Mae Mabon ap Gwynfor wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o oruchwylio dirywiad graddol yn narpariaeth gwasanaethau iechyd lleol.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd wrth iddo alw ar Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, i wrthdroi’r “tanfuddsoddiad cronig” mewn gwasanaethau gofal iechyd cymunedol mewn ardaloedd gwledig.

Wrth siarad yn ystod dadl ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor fod modd olrhain y cynnydd mewn heintiau mewn ysbytai yn ôl i doriadau parhaus i welyau ysbytai a chael gwared ar ysbytai cymunedol fel ffordd o leddfu’r pwysau ar ysbytai cyffredinol.

“Pwysau aruthrol” yn “waeth rŵan”

“Nodaf fod y Gweinidog, mewn cyfweliad â Radio Cymru, wedi dweud bod y gwasanaeth iechyd dan bwysau aruthrol oherwydd Covid, y ffliw a heintiau eraill,” meddai.

“Mae hyn yn wir wrth gwrs, ond mae’n wir bob blwyddyn.

“Ond mae’n waeth rŵan gan fod ein hysbytai yn orawn.

“Rydym yn clywed y Gweinidog iechyd, ac eraill yn dweud gyda pheth cyfiawnhad bod gwelyau ysbytai yn llawn oherwydd diffyg gofal yn y gymuned – sydd ei hun yn fai ar y llywodraeth Lafur hon.

“Ond mae’r ysbytai hyn yn llawn oherwydd nad oes gwelyau, ac wrth welyau, rwy’n golygu’r ddarpariaeth staffio angenrheidiol i gynnal y gwelyau hynny.

“Ers cryn amser bellach, mae ysbytai yng Nghymru wedi cael anhawster mawr i reoli heintiau mewn ysbytai. Rwy’n cofio dadlau dros ddeng mlynedd yn ôl mai diffyg gwelyau oedd yn gyfrifol am hyn.

“Os bydd cyfraddau defnydd gwelyau ysbytai yn uwch na 82% yna mae’r heintiau hynny’n fwy tebygol o ledaenu.

“Mae’r ffliw a Covid yn y categori hwnnw, ac maent yn heintiau sy’n cael eu dal ac sy’n cael eu lledaenu mewn ysbytai llawn.

“Ystyriwch cyfnod brig y pandemig Covid: daliodd mwy o bobol yng Nghymru’r firws yn yr ysbyty na thrwy unrhyw fodd arall.

“Ond mae cyfraddau defnydd ysbytai heddiw dros 100%!

“Mae diffyg buddsoddiad mewn nyrsys a staff clinigol wedi arwain yn uniongyrchol at yr argyfwng hwn.

“Cyn belled ag y mae gogledd Cymru yn y cwestiwn, gellir olrhain hyn yn ôl i gau ysbytai cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Llangollen, y Fflint a Phrestatyn, yn ogystal â chael gwared ar welyau cymunedol eraill.

“Rwy’n cofio’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd ddeng mlynedd yn ôl, gan ddweud bod diffyg buddsoddiad yn y gweithlu.

“Un ffordd o ddysgu o’r camgymeriadau hyn yw cynnal ymchwiliad swyddogol i’r pandemig Covid yng Nghymru a fyddai wedyn yn llywio ein dealltwriaeth yn sylweddol ac yn helpu i liniaru heriau tebyg i’n gwasanaeth iechyd.

“Dylai’r Gweinidog dderbyn bod angen ymchwiliad brys arnom.”

‘Ffolineb’

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae’r argyfwng “yn dangos ffolineb penderfyniad ein byrddau iechyd… i gau ein hysbytai cymunedol, a ddarparodd y gofal cymunedol hanfodol sydd ddirfawr ei angen arnom heddiw”.

“Mae cau Ysbyty Cymunedol Blaenau Ffestiniog ym Meirionnydd er enghraifft wedi rhoi pwysau aruthrol ar ein Hysbytai Cyffredinol fel Ysbyty Gwynedd,” meddai.

“O ganlyniad, rydym wedi gweld cleifion yn cael llawdriniaethau’n cael eu canslo, cleifion yn aros oriau ar ôl oriau mewn ambiwlansys ac yn blocio gwelyau – a achosir gan ddiffyg cronig o welyau cymunedol.

“Rhaid i’r Gweinidog edrych eto ar gynlluniau aflwyddiannus y byrddau iechyd i gau ysbytai ac ymrwymo i ailfuddsoddi mewn gwelyau cymunedol fel mater o frys.”