Mae’n bosib y bydd glaw trwm yn achosi llifogydd mewn rhannau o dde a chanolbarth Cymru heno (dydd Mercher, Ionawr 11).

Bydd rhybudd melyn am law trwm yn dod i rym dros y de a’r canolbarth am 9 o’r gloch heno tan 5 brynhawn fory (dydd Iau, Ionawr 12).

Mae disgwyl i’r glaw fod ar ei drymaf yng nghymoedd y dwyrain, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobol fod yn ymwybodol o’r risg am lifogydd.

Ar ôl y glaw dros y dyddiau diwethaf, mae’r ddaear yn wlyb yn barod, sy’n cynyddu’r risg o lifogydd, ac mae yna beryg i afonydd lifo dros eu hymylon yn sgil y cyfnod o dywydd gwlyb hefyd.

‘Eithriadol o beryglus’

Bydd timau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhybuddio os yw afonydd yn cyrraedd lefelau uchel, ac maen nhw’n annog pobol i gadw golwg ar y diweddaraf yn eu hardal.

Mae’r rhybudd sy’n dod i rym heno yn berthnasol dros holl awdurdodau lleol Cymru oni bai am Ynys Môn, Gwynedd, Dinbych, Conwy, Fflint a Wrecsam.

“Mae’r glaw trwm sy’n cael ei ragweld yn debygol o amharu ar ardaloedd o dde a chanolbarth Cymru dros nos a fory, felly rydyn ni’n cynghori pobol i gadw golwg ar rybuddion llifogydd yn eu hardal,” meddai Kelly McLauchlan o Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae ein timau wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn gwneud paratoadau a lleihau’r risgiau posib i gymunedau.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol edrych ar eu risgiau llifogydd ar ein gwefan, sy’n cynnwys ystod o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i baratoi ar gyfer llifogydd posib.

“Cofiwch fod dŵr llifogydd yn eithriadol o beryglus, os gwelwch yn dda, ac ni ddylai pobol geisio cerdded na gyrru drwyddo oni bai bod hynny dan gyfarwyddyd y gwasanaethau brys.”