyn i’w gweld, yn dangos mai’r broblem fwyaf yw prinder staff i asesu, trin a gofalu am gleifion dros y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn y bum mlynedd ddiwethaf, mae gwariant ar asiantaethau bron â dyblu, gan gynyddu gan 98% ers 2017/18.
‘Dod o hyd i faint y broblem’
Heb ddiwygio gofal cymdeithasol a chreu dull newydd o gynllunio’r gweithlu, bydd y system yn parhau i ddymchwel yn araf, yn ôl is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.
“Y prinder staff yw’r her fwyaf sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd,” meddai Dr Olwen Williams.
“Ni all buddsoddiad o unrhyw swm i mewn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud iawn am y ffaith nad oes gennym ddigon o feddygon, o nyrsys, nac o weithwyr gofal cymdeithasol i ymdopi â’r galw gan gleifion.
“Er y gall gweithwyr asiantaeth helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gynnal lefelau staffio mewn argyfwng, gall dod yn orddibynnol ar feddygon locwm gael effaith negyddol ar barhad gofal, diogelwch cleifion a morâl tîm.
“Yn y pen draw, mae angen inni wybod faint o staff sydd eu hangen i gadw i fyny â galw cleifion, ond ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod maint y broblem.”
‘Gwell cydbwysedd’
Mae’r Coleg Brenhinol yn disgwyl cynllun gweithlu manwl, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd y cynllun yn fan cychwyn y broses, meddai Dr Olwen Williams, gan ychwanegu bod gwybod lle maen nhw arni a sut i gyrraedd y nod o ran niferoedd staff yn “gam cyntaf hanfodol”.
“Mae llawer o feddygon yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru eisiau gweithio’n fwy hyblyg, gyda mwy o reolaeth dros eu horiau eu hunain a thros eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, yn ogystal â chaniatáu iddyn nhw i ddewis lle maen nhw’n byw ac i ddewis beth maen nhw’n ei wneud yn y gwaith,” meddai.
“A pham lai? Mae cyfraddau gorweithio a chyfraddau blinder yn uwch nag erioed ymhlith staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Gallai rhoi mwy o ymreolaeth i bobol ynghylch ble, sut a phryd y maen nhw’n gweithio atal pobol rhag gadael y sector iechyd a gofal yn llwyr.”
Dylai cefnogi meddygon SAS, sef meddygon sydd wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant meddygol ôl-radd ond sydd heb ddilyn rhaglen hyfforddi benodol, fod yn rhan bwysig o hynny, meddai.