Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl heddiw (dydd Mercher, Ionawr 11) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw safleoedd yr Ambiwlans Awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng ar agor.
O ystyried daearyddiaeth a phoblogaeth yr ardaloedd hyn, mae mwy o angen nag erioed am wasanaeth ambiwlans awyr sydyn, meddai’r blaid.
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n gweithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), wedi cyhoeddi eu bwriad i ad-drefnu’r gwasanaeth.
Gallai hynny arwain at gau’r safleoedd yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, a sefydlu un lleoliad canolog.
Mae’r elusen yn dweud y gallai ad-drefnu’r gwasanaeth olygu cyrraedd dros 500 o achosion ychwanegol y flwyddyn.
‘Angen yn uwch’
Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’r cynlluniau, ac erbyn hyn mae 20,000 o bobol wedi llofnodi dwy ddeiseb yn galw am gadw’r ddau safle.
“Rydyn ni’n cydnabod gwaith amhrisiadwy Ambiwlans Awyr Cymru, fel y mae pawb sy’n byw yng ngogledd a chanolbarth Cymru, a dyna pam ein bod ni’n arbennig o bryderus am y posibilrwydd o gwtogi’r gwasanaethau a’u symud nhw ymhellach oddi wrthym yn sgil penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig a’r Aelod Senedd dros Sir Drefaldwyn.
“O ystyried bod gan y rhanbarthau hyn boblogaeth fawr o bobol hŷn, rhwydweithiau ffyrdd gwael, ychydig o ysbytai, a sawl lleoliad gwledig lle mae pobol yn debygol o fynd i ddringo neu gerdded, mae’n teimlo fel y byddem yn gweld llai o safleoedd er bod yr angen am yr ambiwlans awyr yn uwch yn yr ardaloedd hyn.
“Mae hyn yn bwysicach nag erioed nawr o ystyried bod gan bobol yng Nghymru siawns 50/50 o gael ambiwlans yn eu cyrraedd o fewn y targed amser pan fo argyfwng lle mae bywyd mewn peryg.
“Dyna pam y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd i weithio gyda phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r elusen i gadw’r safleoedd yn y Trallwng a Chaernarfon.”