Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “breifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.
Yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 10), gofynnodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a fyddai’r Prif Weinidog yn “ymbellhau” o “safbwynt Plaid Lafur yn Lloegr, sy’n galw am fwy o ddefnydd o’r sector preifat sydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, ddatgelu cynllun ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n cynnwys defnyddio meddygon preifat i glirio rhestrau aros.
Mynnodd Syr Keir Starmer nad oedd o’n “siarad am breifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.
‘Preifateiddio trwy brocsi’
“Mae’n dda gweld eich bod yn barod i gydnabod y cynnydd enfawr yn y defnydd o staff asiantaeth y sector preifat wrth ddarparu gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Adam Price.
“Ydy hyn yn golygu eich bod chi’n ymbellhau o safbwynt y Blaid Lafur yn Lloegr, sy’n galw am fwy o ddefnydd o’r sector preifat yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol —preifateiddio trwy brocsi, yn y bôn?
“Ydych chi, fel Llywodraeth, yn barod i ail-ymrwymo i’r egwyddor y gwnaethoch chi arddel 16 mlynedd yn ôl, sef dileu’r defnydd o’r sector preifat yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn llwyr?”
‘Mesur tymor byr’
“Yn sgil Covid a’i sgil effeithiau, byddwn yn gwneud defnydd o rai cyfleusterau yn y sector preifat i gwtogi’r ôl-groniad o bobol sy’n aros am ofal,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Nid wyf yn ymddiheuro am wneud hynny. Rwy’n ei ystyried yn fesur tymor byr i ddelio ag ôl-groniad.
“Pan fydd gennym ôl-groniad o’r math rydyn ni wedi’i weld – ac rydyn ni wedi clywed y prynhawn yma am bobol sy’n aros mewn poen i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw – nid wyf yn ymddiheuro am y ffaith y byddan ni’n defnyddio cyfleusterau yn y sector preifat yma yng Nghymru yn y tymor byr.
“Ar yr un pryd, rydyn ni eisiau meithrin gallu’r gwasanaeth iechyd ei hun, fel ei fod yn y tymor hir yn gallu darparu ar gyfer yr holl anghenion sydd yno yng Nghymru o fewn y gwasanaeth cyhoeddus.”
Galw am fformiwla ar sail anghenion
Er mwyn ceisio datrys y sefyllfa, mae Plaid Cymru’n galw ar Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i ymrwymo i gyllido gwasanaethau cyhoeddus Cymru gan ddefnyddio fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion.
“Mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn ymosod ar staff iechyd ac ambiwlansys ymroddedig, ond dydy amharu drwy streiciau’n ddim byd o’i gymharu â’r amharu cronig sy’n cael ei achosi bob dydd gan eu 13 mlynedd o fwtsiera cyllidebau iechyd,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan.
“Yn y cyfamser, mae gweinidog iechyd Llafur yng Nghymru’n dilyn y llyfr chwarae Torïaidd, gan feio’r cleifion hwythau am safon eu hiechyd.
“Ond dyma’r realiti: mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru’n dioddef yn sgil cyfuniad o gamreolaeth gan Lafur a system gyllido San Steffan sy’n bytholi tlodi.
“Roedd y prif weinidog yn arfer siarad am ‘godi’r gwastad’.
“A fydd o felly’n ymrwymo i gyllido gwasanaethau cyhoeddus Cymru gan ddefnyddio fformiwla’n seiliedig ar anghenion?”
Yn ôl Rishi Sunak, mae Cymru’n derbyn cyfran uwch o gyllid ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd gan ddefnyddio Fformiwla Barnett na Lloegr, ond hefyd £1.2bn ychwanegol o ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref.