Mae cwmni Reach plc, sy’n berchen ar y Western Mail a’r Daily Post yng Nghymru, wedi dileu 200 o swyddi o ganlyniad i gostau’r cwmni, pwysau chwyddiant a diffyg refeniw o hysbysebion.

Yn ôl adroddiadau, swyddi golygyddion yn bennaf fydd yn mynd, ac mae’r cwmni hefyd wedi dileu nifer o swyddi oedd wedi cael eu hysbysebu.

Mae lle i gredu bod y cwmni’n ceisio arbed hyd at £30m eleni, ond dydyn nhw ddim wedi cadarnhau faint yn union o swyddi fydd yn cael eu heffeithio, ond mae’n debyg y bydd yr union nifer yn ddibynnol ar nifer y staff sy’n gweithio ym mhob adran sy’n wynebu toriadau.

Yn ôl adroddiadau’r cwmni, mae 3,119 allan o 4,671 o staff y cwmni’n gweithio mewn swyddi golygyddol, sy’n cyfateb yn fras i ddau draean o’r gweithlu.

Roedd gostyngiad o 20% mewn incwm o hysbysebion print, tra bod gostyngiad hefyd o 5.9% mewn refeniw digidol yn ystod y tri mis hyd at y Nadolig.

Roedd refeniw cylchrediad wedi codi gan 1.8% o ganlyniad i godi prisiau, ond roedd refeniw ar y cyfan yn is na’r disgwyl o ganlyniad i ddiffyg hysbysebion.

Er bod gan y cwmni gynlluniau i ehangu eu busnes i’r Unol Daleithiau, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut effaith fydd y diswyddiadau’n ei chael ar y penderfyniad hwnnw.

Mae undeb yr NUJ wedi mynegi eu siom, gan ddweud bod “rhaid gwarchod newyddiaduraeth o safon”.