Yr Athro Jas Pal Badyal yw Prif Ymgynghorydd Gwyddonol newydd Llywodraeth Cymru.

Yn gemegydd ymchwil sy’n adnabyddus ledled y byd, bydd yn rhoi cyngor am wyddoniaeth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac i weinidogion Llywodraeth Cymru.

Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gallu Llywodraeth Cymru ym maes gwyddoniaeth a chefnogi twf sylfaen wyddoniaeth ac ymchwil gref a deinamig yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’n Athro yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Durham, ac mae’n enwog am ei ymchwil arloesol ar weithredu arwynebau soled ac ychwanegu nanohaenau swyddogaethol ar gyfer cymwysiadau technolegol a chymdeithasol.

Bydd yn dechrau yn y rôl ym mis Chwefror, gan olynu’r Athro Peter Halligan, oedd wedi ymddeol o’r swydd y llynedd.

“Rwy’n llawn cyffro i gael y cyfle hwn i gyfrannu tuag at feithrin economi sgiliau uchel, uwch-dechnoleg, gan helpu i gael effaith gadarnhaol a lles i bobol Cymru,” meddai.

“Mae gan Gymru botensial mawr i ddod yn arweinydd byd o ran datblygiadau arloesol technolegol ac yn targedu rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth heddiw – gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, dirywiad amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, diogelwch bwyd, gofal iechyd, ac anghydraddoldeb cymdeithasol cynyddol.”

Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, wedi croesawu’r penodiad.

“Rwy’n falch iawn o groesawu’r Athro Jas Pal Badyal fel Prif Gynghorydd Gwyddonol nesaf Cymru,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n genedl lle mae gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni i safon uchel. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni’r uchelgais honno.”

Pwy yw’r Athro Jas Pal Badyal?

Enillodd Jas Pal Badyal radd BA a Doethuriaeth o Brifysgol Caergrawnt, lle bu’n Gymrawd Coleg y Brenin a Chymrodoriaeth Oppenheimer.

Yn 1989, symudodd i Brifysgol Durham i fod yn ddarlithydd, a chafodd ei ddyrchafu’n Athro Llawn yn 1996.

Yn 2016, daeth yn Gymrawd etholedig y Gymdeithas Frenhinol (FRS) – Academi Gwyddorau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad.

Caiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ymchwil arloesol ar weithredu arwynebau soled ac ychwanegu nanohaenau swyddogaethol.

Mae Jas Pal Badyal wedi dyfeisio ystod eang o arwynebau newydd ar gyfer cymwysiadau technolegol a chymdeithasol.

Yn sail i’r rhain mae ymchwilio i fecanweithiau sylfaenol a thyfu.

Mae enghreifftiau’n cynnwys gwrthfacteria, cynaeafu niwl, catalysis, rhwystro baeddu, switshau optochiral, hidlo, biosglodion, uwch-anhydreiddio a nano-actol.