Mae’n destun “siom” fod cwmni Wizz Air wedi penderfynu canslo’u holl wasanaethau yng Nghymru, yn ôl gwleidyddion.
Yn ôl y cwmni, y sefyllfa economaidd bresennol sy’n gyfrifol am y penderfyniad i dynnu’n ôl o Faes Awyr Caerdydd.
Roedden nhw eisoes wedi cyhoeddi na fyddai ganddyn nhw awyrennau’n hedfan i mewn nac allan o Gaerdydd dros y gaeaf.
Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar Faes Awyr Caerdydd, ac yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae’r cyhoeddiad yn codi cwestiynau am sefyllfa’r maes awyr ei hun.
“Mae’n siom wirioneddol gweld cwmni awyrennau arall yn dod â’u hymrwymiad i Faes Awyr Caerdydd i ben, yn enwedig o ystyried y swyddi a’r gweithgarwch fydd yn cael eu colli yn ne Cymru yn sgil y penderfyniad,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.
“Ond yr hyn sy’n peri mwy o bryder yw’r hyn mae’n ei olygu ar gyfer y maes awyr ei hun – dw i wir eisiau ei weld yn ffynnu mewn dwylo preifat, ond yn hytrach mae’n nychu dan berchnogaeth y Llywodraeth Lafur sy’n arwain y maes awyr at ddirywiad terfynol.
“Gallwn ni weld hyn gliriaf wrth edrych ar niferoedd y teithwyr yng Nghaerdydd, sydd 44% yn is na chyn y pandemig o gymharu â Maes Awyr Bryste, lle mae gostyngiad o 5%.”
Gwerth am arian?
Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod angen ateb cwestiynau am strategaeth Llywodraeth Llafur ar gyfer dyfodol y maes awyr.
“Gyda bil o £210m ers i Lywodraeth Cymru brynu’r maes awyr, a heb arwydd fod pethau’n gwella, bydd trethdalwyr yn gofyn faint o werth am arian maen nhw’n ei gael.
“Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru arwain yr ymgyrch yn erbyn prynu’r maes awyr o’r sector breifat yn 2013, ac rydyn ni wedi parhau i amddiffyn yr alwad ers hynny.
“Dychmygwch beth ellid fod wedi’i wneud pe bai’r £210m o arian trethdalwyr wedi mynd tuag at drafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru yn lle [y maes awyr].”
‘Sefyllfa economaidd heriol’
Mewn datganiad, dywed rheolwr gyfarwyddwr y cwmni Wizz Air o Hwngari fod sefyllfa facro-economaidd “heriol” a chostau rhedeg uchel, gan gynnwys costau tanwydd, yn golygu nad ydyn nhw’n gallu parhau i hedfan o Gaerdydd.
“Rydyn ni’n ymddiheuro’n ddiffuant i’n holl gwsmeriaid yng Nghymru ac yn ne-orllewin Lloegr am yr amharu a’r anghyfleustra fydd hyn yn ei achosi,” meddai Marion Geoffroy.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod ni’n cysylltu’n uniongyrchol â phob cwsmer fydd yn cael eu heffeithio gyda chyngor clir am eu hopsiynau, ac edrych ar ôl ein cydweithwyr a’n criw yng Nghaerdydd.”
Galw am gefnogaeth San Steffan
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “amlwg yn siomedig” â’r penderfyniad hefyd.
“Mae ein cynllun adfer Covid yn parhau yn ei le, ond yn amlwg mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn hynod o anodd i’r sector hedfanaeth.
“Mae meysydd awyr llai yn hanfodol i economïau rhanbarthol ar draws y Deyrnas Unedig ac rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu’r gefnogaeth i’w rhoi ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.”