Bydd y Fari Lwyd yn cael ei chynnal yn Nhrawsfynydd a bydd plant ysgol yn canu calennig i ddathlu’r Hen Galan nos Wener (Ionawr 13), ac mae un o’r trigolion lleol yn dweud mai “dyfal donc” fydd hi er mwyn atgyfodi’r traddodiad.
Yn draddodiad arbennig yng Nghymru, mae dathliadau Trawsfynydd hefyd yn unigryw ond dydyn nhw ddim wedi cael eu cynnal yno ers blynyddoedd maith.
Ond eleni, maen nhw’n cael eu hadfywio unwaith eto, wrth i benglog ceffyl hobi gael ei osod ar bolyn a’i guddio dan liain a rhubanau a’i gario o bont Trawsfynydd i dafarn y Cross Foxes wrth i bobol ganu penillion.
Bydd plant Ysgol Bro Hedd Wyn yn canu am galennig o flaen yr ysgol, ac un o’r penillion fyddan nhw’n ei ganu yw “Blwyddyn newydd dda i chi ag i bawb sydd yn y tŷ”.
Maen nhw am weld sut mae pethau’n datblygu eleni, meddai Elfed Wyn ap Elwyn, a gweld os oes angen gwelliannau neu newidiadau ar gyfer blynyddoedd i ddod.
Drwy Crowdfunder, maen nhw eisoes wedi casglu £170 ac mae £50 o arian parod wedi ei gasglu hefyd, a bydd arian yn cael ei gyfnewid ar y noson hefyd am ffrwythau a melysion, tra bydd yr ysgol hefyd yn derbyn £100 i’w wario fel y mynnon nhw.
“Gawn ni weld sut mae pethau yn mynd eleni, i gadw pethau’r un fath neu newid pethau,” meddai Elfed Wyn ap Elwyn wrth golwg360.
‘Y cynllun sydd gennyf i yw i’r plant ganu yn yr ysgol.
“Rwy’ wedi dechrau Crowdfunder iddynt gael arian calennig yn y fan honno.
“Rwy’n gobeithio cael bocs lle mae melysion a ffrwythau yn bunt.
“Wedyn fysa’ gweddill yr arian a gasglwyd yn mynd i’r ysgol iddynt wneud fel maen nhw’n mynnu.
“Ar y we, rydym wedi casglu £170 ond mae gennym £50 o arian parod ac efallai y bydd ychydig mwy yn dod dros y dyddiau nesaf.
“Mae’r arian sydd gennym yn ddigon i gael presant i’r plant.”
Ailddechrau traddodiad
Does dim sicrwydd o ran y niferoedd fydd yn dod ynghyd, ond mae’n rhoi gobaith o ddechrau’r flwyddyn newydd mewn ffordd arbennig, gyda llawer iawn o ddigwyddiadau yn Nhrawsfynydd yng nghalendr y gymuned.
“Nid wy’n gwybod faint fydd yn troi fyny eleni, rwy’n gobeithio am y gorau,” meddai Elfed Wyn ap Elwyn wedyn.
“Os mae yna 10,15 neu 20 yn troi fyny, rwy’n meddwl ei fod yn ailddechrau’r traddodiadau.
“Dydy o ddim pwys faint fydd yna yn y dechrau.
“Os mae pobol yn dod ac mae o’n parhau, bydd o’n llwyddiannus yn y diwedd.
“Dyfal donc yw cael pethau i lwyddo.
“Dim ots beth fydd yn digwydd ar y noson, o leiaf fydd y noson yn digwydd.
“Mae’n rywbeth neis fysa’n gallu datblygu.
“Mae yna eisteddfodau yn digwydd un yn Rhagfyr a’r llall yn Chwefror.
“Ac mae Sioe Traws hefyd.
“Mae’r rhain i gyd yn bethau sydd yn digwydd yn y flwyddyn ac rydym yn gwybod pryd maen nhw.
“Mae’n rywbeth i edrych ymlaen ato yn y calendr cymunedol.
“Rwy’n meddwl y byddai hwn yn gallu bod yn rywbeth fyddai’n rhoi wmff i’r flwyddyn newydd i’r gymuned.”
Y calennig yn Nhrawsfynydd
Mae Elfed Wyn ap Elwyn yn dod o draddodiad yn Nhrawsfynydd lle mae wedi clywed sôn am y calennig o fewn ei deulu, gyda llawer iawn mwy o sôn am y traddodiad ymhlith pobol mewn oed yn yr hen ddyddiau.
“Rwy’n cofio dysgu am y calennig gan fy ewythr a modryb,” meddai wedyn.
“Dw i a fy chwaer wedi cael blas bach ohono fo er bo ni ddim yn deall o’n iawn.
“Efallai bod cofnod o rywbeth yn digwydd blynyddoedd yn ôl efo’r Fari Lwyd.
“Efo’r canu calennig, mae sôn gan rai o’r hen bobol.
“Mae llawer iawn o hen bobol yng Nghymru yn cofio’r traddodiadau yma o fewn eu hardal nhw, ac yn sôn am yr hen ddyddiau pan oeddan nhw’n mynd o gwmpas yn blant.
“Hwn fyddai’r tro cyntaf ar gofnod i’r Fari Lwyd ddod ’nôl i Drawsfynydd.
“Efo’r canu calennig, hwn ydy’r tro cyntaf iddo gael ei wneud mewn tipyn o amser.
“Y peth pwysicaf ydy ei fod yn cael ail wynt ac aildanio rŵan.
“Gobeithio y daw yn flynyddol yn Nhrawsfynydd.
“Mae’r traddodiad yn rhywbeth sy’n plethu yn ôl yn y gymuned.
“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig ailddathlu’r traddodiadau yma neu eu dathlu nhw o’r newydd o fewn ein cymunedau.
“Mae’n rywbeth unigryw i ni fel Cymry.
“Mae yna lawer o ddathliadau eraill rydym yn eu gweld o fewn ein cymunedau, fel Plygain.
“Nid yn unig mae dathlu’r traddodiadau yma’n dathlu elfen o Gymreictod a’r pethau unigryw sydd gennym fel gwlad, ond mae bob un gymuned efo’i blas unigryw ei hun.
“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig i’w cadw yn fyw er mwyn dangos bod pob un gymuned yn bwysig.
“Fel roedd Gwynfor Evans yn dweud “Cymuned o gymunedau ydy Cymru.”
“Trwy ddathlu’r traddodiadau yma rydym yn gweld hynny ar ei orau.”
Beth yw’r Fari Lwyd?
Hen draddodiad Cymreig yw’r Fari Lwyd, ac mae’n cael ei ddathlu ar yr Hen Galan yn hytrach na Dydd Calan.
Mae’n draddodiad sydd yn bennaf â’i wreiddiau yn y canolbarth a’r de, ond mae’r arfer bellach ar gynnydd ar hyd a lled y wlad.
Mae anghytuno am wreiddiau’r Fari Lwyd, gyda rhai yn credu ei fod yn draddodiadol Gristnogol, ac eraill yn credu mai arfer cyn-Gristnogol yw e.
Mae Jem Tynrhos, sy’n trefnu’r Fari Lwyd yn Aberystwyth, yn credu ei fod yn gyn-Gristnogol, ac er nad oes neb yn gwybod pryd ddechreuodd y traddodiad, dechreuodd pobol ysgrifennu amdano yn y ddeunawfed ganrif.
Dydy Jem Tynrhos ddim yn credu i’r traddodiad farw’n llwyr erioed, er y ceisiodd y capel Methodistaidd gael gwared arno.
“Er bod pethau tebyg yn digwydd yng Nghernyw ac Iwerddon, mae’r Fari Lwyd yn rywbeth arbennig i Gymru,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r Hen Galan ar Ionawr 13, a dyna rywbeth arall sydd yn cael ei ddathlu sy’n Gymreig iawn.
“Yn y ddeunawfed ganrif, newidiodd y calendr o Julian i Gregorian.
“Pan newidiodd y calendr, collon ni 13 diwrnod o’r calendr a doedd y werin bobol yng Nghymru ddim yn hapus o gwbl.
“Dydyn ni ddim am gael y Calan ar y Cyntaf o Ionawr, ond rydym am ddisgwyl tan y 13eg. Dyna pam mae’n Hen Galan.”