Mae data sydd newydd ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Ganserau Llai Goroesadwy yn dangos bod ymwybyddiaeth o’r symptomau mor isel ag 1% yng Nghymru.

Mae gan bron i draean o bobol yng Nghymru ffrind neu rywun annwyl sydd wedi oedi cyn ceisio cyngor meddygol wrth brofi symptomau canser llai goroesadwy.

O’r rheini, dywedodd arbenigwyr meddygol wrth 66% ohonyn nhw fod yr oedi hwn wedi effeithio ar eu hopsiynau triniaeth.

Mae’r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn rhybuddio y gall diagnosis hwyr effeithio’n sylweddol ar gyfleoedd bobol o oroesi.

Mae’r tasglu, sy’n cynrychioli chwe chanser sy’n llai goroesadwy – yr ysgyfaint, yr afu, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas a’r stumog – wedi cyhoeddi data newydd i dynnu sylw at symptomau’r canserau hyn er mwyn sicrhau diagnosis cynnar.

Dim ond 16% yw’r gyfradd goroesi pum mlynedd gyfartalog ar gyfer rhain.

Ar y cyd, mae’r canserau llai goroesadwy hyn yn cyfrif am bron i hanner yr holl farwolaethau canser cyffredin yn y Deyrnas Unedig.

Arolwg

Mae arolwg ledled y Deyrnas Unedig gan yr LSCT wedi canfod bod ymwybyddiaeth o symptomau’r canserau mwyaf marwol hyn yn beryglus o isel.

Dim ond 1% o gyfranogion yr arolwg yng Nghymru oedd yn gallu adnabod pob un o symptomau canser yr oesoffagws o’r rhestr gafodd ei chyflwyno iddyn nhw.

Roedd ymwybyddiaeth o symptomau canser yr afu a’r stumog ychydig yn well, sef 2% a 4%, a dim ond 9% oedd yn ymwybodol o holl symptomau canser yr ysgyfaint.

Roedd 11% o’r cyfranogion yn gallu adnabod arwyddion canser y pancreas.

Roedd eu hymwybyddiaeth o symptomau tiwmor yr ymennydd yn uwch, ond dim ond 18% o hyd.

Cawson nhw eu holi hefyd a oes ganddyn nhw ffrind neu rywun annwyl oedd wedi oedi cyn ceisio cyngor meddygol wrth brofi symptomau canser llai goroesadwy, a’r hyn oedd yn bryderus oedd bod canran enfawr o 35% yng Nghymru wedi nodi eu bod nhw.

Dywedodd arbenigwyr meddygol wrth 66% o’r achosion hyn fod yr oedi hwn, yn anffodus, wedi effeithio ar eu hopsiynau triniaeth.

Yn 2022, cyhoeddodd yr LSCT mai dim ond ar ôl derbyniad brys i’r ysbyty neu atgyfeiriad brys gan feddyg teulu oherwydd symptomau mwy difrifol y bydd llawer o gleifion â chanser llai goroesadwy yn cael diagnosis.

Mae’r diagnosis hwyr hwn yn rhannol gyfrifol am ragolygon trychinebus i filoedd o bobol bob blwyddyn gan fod cleifion sy’n cael diagnosis o ganser mewn achos argyfwng yn dioddef canlyniadau llawer gwaeth.

‘Pryder enfawr’

Dywedodd Judi Rhys MBE, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus a Chadeirydd :

“Mae’r diffyg ymwybyddiaeth ynghylch y chwe chanser llai goroesadwy yn codi pryder enfawr,” meddai Judi Rhys, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus a chadeirydd is-grŵp Tasglu Canserau Llai Goroesadwy Cymru.

“Mae’n rywbeth sydd angen ei wella ar frys, yn ogystal â delio â’r angen am ragor o raglenni sgrinio a gwaith atal.

“Fe weithion ni’n galed i sicrhau bod prosiect sgrinio canser yr ysgyfaint yn cael ei ddarparu yng Nghymru – y canser sy’n achosi’r nifer fwyaf o farwolaethau yn y wlad – ac rydym yn falch y bydd hwn yn cael ei weithredu o’r diwedd yn 2023.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd â symptomau i geisio cymorth meddygol cyn gynted â phosibl.

“Os ydy symptomau’n cael eu dal yn gynnar, gellir trin y canserau hyn.

“Rydym yn cefnogi galwadau’r LSCT ar lywodraethau’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ymrwymo i gynyddu cyfraddau goroesi ar gyfer canserau llai goroesadwy i 28% erbyn 2029.”

Symptomau “annelwig”, os o gwbl

“Gall fod yn anodd gwneud diagnosis o ganserau sy’n effeithio ar y llwybr GI, fel canserau’r oesoffagws, y stumog, yr afu a’r pancreas, oherwydd bod y symptomau yn ymddangos yn annelwig, neu ddim o gwbl,” meddai Dr Dai Samuel, Hepatolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Gastroenteroleg Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

“Mae angen i ni wella ein strategaethau sgrinio ar gyfer cleifion sydd mewn perygl o gael y canserau hyn, ond hefyd sicrhau bod y rheini â symptomau cynnar yn cael mynediad amserol at wasanaethau diagnostig i sicrhau eu bod yn cael iachâd neu ganlyniadau triniaeth da.

“Mae angen newid pryder y cyhoedd o ganser ac atgyfnerthu bod ein triniaethau yn dod yn fwy effeithiol bob dydd.”

Bydd symptomau yn amrywio ond gallai achosion pryder ar gyfer canserau llai goroesadwy gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • diffyg traul
  • poen yn yr abdomen
  • colli pwysau heb esboniad
  • colli archwaeth bwyd
  • anhawster llyncu
  • peswch parhaus
  • blinder anesboniadwy
  • cur pen
  • cyfog

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw beth sy’n anarferol i chi, y peth pwysicaf yw ceisio cymorth meddygol at frys.