Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi pleidleisio i gefnogi cynnig i achub canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Ionawr 11).
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n gweithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), wedi cyhoeddi eu bwriad i ad-drefnu’r gwasanaeth.
Gallai hynny arwain at gau’r safleoedd yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, a sefydlu un lleoliad canolog.
Mae’r elusen yn dweud y gallai ad-drefnu’r gwasanaeth olygu cyrraedd dros 500 o achosion ychwanegol y flwyddyn.
Diffyg tystiolaeth
“Fe wnes i gefnogi’r cynnig fel y cyflwynwyd heddiw,” meddai Jane Dodds, wrth wneud sylw yn dilyn y ddadl.
“Mae canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon ill dau yn darparu achubiaeth i Ganolbarth a Gogledd Cymru, ar ffurf cymorth feddygol brys a chludiant, oherwydd natur wledig y tirweddau hyn sy’n golygu bod amseroedd aros ambiwlansys confensiynol yn llawer rhy hir.
“Fy marn gref i yw nad yw elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi gallu dangos, trwy dystiolaeth annibynnol, y bydd mwy o fywydau’n cael eu hachub – yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae’r canolfannau ar hyn o bryd – ac felly mae’n rhaid i ni wrthwynebu cau’r ddau.
“Mae cryfder protestiadau’r cyhoedd wedi bod yn glir – fel mae’r cynnig yn nodi – gyda deisebau’n cyrraedd degau o filoedd.
“Mae cymaint o’m hetholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â’r mater hwn, ac rwy’n meddwl y dylai Llywodraeth Cymru fod yn fodlon ymgysylltu â’r mater hwn mewn ffordd fwy ystyrlon nag y maent wedi’i wneud hyd yn hyn.
“Rwy’n meddwl ei bod yn werth nodi hefyd nad yw pryder y cyhoedd am y cynigion hyn yn anghywir, mae hanes hir yn ardaloedd gwledig Gogledd a Chanolbarth Cymru o awdurdodau yn symud gwasanaethau cyhoeddus allan o gymunedau lleol gyda’r addewid y gallant gael mynediad at wasanaethau gwell yn rhywle arall, dim ond i’r addewidion hyn beidio byth â gwireddu.
“Mae’n werth nodi ers i’r cynigion posibl hyn gael eu rhyddhau i’r wasg, mae’r elusen Ambiwlans Awyr wedi bod yn amharod i ddarparu’r data sy’n sail i’r penderfyniad hwn i’r cyhoedd.
“Heb y data, y gellir ei graffu’n annibynnol, nid wyf yn fodlon cefnogi penderfyniad a allai mewn gwirionedd arwain at ddirywiad yn y gwasanaeth i’r trigolion yr wyf yn eu cynrychioli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.”